Dyddiadau
Dyddiadau sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl.
There are no upcoming events.
Dyddiadau sydd wedi mynd heibio, ond bydd nifer yn digwydd unwaith eto y flwyddyn nesaf!
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau bwyta yn ddigwyddiad rhyngwladol sy’n herio’r mythau a’r camddealltwriaeth sy’n ymwneud ag anhwylderau bwyta.
Trefnir gan yr elusen anhwylderau bwyta, Beat.
Nod Wythnos Iechyd Meddwl Plant yw cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
Trefnir yr wythnos yn flynyddol gan Place2Be sy’n darparu cymorth ac hyfforddiant arbenigol mewn ysgolion i wella lles emosiynol disgyblion, teuluoedd, athrawon a staff yr ysgol.
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn gyfle i ni gyd fod yn fwy agored ynglŷn ag iechyd meddwl – i siarad, i wrando, ac i newid bywydau.
Mae’n hawdd meddwl nad oes byth adeg iawn i siarad am iechyd meddwl. Ond po fwyaf rydyn ni’n siarad amdano, y gorau fydd bywyd pob un ohonom ni.