20 cofnod mwyaf poblogaidd 2018
Dyma restr o’r erthyglau a’r blogiau gwreiddiol mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd ar meddwl.org yn ystod 2018.
1. ‘Torri tabŵ galar’ – Caryl Bryn (20 Medi)
“Rŵan, efallai fod y darn nesa’ ‘ma’n mynd i fod yn un na fyddwch chi isho’i ddarllen ond mae marwolaeth yn dal i gael ei drîn fel tabŵ ac mae angen sgwrs agored amdano a dw i’n mynd i adrodd yr union ddigwyddiadau yr es i, a Mam drwyddyn nhw wedi marwolaeth Dad gan obeithio, y gwnaiff o roi hyder i ambell un leisio’u profiadau – a dydw i’m yn dweud hynny’n wag, chwaith… dw i eisiau bod yn glust, yn gymorth ac yn ffrind i unrhyw un sydd angen hynny.”
2. ‘Mynd reit lan at ddrws marwolaeth a chanu’r cloch a llwyddo dianc cyn odd hi’n rhy hwyr’ – Sioned Martha (9 Gorffennaf)
“Dechreues i off just yn bwyta’n iach a mynd i’r gym am awr neu ddwy ar ôl ysgol diwrnod neu ddau yr wythnos. Yna, oni’n bwyta llai, a llai, wedyn osgoi bwyta brecwast a mynd trw orie o ysgol tan adeg cinio lle o’n i bron llewygu angen cinio. Ar ôl rhyw hanner blwyddyn o dorri lawr bob dim o dan yr haul ro ni’n byw o ddydd i ddydd ar un afal, un fanana a photel o ddŵr. Collais lot lot o bwysau, a ro’n i’n dal i feddwl bo fi’n dew.”
3. ‘Fi ‘di fi’ – Elen Jones (23 Tachwedd)
“Mae hyn yn rywbeth does ‘na’m llawer o bobl yn ei wybod amdana i – dim ond y bobl rwy’n agos atynt sy’n ymwybodol o’r peth. Tydi o ddim fel fy mod i’n trio cadw’r peth yn gyfrinach, jyst dw i byth yn meddwl dod â’r peth fyny mewn sgwrs gan fy mod i’n trio ymddangos fel person ‘cryf’, a dio’m yn rhywbeth ma’ lot o bobl yn gyfforddus yn siarad amdano. Ond y gwirionedd ydy, nid yw iselder yn eich gwneud yn berson ‘gwan’ (er fy mod i’n teimlo fel ’na yn aml iawn).”
4. ‘Un ar hugain ac yn llawn tyllau’ – Iestyn Tyne (10 Mehefin)
“Ers fy niagnosis, mi rydw i wedi injectio fy hun dros 18,000 o weithiau. Bellach, dwi bron yn un ar hugain ac yn llawn tyllau. Does gen i ddim llawer o syniad lle dwi’n mynd efo hwn, ond dyma drïo – â hithau’n Wythnos Diabetes – crynhoi ychydig o be ydi byw hefo cyflwr nad ydi pobl yn gwybod hanner digon amdano, a chynnig – ar sail fy mhrofiadau i, beth bynnag – syniadau ar sut i ddygymod efo effaith y cyflwr hwnnw ar iechyd meddwl yr unigolyn.”
5. ‘Byw efo salwch mam’ – Anna Foulkes (1 Chwefror)
“Tristwch. Euogrwydd. Ansicrwydd. Casineb. Blinder. Gwylltineb. ‘Dwi ‘di teimlo pob un o’r emosiynau yna dros y bedair blynedd ddiwethaf wrth wylio Mam yn brwydro’n erbyn iselder a seicosis. Ond wrth gwrs, ‘dwi hefyd ‘di teimlo’n hapus ar adegau pan mae Mam yn well, pan fydd yr ‘hen Mam’ yn ymddangos eto. Ond fydda i wastad ofn gadael i fi fy hun deimlo’n rhy hapus, achos yn aml iawn pan mae Mam yn cael wythnos neu fis da, mae wythnos neu fis gwaeth na’r tro dwethaf yn dilyn.”
