Cymorth ar frys mewn argyfwng
Os ydych chi’n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun, neu os ydych chi wedi niweidio eich hun yn ddifrifol, dylech gael cymorth meddygol ar frys:
- ffoniwch 999 am ambiwlans
- Ewch i Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys (A+E) lleol
- Ffoniwch eich tîm argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych chi
Os na allwch wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu. Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Dydych chi ddim yn gwastraffu amser unrhyw un.
Os gallwch chi gadw’ch hunan yn ddiogel am ychydig, ond rydych chi’n dal angen cyngor brys:
- Ffonio 111 a dewis opsiwn 2 i gysylltu â GIG (NHS) Cymru
- Cysylltwch â’ch meddygfa a gofyn am apwyntiad brys
- Darllenwch ein gwybodaeth ar ymdopi â meddyliau hunanladdol
- Gweler hefyd gyngor ar sut i helpu rhywun arall sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.
- Defnyddiwch adnoddau argyfwng iechyd meddwl Mind (Saesneg)
Siarad gyda rhywun ar unwaith
- Ffonio 111 a dewis opsiwn 2 i gysylltu â GIG Cymru
- Ffonio C.A.L.L. ar 0800 132 737 neu decstio help i 81066.
- Ffoniwch y Samariaid ar 116 123 (Saesneg, 24/7) neu 0808 164 0123 (Cymraeg, 7pm–11pm bob dydd)
- Mae yna fwy o rifau ffôn a chysylltiadau ar ein tudalen dolenni cymorth.
Mae’r gwasanaethau hyn ar gyfer unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi. Fyddan nhw ddim yn eich barnu. Maen nhw i gyd am ddim, yn anhysbys, ac ar agor bob amser.
Teimladau hunanladdol – Sut alla i ymdopi nawr?
Mae’r dudalen yma ar wefan Mind yn egluro beth yw teimladau hunanladdol a beth allwch chi ei wneud. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.