Magu hyder a hunan-barch
Ydych chi o hyd yn meddwl y gwaethaf o’ch hun? Neu ydych chi’n teimlo nad oes hyder gyda chi? ‘Dydych chi ddim ar ben eich hun – mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn o dro i dro.
Hunan-barch yw sut ydyn ni’n meddwl am ein hun. Mae bod yn hyderus yn golygu bod yn gyfforddus gyda sut ydyn n’n edrych ac yn teimlo. Mae’n golygu teimlo’n dda am ein hun, ein meddyliau, a’r hyn y gallwn ei wneud. Gall magu hyder gymryd amser, ond gall gymryd camau bychain arwain at newid mawr yn y pendraw.
Awgrymiadau ar sut i fagu hyder
Edrychwch ar eich hun yn wahanol
Waeth sut ydych chi’n teimlo, ceisiwch feddwl am un peth ‘rydych chi’n hoffi am eich hun. Gall fod eich gwallt, eich synnwyr digrifwch neu eich sgiliau pêl-droed. Unwaith ‘rydych chi wedi dechrau ar hyn, gallwch ddechrau feddwl am fwy o bethau a chreu delwedd bositif o’ch hun.
Rhowch gynnig ar rywbeth newydd
Ceisiwch wneud rhywbeth newydd bob dydd. Dylai hyn fod yn rhywbeth na fyddech chi fel arfer yn ei wneud. Gall fod yn beth bach, fel newid sdeil eich gwallt, gwirfoddoli neu ymuno â chlwb. Bob tro fyddwch chi’n gwneud rhywbeth newydd, byddwch chi’n camu’n araf allan o’r hyn sy’n gyfforddus i chi – eich comfort zone, ac yn gwneud dechreuad newydd. Bydd y cyffro y byddwch yn ei gael o’r newidiadau hyn yn codi eich hyder. Efallai bydd y pethau hyn yn ymddangos yn frawychus i ddechrau, ond ar ôl i chi eu gwneud unwaith, byddwch chi’n magu’r hyder i’w wneud eto, ac yn y pendraw, bydd yn dod yn naturiol i chi.
Byddwch yn garedig
Gall helpu pobl eraill wneud i chi deimlo’n werthfawr. Helpwch ffrind neu gwnewch dasg fach yn wirfoddol. Ffoniwch rywun nad ydych wedi siarad â nhw ers sbel. Pobwch gacen neu goginio pryd o fwyd i rywun. Cynigiwch fynd â chi eich cymydog am dro neu wirfoddoli i elusen.
Yn yr un modd ag yr ydych yn garedig wrth bobl eraill, byddwch yn garedig wrthych chi eich hun. Ceisiwch osgoi siarad â’ch hun mewn ffordd negyddol, a chymerwch ofal o’ch hun.
Newidiwch y ffordd ‘rydych chi’n meddwl
Gall feddwl am bethau cadarnhaol fod yn anodd os ydych chi wedi arfer â beirniadu eich hun. Ceisiwch ysgrifennu am eich hwyliau bob dydd. Bydd hyn yn eich annog i gwestiynu’r meddyliau negyddol a chymryd mwy o sylw o’r pethau anhygoel sy’n eich gwneud chi yn chi. Pan ddaw syniad negyddol i’ch meddwl, gofynnwch i’ch hun: pa mor wir yw hwn? Yna ceisiwch feddwl am feddyliau cadarnhaol i’w ddisodli. Gall helpu os ydych chi’n meddwl am sut fyddech chi’n cysuro ffrind petaen nhw yn yr un sefyllfa.
[Ffynhonnell: childline.org]