6. ’10 celwydd y bydd iselder yn ei ddweud wrthym’ (12 Chwefror)
“Bwli yw iselder. Mae’n dweud celwydd wrthym ni o hyd ac o hyd. Mae’n dweud pethau ofnadwy wrthym. Gallwn anwybyddu’i eiriau am dipyn bach, ond pan fydd iselder yn ailadrodd y celwydd drosodd a throsodd, byddwn ni’n dechrau’i gredu. Ymhen dim o dro, gall deimlo fel pe bai ein pen yn llawn o gelwyddau. Bydd iselder yn ceisio ein darbwyllo’n aml ein bod ni ddim yn sâl. Mae’n dweud wrthym nad oes iselder arnom ni, mai dim ond diog ydyn ni.”
7. ‘Byw hefo OCD’ – Elis Derby (3 Rhagfyr)
“Sylwais fy mod yn dioddef o ffurf ohono yn ystod fy nghyfnod TGAU (amseru perffaith..), lle daeth symptomau megis gorfod ail wneud symudiadau a gor-lanhau i’r amlwg. Ar hyd y blynyddoedd- datblygodd y symptomau hyn, i’r pwynt lle nad oeddwn yn cael digon o gwsg, a bod fy mywyd cymdeithasol yn segur ofandwy. Bu adegau lle nad oeddwn eisiau mentro allan o fy ystafell wely yn ystod y dydd, ac yn effro tan yr oriau mân yn gor-feddwl digwyddiadau’r diwrnod.”
8. ‘Cwnselwyr Cymraeg’ (17 Tachwedd)
“Dyma restr o gwnselwyr cymwysiedig all gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg. Daw’r manylion isod o wefannau Counselling Directory, BACP a UKCP. Os gwyddoch chi am gwnselwyr cymwysiedig Cymraeg eraill, cysylltwch â ni i’w hychwanegu at y rhestr. Os ydych chi’n fyfyriwr mewn coleg addysg bellach neu brifysgol yng Nghymru, mae hawl gennych i wasanaeth cwnsela yn y Gymraeg.”
9. ‘Iselder ôl-brifysgol’ – Megan Elias (8 Hydref)
“Es i am fy dream job yng Nghaerdydd, ond sioc, neshi’m llwyddo. Roedd hynny wir wedi torri fy nghalon, ac aeth pethau i lawr o hynny ymlaen. Doedd dim gobaith. Roeddwn i’n gweithio oriau anghymdeithasol tra oedd fy ffrindiau i gyd yn dal i gael hwyl gyda’u cyflogau uchel a swyddi da. Roeddwn i yno, yn teimlo fatha failure, yn dal i weithio ar y cyflog isaf posib. Roedd bywyd yn shit. Oni methu cysgu, 4 o’r gloch oedd fy amser gwely arferol, ar ôl oriau o drio troi i ffwrdd ond methu.”
10. ‘Be ‘di galar?’ – Sharon Marie Jones (14 Medi)
“Be ‘di galar? Poen. Poen anioddefol sy’n fy ngwasgu’n dynn ac yn atal anadl. Poen sy’n gwneud i mi ddal fy hun mewn pelen tynn ar dy wely. Poen sy’n gosb am dy garu â’m holl calon. Be ‘di galar? Dagrau. Dagrau sy’n llifo’n ddyddiol ac yn gadael eu holion hallt ar fy mochau. Dagrau sy’n llifo’n dawel ac yn ddirybudd. Be ‘di galar? Tywyllwch. Tywyllwch anhydraidd. Tywyllwch y nos yn fy mygu tra’n gorwedd a’m llygaid yn led-agored.”
