Dyddiadau
Dyddiadau sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Hunan-niweidio (SIAD) ar y 1af o Fawrth yn flynyddol.
Mae ymwybyddiaeth yn arwain at ddealltwriaeth ac empathi, yn helpu gwaredu beirniadaeth ac ofn, ac yn lleihau’r nifer o bobl sy’n teimlo’n unig ac yn dioddef yn dawel.
Bwriad Diwrnod Deubegwn y Byd (WBD) yw codi ymwybyddiaeth ynghylch anhwylder deubegwn ar draws y byd.
Trwy gydweithio rhyngwladol, nod WBD yw rhannu gwybodaeth am anhwylderau deubegwn â phawb yn y byd er mwyn addysgu a gwella sensitifrwydd tuag at y salwch. Fe’i hyrwyddir gan y Sefydliad Deubegwn Rhyngwladol a phartneriaid.
Mis i godi ymwybyddiaeth am Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a’i effaith ar iechyd meddwl.
Dyddiadau sydd wedi mynd heibio, ond bydd nifer yn digwydd unwaith eto y flwyddyn nesaf!
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Galar, a drefnir gan The Good Grief Trust, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o alar a cholled, torri’r tabŵ sy’n gysylltiedig â galar, normaleiddio sgyrsiau am golled, ac i helpu’r rhai sy’n byw gyda galar.
Wythnos i godi ymwybyddiaeth o achosion cymhleth dibyniaeth, ac i herio’r stigma o’i gwmpas.
Bob blwyddyn, nodir Diwrnod Ymwybyddiaeth Straen ar ddydd Mercher cyntaf mis Tachwedd. Nod y digwyddiad yw sicrhau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo pwysigrwydd lles i unigolion a sefydliadau.
Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Dynion, ac mae’r sefydliad Movember yn defnyddio’r mis i godi ymwybyddiaeth o’r rhai sy’n mynd i’r afael â chanser y brostad a’r ceilliau, iechyd meddwl a hunanladdiad.
Nod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ydy codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ar draws y byd.
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn, ond mae 10 Hydref yn ddiwrnod penodol i ddangos eich cefnogaeth i well iechyd meddwl a dechrau gofalu am eich lles eich hun.
Dechreuodd #OCDWeek yn 2009 i rannu gwybodaeth a lleihau stigma o amgylch Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ac anhwylderau cysylltiedig. Bob blwyddyn ym mis Hydref, mae grwpiau cymunedol, sefydliadau, a chlinigau ledled y byd yn dathlu gyda sgyrsiau addysgol, arddangosiadau celf, codi arian ar lawr gwlad, a mwy.
Cynhelir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar y 10fed o Fedi. Mae’n ddigwyddiad blynyddol a drefnir gan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Atal Hunanladdiad (IASP) a Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).
Os oes angen cymorth brys arnoch, ewch i’r dudalen hon.
Diwrnod i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n byw gyda sgitsoffrenia. Mae’n nodi’r camau y gall pob un ohonom eu cymryd i chwalu’r stigma a’r gwahaniaethu sy’n gysylltiedig â’r salwch hwn sydd wedi’i gamddeall yn fawr.
Wythnos i godi ymwybyddiaeth am broblemau sy’n gysylltiedig ag alcohol, ymgyrchu dros newid, a mwy. Trefnir gan Alcohol Change UK.
Nod y diwrnod yw addysgu am Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) ac annog pobl i siarad amdano. Mae’n pwysleisio fod triniaeth ar gael a bod gobaith am fywyd gwell.
Pwrpas Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw i annog pobl i siarad am iechyd meddwl, a chodi ymwybyddiaeth o salwch meddwl.
(union ddyddiad ym mis Mai i’w gadarnhau)
Mae wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl amenedigol, a drefnir gan Perinatal Mental Health Partnership UK, yn codi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl a allai ddigwydd cyn, yn ystod, neu ar ôl beichiogrwydd.