Gwraig yn sefydlu elusen wedi hunanladdiad ei gŵr : Golwg360
Mae Emma Picton-Jones o Sir Benfro wedi bod yn siarad am ei phenderfyniad i sefydlu elusen iechyd meddwl er cof am ei diweddar ŵr, wedi iddi gael sioc bod cyn lleied o gymorth ar gael.
Ers dros ddwy flynedd, mae’r DPJ Foundation yn cynnig cymorth iechyd meddwl i ffermwyr yn ne orllewin Cymru, ac ers mis Ionawr mae’r corff wedi bod yn cynnal llinell gymorth 24 awr y dydd.
Dywedodd Emma Picton-Jones:
“Roedd sylweddoli bod cyn lleied o gymorth ar gael yn sioc anferthol i ddweud y gwir. Dw i’n ferch i ffermwr. Ac o dyfu fyny yn y sector yna dw i wedi gweld y trafferthion sy’n wynebu ffermwyr. Yn anffodus roedd yna ddiffyg llwyr o ran cymorth broffesiynol. Dw i’n athrawes ysgol gynradd, felly os oes gen i unrhyw drafferthion dw i’n medru troi at griw adnoddau dynol. Mi alla i dderbyn cymorth o sawl ffynhonnell. Ond dyw hynny ddim yn wir i ffermwyr. Ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth am hynny.”