Fel arfer mae’n disgrifio’r profiad lle rydych yn teimlo eich bod wedi datgysylltu mewn rhyw ffordd oddi wrth y byd o’ch cwmpas neu oddi wrth eich hun.
Teimlo eich bod yn gwylio eich hun o du allan i’ch corff neu yn teimlo nad yw pethau o’ch cwmpas yn real.
Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.
Mae datgysylltu yn un ffordd mae’r meddwl yn ymdopi â gormod o straen.
Yn cefnogi’r rhai sy’n profi Dadbersonoli a Dadwireddu, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflyrau.
Cyngor a gwybodaeth i rai sy’n byw gyda salwch meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy’n byw gyda salwch meddwl.
Llinell gymorth i unrhyw un sydd angen rhywun i wrando arnynt.
Mae’r Dr. Carwyn Tywyn yn sôn am agweddau o’i hunaniaeth mewn perthynas â’r cyflwr Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol.
Wrth drafod iechyd meddwl, un o’r pethau pwysicaf yw’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn mynegi teimladau, meddyliau ac emosiynau. Mae hyn yn cynnwys yr iaith a ddefnyddir.