Problem hunan-ddelwedd ymhlith merched ar ei gwaethaf erioed : Golwg360

Mae’r straen sy’n gysylltiedig â’r ffordd y mae merched ifanc yn edrych arnyn nhw’u hunain a’u cyrff, wedi cyrraedd ei lefel gwaethaf erioed.

Mae mwy na phedair o bob deg o fenywod (42%) rhwng 16 a 24 oed wedi profi straen yn gysylltiedig â’r ffordd y maen nhw’n edrych – canran sydd wedi cynyddu 26% ers 2016.

Yn ôl yr adroddiad gan ddadansoddwyr Mintel:

“Mae’r chwilio cyson am ddelfrydau anarferol o brydferthwch yn cael effaith gadarn ar ferched ifanc, sy’n adrodd yn gynyddol am eu hymddangosiad corfforol fel ffactor o straen ac anfodlonrwydd.”

Yn gyffredinol, eleni, mae 91% o bobol 16 i 24 oed wedi profi straen o ganlyniad i’r ffordd maen nhw’n edrych, o gymharu â 77% o bobol dros 55 oed.

Darllen rhagor : Golwg360