Y straeon sy’n cyfri – Catrin Dafydd
Mae Catrin Dafydd yn ysgrifennu i gyfres Pobol y Cwm, sydd wedi portreadu nifer o straeon yn ymwneud ag iechyd meddwl dros y blynyddoedd.
Mae gan gyfres sebon fel Pobol y Cwm sawl cyfrifoldeb. Cyfrifoldeb i greu adloniant sy’n tanio dychymyg gwyliwr a’i ddenu yn ôl ond cyfrifoldeb hefyd i greu straeon y mae modd uniaethu gyda nhw. Yn aml, y straeon hynny sy’n denu pobol yn eu holau beth bynnag.
Mae uniaethu’n aml yn meddwl fod y gwyliwr neu rhywun maen nhw’n ei nabod wedi profi sefyllfa debyg i’r hyn maen nhw’n ei weld ar y sgrîn. A dyma sy’n gwneud cyfrifoldeb cymdeithasol y gyfres mor eglur. Wrth ymdrin â straeon sensitif neu brofiadau dirdynnol y cymeriadau, rhaid gwneud yn siŵr fod Pobol y Cwm yn darlunio sefyllfaoedd mewn modd cyfrifol. Wedi’r cyfan, gallasai dewis y gyfres i ymdrin â stori effeithio ar wyliwr mewn sawl ffordd. Yn aml, mae’r straeon mwyaf dirdynnol yn ymdrin â iechyd corfforol, iechyd meddwl neu faterion cymdeithasol. Yn achos straeon fel hyn, mae rheidrwydd fod y gyfres yn siarad gydag arbenigwyr gan wneud popeth posibl i ddarlunio sefyllfa cymeriad mewn modd sy’n driw gyda’r modd y byddai’n effeithio ar berson go iawn.
Diolch byth, ry’n ni’n byw mewn oes lle mae ‘na gydnabyddiaeth fod gennym ni i gyd iechyd meddwl. Yr unig gwestiwn yw sut mae ein iechyd meddwl ar hyn o bryd. Braint Pobol y Cwm yw cyflwyno sawl agwedd ar bwnc iechyd meddwl gan roi cyfle i gynulleidfa Gymraeg archwilio sefyllfaoedd cignoeth a gonest trwy gyfrwng eu hiaith. Wrth gwrs, nid siaradwyr Cymraeg yn unig sy’n gwylio. Mae gan y gyfres ddilyniant cryf ymhlith gwylwyr di-Gymraeg hefyd.
Mae Pobol y Cwm yn ymfalchio ei bod wedi ymdrin â sawl stori ym maes iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf. Stori cymeriad Iolo Davies-White, er enghraifft, sydd wedi dod i ddysgu sut i fyw gyda’i OCD. Cafodd stori Iolo ei gwobrwyo yng ngwobrau MIND rhai blynyddoedd yn ôl ac roedd yn destun balchder aruthrol i’r gyfres fod elusen sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl yn credu fod Pobol y Cwm wedi portreadu’r stori mewn modd addas ac effeithiol. Stori fawr arall sydd wedi bod ar y sgrîn dros y blynyddoedd diwethaf yw brwydr Ffion gydag alcohol. Bu sawl her ym mywyd Ffion gyda’r gyfres yn ymrwymo i geisio dangos taith hir dymor cymeriad sy’n gorfod byw gydag alcoholiaeth. Cafodd stori Gemma hefyd gryn sylw yn ei chyfnod wrth iddi ddarganfod fod ganddi Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (Borderline Personality Disorder).
Ac ar brydiau dyma’r tro cyntaf i gyflyrau o’r fath gael eu portreadu’n greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg…
Wrth gwrs, stori sydd ar flaen meddyliau’r gwylwyr ar hyn o bryd yw hanes Doctor Elgan sy’n byw gyda chyflwr PTSD wedi iddo brofi sefyllfaoedd trawmatig tra’n fedic yn y fyddin. Wrth benderfynu portreadu’r stori hon, roedd y gyfres yn hollol ymwybodol o’r cyfrifoldeb oedd ar ei hysgwyddau i sicrhau ei bod yn adrodd hanes Dr Elgan mewn modd cyfrifol a sensitif. Yn hynny o beth, mae’r sgwenwyr a’r tîm golygyddol yn anhygoel o ffodus o’u perthynas gyda MIND a COMBAT STRESS ynghyd â sawl elusen arall. Drwy’r flwyddyn, mae’r gyfres mewn cyswllt cyson gyda’r arbenigwyr a’r lladmeryddion hyn. Ac ar brydiau wrth gwrs, dyma’r tro cyntaf i gyflyrau o’r fath gael eu portreadu’n greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg.
I gyd-fynd gyda stori Doctor Elgan, ar Ebrill y deunawfed mae S4C a Pobol y Cwm yn darlledu rhaglen ddogfen arbennig am PTSD. Yn y rhaglen, bydd Bryn Fôn (sy’n actio rhan Doctor Elgan) yn dysgu rhagor am PTSD ac yn cyfarfod gyda phobol sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae’r ffaith fod modd i straeon Pobol y Cwm gael eu harchwilio drwy gyfrwng rhaglenni dogfen o’r fath yn rhoi cyfle i wylwyr fynd dan groen pwnc ymhellach a gobeithio, yn dod â mater sydd o bwys cymdeithasol i sylw rhagor o bobol.
Braint tîm Pobol y Cwm yw adrodd y straeon hyn i gymunedau Cymru
Y straeon sy’n cyfri yw straeon sy’n cyffwrdd â bywydau pobol. Yn hyn o beth, mae materion iechyd meddwl yn cyffwrdd â’n bywydau ni i gyd. Os oes modd i gyfres fel Pobol y Cwm gynorthwyo unigolion a theuluoedd drwy gynrychioli sefyllfaoedd sy’n realiti iddynt a’u normaleiddio, yna does bosib ei bod yn cyflawni rôl gymdeithasol bwysig? Yn fy marn i, dyma un o bennaf swyddogaethau drama. Tra bydd pobol, bydd cyfresi sebon a braint tîm Pobol y Cwm yw adrodd y straeon hyn i gymunedau Cymru.