Unigrwydd yn “broblem fwyfwy difrifol” yng nghefn gwlad : Golwg360

Mae’r profiad o deimlo’n unig ac ynysig mewn cymunedau gwledig yn mynd yn “broblem fwyfwy difrifol”, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei ymweliad â’r Sioe Fawr ddydd Mawrth, Gorffennaf 24, dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, fod mynd i’r afael ag unigrwydd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Daw hyn wrth i Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer y ddwy flynedd ddiwetha’ ddangos bod tua 17% o boblogaeth Cymru, sef tua 440,000, wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig. Mae’r broblem hon, meddai Llywodraeth Cymru, yn enwedig o wir mewn cymunedau gwledig, gyda bron 20% o’r boblogaeth yn byw mewn cymunedau o lai na 1,500 o bobol.