Pryder am iechyd meddwl ffermwyr achos ansicrwydd Brexit : BBC CymruFyw
Mae yna bryder y bydd cynnydd mewn problemau iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol oherwydd yr ansicrwydd sydd ynghlwm â’r broses Brexit.
Yn ôl Anne Thomas, sy’n gweithio fel nyrs yn yr Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty Dolgellau, mae hi wedi cael “braw o weld gwir faint y broblem” yn yr ardal.
“Un o’r prif bethau ar feddwl pawb ydy Brexit a’r ansicrwydd o beth sydd yn mynd i ddigwydd. Mae hynny yn bryder gwirioneddol. Mae problemau iechyd meddwl yn debygol o gynyddu.”