Hormonau a’r Mislif
Bydd unrhyw un sy’n cael mislif (period) yn gwybod y gall chwarae hafoc gyda’n hwyliau. Gall ein gadael yn teimlo’n ddagreuol, yn flin, yn isel ac yn bryderus. Efallai y byddwn yn cael trafferth meddwl yn glir, a’r cyfan y byddwn eisiau ei wneud yw crio a chysgu.
Mae rhai pobl yn profi Syndrom Cyn Mislif (Premenstrual Syndrome – PMS), Gwaethygiad Cyn Mislif (Premenstrual Exacerbation – PME), neu Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (Premenstrual Dysphoric Disorder – PMDD). Gall y cyflyrau hyn achosi newid sylweddol yn ein hwyliau ar wahanol adegau yn ein cylchred misol.
Syndrom Cyn Mislif (PMS)
Casgliad o symptomau corfforol ac emosiynol yw PMS sy’n dechrau yng nghyfnod lwteal ein cylchred, sef y cyfnod rhwng ofyliad a diwrnod cyntaf y mislif. Yn gyffredinol, mae’r cyfnod hwn yn digwydd wythnos neu ddwy cyn y mislif.
Gall hyn achosi a gwneud i ni deimlo yn:
- Isel
- Blin
- Pryderus
- Blinedig
- Dagreuol
- Anghofus
- Heb ddiddordeb mewn rhyw
- Newidiadau yn ein patrwm cysgu
- Newidiadau yn ein harchwaeth bwyd
Nid yw arbenigwyr yn sicr beth yw union achosion PMS, ond mae’n debygol o fod yn gysylltiedig â newidiadau hormonaidd sy’n digwydd yn ystod ail hanner y cylchred misol.
Gwaethygiad cyn mislif (PME)
Mae PME yn digwydd pan fydd symptomau cyflyrau corfforol ac iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes yn gwaethygu yn ystod cyfnod lwteal cylchred ein mislif. Gyda PME, bydd ein symptomau’n parhau ar ôl y mislif, ond byddant yn llai dwys.
Ymhlith y cyflyrau iechyd sy’n medru gwaethygu cyn y mislif y mae:
- Iselder
- Anhwylderau gorbryder
- Anhwylderau cam-ddefnyddio sylweddau
- Anhwylderau bwyta
- Sgitsoffrenia
- Teimladau hunanladdol
- Meigryn
- Ffitiau
- Asthma
Anhwylder Dysfforig cyn Mislif (PMDD)
Os yw ein symptomau yn ddifrifol, gall hyn fod yn arwydd o anhwylder mwy difrifol, megis PMDD. Y gwahaniaeth rhwng PMDD a PME yw bod y rhai sydd â symptomau PME yn profi symptomau drwy gydol y mis, ond maent yn gwaethygu cyn y mislif. Mae PMDD yn debyg iawn i PMS a PME, ond mae’r symptomau yn fwy difrifol.
Mae’n bosib profi PMDD a PME. Mae hyn yn digwydd pan fydd rhai symptomau yn bresennol drwy gydol y gylchred fisol ac yn gwaethygu yn y cyfnod lwteal. Mae rhai symptomau ychwanegol yn codi yn y cyfnod lwteal yn unig ac yn gwella pan fydd y mislif yn cychwyn.
Gyda PME, mae’r symptomau yn bresennol drwy gydol y gylchred fisol ond yn gwaethygu yn ystod y cyfnod lwteal. Yn achos PMDD, mae’r symptomau yn ymddangos cyn y mislif ac yn gwella o fewn rhai diwrnodau wedi dechrau’r mislif, ac nid ydynt yn bresennol wedi’r mislif.
Mislif a dysfforia rhywedd
Gall cael eich mislif fel person nad sy’n uniaethu fel menyw achosi anesmwythder a gorbryder – yn enwedig pan fydd llawer o bobl yn credu bod y mislif yn gyfystyr â benywaidd-dod. Nid yw pob menyw yn cael y mislif, ac nid yw pawb sy’n cael y mislif yn uniaethu fel menyw.
Os ydych chi’n berson trawsryweddol (transgender) neu anneuaidd (non-binary), gall mislif, PMS, PME a PMDD gynyddu teimladau o anesmwythder â’r rhywedd a neilltuwyd i chi pan gawsoch eich geni.
Darllenwch ragor ymdopi â mislif a dysfforia rhywedd ar wefan Clue.
Sut gallaf ymdopi?
Nid oes triniaeth safonol ar gyfer problemau iechyd meddwl yn ystod PMS a PME, ond gall gwneud rhai newidiadau yn ein ffordd o fyw wella ein symptomau.
Cadw cofnod o’r symptomau
Gall cadw cofnod o’n emosiynau drwy gydol wahanol gyfnodau ein cylchred misol ein helpu i gadarnhau a yw’r symptomau yn gysylltiedig â’n cylchred misol. Gall gwybod bod rheswm pam ein bod yn teimlo’n waeth hefyd helpu i gadw pethau mewn persbectif a dilysu ein profiad.
Dysgu am ein cylchred
Os bydd ein symptomau yn dilyn patrwm, efallai y byddwn ni’n gallu gweithio allan pryd y byddwn ni fwyaf tebygol o ddechrau cael y symptomau hyn yn y dyfodol gan ein helpu i baratoi ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Dulliau rheoli genedigaeth hormonaidd
Gall rhai dulliau rheoli genedigaeth hormonaidd (hormonal birth control methods), megis y bilsen, helpu gyda rhai symptomau corfforol ac emosiynol PMS. Fodd bynnag, i eraill gall dulliau rheoli genedigaeth hormonaidd waethygu symptomau iselder.
Hunanofal
Mae ein cyrff yn gweithio’n galed iawn yn ystod ein mislif, felly mae gwrando ar beth mae ein cyrff a’n hemosiynau yn ei ddweud wrthym yn arbennig o bwysig.
Darllenwch ragor am hunanofal yn ystod y mislif ar wefan ‘Mislif Fi’
Therapi siarad a chwnsela
Gall triniaethau siarad, megis cwnsela, ein helpu gyda’r symptomau seicolegol.
Darllenwch ragor am driniaethau siarad.
Meddyginiaeth
Yn aml, y driniaeth gyntaf a argymhellir ar gyfer PMDD yw meddyginiaeth SSRI, a dyma’r unig fath o wrthiselyddion y dangoswyd eu bod yn gweithio ar gyfer PMDD. Mae rhai astudiaethau wedi awgrymu y gall SSRIau weithio’n wahanol ar gyfer symptomau PMDD o gymharu â’r ffordd maen nhw’n gweithio ar gyfer problemau iechyd meddwl fel iselder.
Ffynonellau
- ‘How hormones affect our mental health’ (blurtitout.org)
- ‘How to deal with premenstrual depression’ (healthline.com)
- ‘How to deal with anxiety before your period’ (healthline.com)
- ‘Anhwyler dysfforig cyn mislif’ (mind.org.uk)
- ‘PMDD v PME’ (iapmd.org)
- ‘Premenstrual magnification: Mental health condisitons and PMS’ (helloclue.com)
- ‘Gender dysphoria and your cycle’ (helloclue.com)
- mislif-fi.cymru
Cysylltwch â ni os hoffech chi rannu eich profiad o PMS, PME, PMDD neu hormonau ac iechyd meddwl.