UAC yn atgoffa ffermwyr bod hi’n ‘iawn i ddweud’ : UAC

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae ffermwyr ar draws Cymru yn cael eu hatgoffa bod hi’n ‘iawn i ddweud’ ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn eu hannog i beidio anwybyddu problemau, na’i cuddio rhag eu teuluoedd a’u ffrindiau ac i siarad am eu teimladau personol.

Dywedodd Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts:

“Ffocws Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw iechyd meddwl o fewn y gweithle a dyna’n union beth yw ffermydd. Yn ein lleoedd gwaith rydym wedi wynebu ambell i gyfnod reit isel yn ystod yn y blynyddoedd diwethaf. TB mewn gwartheg, ansefydlogrwydd prisiau ac ansicrwydd ynghylch ein dyfodol ar ôl Brexit, mae hyn oll yn ychwanegu pwysau ac yn arwain at nifer yn teimlo baich enfawr.”

Darllen rhagor : Undeb Amaethwyr Cymru