Dynion

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ond gall stigma wneud dynion yn bryderus i fod yn agored am eu profiadau a gofyn am gymorth.

Mae iechyd meddwl ymysg dynion yn parhau i fod yn bwnc tabŵ, gyda llawer o ddynion yn dioddef mewn distawrwydd pan fyddant yn profi teimladau o iselder, tristwch, unigrwydd neu bryder.

Mae’r rôlau rhywedd cymdeithasol yn cymhlethu’r mater ymhellach gan fod llawer o ddynion yn teimlo nad ydyn nhw’n “ddyn” os ydyn nhw’n dangos unrhyw arwydd o wendid. Efallai y bydd rhai dynion yn methu cydnabod arwyddion o broblemau iechyd meddwl ac yn anfodlon neu’n methu â cheisio cymorth.

Mae’n bwysig adnabod yr arwyddion megis cymryd risg, dibyniaeth, colli brwdfrydedd a newidiadau mewn diet neu drefn ac annog ein gilydd i siarad am sut rydyn ni’n teimlo – does dim cywilydd mewn teimlo’n isel, yn bryderus neu ar goll; mae pawb yn profi’r emosiynau hyn.

Pam na fydd 40% o ddynion yn siarad am eu hiechyd meddwl

Yn 2015 comisiynodd Priory arolwg o 1,000 o ddynion yn y Deyrnas Gyfunol a ddatgelodd:

  • Bod 77% o’r dynion a holwyd wedi dioddef o orbryder / straen / iselder.
  • Mae’r mwyafrif o ddynion yn teimlo bod eu hiechyd meddwl yn cael effaith negyddol ar eu perfformiad yn y gwaith, a’u gallu i gynnal perthynas ac i fagu plant.
  • Bod 40% o’r dynion a holwyd yn dweud y byddai’n cymryd meddyliau hunanladdol neu hunan-niweidiol i’w gorfodi i geisio cymorth proffesiynol.

Ymchwil gan y Samariaid

Yn ôl ymchwil gan y Samariaid, nid yw dau ym mhob pump (41%) o ddynion yn Lloegr, yr Alban a Chymru, sydd rhwng 20 a 59 oed, yn chwilio am gymorth pan fydd angen, oherwydd mae’n well ganddynt i ddatrys problemau eu hunain.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos nad yw dynion am deimlo fel baich, ac nid ydynt yn teimlo y byddai pobl eraill yn deall eu problemau.