Dadwireddu ydy teimlo nad ydych chi a/neu eich amgylchedd yn real.
Teimlo eich bod yn gwylio eich hun o du allan i’ch corff neu yn teimlo nad yw pethau o’ch cwmpas yn real.
Mae datgysylltu yn un ffordd mae’r meddwl yn ymdopi â gormod o straen.
Yn cefnogi’r rhai sy’n profi Dadbersonoli a Dadwireddu, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflyrau.
Non Parry-Williams o grŵp pop Cymraeg Eden, a Manon Elin o wefan meddwl.org sy’n ymuno ag Alpha y tro hwn i drafod eu profiadau o ddioddef ag iechyd meddwl gwael, a chyngor ar sut i ymdopi, fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Trefnwyd gan Brifysgol Abertawe.
Mae byw gyda dadwireddu a gorbryder yn gwneud y pethau symlaf yn anodd.
Erbyn hyn, dwi’n deall fy salwch. Dwi’n deall pam fod gen i’r salwch. A dwi hyd yn oed wedi derbyn bod y salwch yn rhan o fy mywyd bellach. Ond nid yw hynny oll yn gwneud y profiad yn un llai brawychus ac unig.
Wrth drafod iechyd meddwl, un o’r pethau pwysicaf yw’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn mynegi teimladau, meddyliau ac emosiynau. Mae hyn yn cynnwys yr iaith a ddefnyddir.