11. ‘Y straeon sy’n cyfri’ – Catrin Dafydd (28 Mawrth)
“Y straeon sy’n cyfri yw straeon sy’n cyffwrdd â bywydau pobol. Yn hyn o beth, mae materion iechyd meddwl yn cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd. Os oes modd i gyfres fel Pobol y Cwm gynorthwyo unigolion a theuluoedd drwy gynrychioli sefyllfaoedd sy’n realiti iddynt a’u normaleiddio, yna does bosib ei bod yn cyflawni rôl gymdeithasol bwysig? Yn fy marn i, dyma un o bennaf swyddogaethau drama. Tra bydd pobol, bydd cyfresi sebon a braint tîm Pobol y Cwm yw adrodd y straeon hyn i gymunedau Cymru.”
12. ‘Hunan-ofal’ (1 Ionawr)
“Mae hunan-ofal yn ddull sy’n ein helpu i fodloni ein hanghenion corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol. Mae nifer ohonom yn teimlo’n euog wrth dreulio amser arnom ni’n hunain, naill ai drwy wneud rhywbeth rydym yn ei fwynhau neu wrth ymlacio, ond mae hyn yn hanfodol er mwyn rheoli symptomau iechyd meddwl, yn ogystal â gwarchod ein lles yn gyffredinol.”
13. ‘Iselder – no way ydw i’n gadael iddo ennill!’- Catrin Edwards (27 Awst)
“I fi, does na’m llawer o deimladau gwaeth na theimlo’n unig. Dwi’n dal i gael diwrnodau drwg, ac mae’r hen deimlad o unigrwydd wastad yna. Ges i ddiwrnod fel ma wythnos diwethaf, lle nes i gau fy nheulu allan a rhedeg i llofft i fod yn y tywyllwch ben fy hun. Mae’r peth nath triggerio fi i deimlo’n isel yn cychwyn cadwyn o bethau fyddai’n mynd i boeni amdanynt, a dwi wastad yn diweddu fyny yn meddwl bod na neb i fi droi ato, fel mod i’n styc tu ôl i wal rili tal sydd yn amhosib cael drosto.”
14. ‘Athrawon: sut mae cefnogi disgyblion sydd â chyflwr iechyd meddwl’ (1 Mai)
“Tra bo ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl o fewn y system addysg yn gwella, bydd maint y gefnogaeth a roir i athrawon ac i fyfyrwyr fel ei gilydd yn amrywio o ysgol i ysgol. I athrawon, mae lles a buddiannau myfyrwyr yn flaenoriaeth amlwg. O’r herwydd, mae ar athrawon angen teimlo’n ddigon hyderus i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl. Os ydych yn athro neu’n athrawes, gall yr erthygl hon fod o fudd i chi.”
15. ‘Deuparth gwella ei dderbyn’ – Sioned (13 Chwefror)
“Ma crafangau iselder wedi gafael yn dynn yndda i ers rhai misoedd bellach o ganlyniad i berthynas yn torri lawr. Ma’r peth yn anodd i’w drafod, ond dwi’n teimlo bod angen siarad mas, a dangos ei bod hi’n oce i deimlo braidd yn rybish weithie. Dwi’n berson hynod sensitif ac felly, pan ma ‘na rhywbeth gwael yn digwydd, dwi’n ei gweld hi’n anodd iawn ymdopi â’r peth ac felly ma fy iechyd meddwl yn dioddef yn ofnadwy yn sgil hynny hefyd.”
16. ‘Dim cywilydd, dim cyfrinachau. Cyfathrebwch’ – Rhys Owain Jones (24 Gorffennaf)
“Dwi’n 26 oed ac wedi dioddef gyda gorbryder drwy’r rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn, yn ogystal ag iselder ers cwpl o flynyddoedd. Tan yn ddiweddar, roeddwn i’n ofni siarad am fy nhrafferthion ac wynebu beirniadaeth gan bobl, p’un a oeddwn i’n eu nabod nhw neu beidio. A dweud y gwir, dwi’n dal i gadw hyn i gyd yn gyfrinach rhag llawer o fy ffrindiau agos. Ond yn y bôn, pa fantais sydd i gadw’r pethau hyn i ni’n hunain?”
