Iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio ar ynysoedd Prydain yn ôl Amser i Newid Cymru.
Mae’r DPJ Foundation yn cynnig cymorth iechyd meddwl i ffermwyr yn ne orllewin Cymru.
Mae o leiaf un ffermwr sydd â phroblem iechyd meddwl yn cymryd ei fywyd ei hun bob wythnos yn y DU.
Mae yna bryder y bydd cynnydd mewn problemau iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol oherwydd yr ansicrwydd sydd ynghlwm â’r broses Brexit.
Mae’r profiad o deimlo’n unig ac ynysig mewn cymunedau gwledig yn mynd yn “broblem fwyfwy difrifol”.
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae ffermwyr ar draws Cymru yn cael eu hatgoffa bod hi’n ‘iawn i ddweud’.