17. ‘Profiad o Feddyginiaeth’ – Manon Elin (4 Ebrill)
“Pan roeddwn i’n chwilio am wybodaeth am feddyginiaethau, roeddwn i’n gweld llwyth o straeon am beryglon tabledi a’r sgil-effeithiau brawychus. Prin iawn yw’r wybodaeth am eu heffeithiau cadarnhaol. Pwrpas y blog yma, felly, yw rhannu ‘mhrofiad i o gymryd meddyginiaethau ar gyfer cyflwr iechyd meddwl. Dyma’r fath o beth fydden i wedi hoffi darllen am feddyginiaeth wrth benderfynu dechrau cymryd tabledi neu beidio. Roeddwn i eisiau darllen profiad onest, nad oedd yn feirniadol, oedd yn dangos nad yw meddyginiaeth o reidrwydd mor frawychus ag yw’r straeon amdanynt.”
18. ‘Rhyddhau’r Cranc’ – holi Malan Wilkinson (7 Mehefin)
“Yn aml, mi fydda i’n credu mai dim ond be ma’ pobl eisiau ei weld am iechyd meddwl maen nhw’n weld. Dyma oedd fy nghyfle i’w dweud hi fel ag yr oedd hi. Wrth wneud hynny, roedd rhan ohona i’n gobeithio y byddai’r gwaith yn helpu eraill, petai hynny dim ond drwy wneud iddynt deimlo’n llai unig. Gobeithiais hefyd y byddai’r gwaith yn cynnig gobaith. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth ‘da ni gyd yn byw ag o, o ddydd i ddydd. Yr her fwyaf i mi ac i sawl un arall sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl, yw sylweddoli bod modd ymdopi â’r cyflwr a’i ffrwyno gan barhau i fyw bywyd llawn yn y gymuned.”
19. ‘Calon yn curo’n galed. Mygu. Llewygu’ (23 Ionawr)
“Y diwrnod canlynol, fe wnes apwyntiad i weld y meddyg, a cadarnhaodd fy mod wedi profi panic attack. Ond doeddwn i ddim yn ei gredu. Am hir, roeddwn i’n meddwl bod rhywbeth o’i le ar fy iechyd corfforol, rhywbeth mawr. Cefais fy ngyrru am ECG 24 awr ac yn dilyn hynny cefais fy ngyrru am sgan ar y galon, ond roedd fy nghalon yn iawn ac yn iach. Pan fyddai’r meddygon yn dweud wrtha i fy mod yn dioddef gydag anxiety, roeddwn i’n dal i feddwl mai salwch arall oedd arna i. Doeddwn i methu credu y byddai salwch meddwl yn gallu fy ngwneud i fel hyn, fy ngwneud i mor sâl.”
20. ‘Mae’n amser i chi wybod y gwir’ – Luned Gwawr Evans (11 Medi)
“Fe ddes i ofni cyfrannu mewn sgyrsiau rhag ofn y byddai pobl yn dod i feddwl fy mod i’n ddiflas neu yn dwp, heb sôn am sefyllfaoedd gyda grwpiau mawr o bobl. Yn ogystal â hyn, byddwn i’n ailchware sefyllfaoedd yn fy mhen, yn ceisio eu harchwilio a dadansoddi bob brawddeg, yn ffeindio beiau yn fy ymddygiad. Roeddwn i wedi fy mharlysu gan y pryder a’r ofn o’r anhysbys, y meddyliau llethol o beth oedd pobl eraill yn meddwl ohono i yn efryddu unrhyw hunan hyder. Mae hwn dal i fod yn broblem hefyd, er nid i’r un graddau ag oedd e arfer bod.”