Byw hefo OCD – Elis Derby

Dwi newydd droi’n 22 oed, ac yn byw yn Manceinion ers bron i 3 mis bellach. Rwyf yn gyfarwydd hefo’r strydoedd erbyn hyn, ar ôl byw ‘lawr y lôn’ yn Salford, lle bues i’n astudio cerddoriaeth yn y Brifysgol. Rwy’n dod nôl i Gymru reit gyson, i ddal fyny hefo ffrindiau, ond yn bennaf i berfformio gigs. Mae fy mywyd cymdeithasol yn reit iach- gan fy mod yn cyfarfod yn aml hefo ffrindiau o’r ddwy ochr i’r ffin.

Rŵan fy mod wedi cyflwyno fy hun, i’r rhai sydd ddim yn fy adnabod mor dda- dwi’n dioddef o OCD. I nifer, nid yw hyn yn swnio fel rhywbeth a all effeithio yn ormodol ar fywyd o ddydd i ddydd, ond mi allai gadarnhau ei fod wirioneddol yn salwch meddwl annifyr, a reit ddifrifol ar adegau- ac yn cael ei gamystyried yn ofnadwy yn yr oes bresennol. Yn aml rwy’n clywed y term “I’m a little bit OCD”, i ddisgrifio bod fymryn yn ffysi pan mae’n dod i luniau yn hongian yn gam ar waliau, er enghraifft, neu rhywun sydd ddim yn licio mymryn bach o lanast. Os mai dyma’r achos- mi fyswn innau wrth fy modd cael bod yn ‘little bit’ OCD hefyd- ond fel y rhan fwyaf o afiechydon meddyliol, dim chi sy’n dewis y raddfa.

Mae OCD yn sefyll am ‘Obsessive Compulsive Disorder’- ac yn effeithio ar filiynnau o bobl o gwmpas y byd.

Sylwais fy mod yn dioddef o ffurf ohono yn ystod fy nghyfnod TGAU (amseru perffaith..), lle daeth symptomau megis gorfod ail wneud symudiadau a gor-lanhau i’r amlwg. Ar hyd y blynyddoedd- datblygodd y symptomau hyn, i’r pwynt lle nad oeddwn yn cael digon o gwsg, a bod fy mywyd cymdeithasol yn segur ofandwy. Bu adegau lle nad oeddwn eisiau mentro allan o fy ystafell wely yn ystod y dydd, ac yn effro tan yr oriau mân yn gor-feddwl digwyddiadau’r diwrnod. Rwyf dal yn dioddef o honno i bwynt hyd heddiw- ond erbyn hyn ar ffurf fymryn yn wahanol.

Rwy’n cael rhai diwrnodau heb boeni o gwbl, ac yn byw o ddydd i ddydd fel pawb arall, a rhai eraill lle rwy’n ffeindio’n hun yn gorffwys pob hyn a hyn, ar ôl cael y symptomau yn gyson, sy’n achosi i mi fod yn feddyliol flinedig (mentally exhausted) ar ôl cyfnod hir. Nid yw’n cael ei ystyried o ddifri o bellffordd. Gallaf feddwl am enghraifft diweddar lle roeddwn yn sefyll ar blatform trên Oxford Road, ac yn cael un o fy mhlyciau o deimlo yn anghyffyrddus o gwmpas pobl, ac roedd hynny i’w weld yn amlwg yn y ffordd roeddwn yn ymddwyn (fymryn yn aflonydd, poenus yr olwg). Roeddwn yn gweld bod un o’r stiwardiaid yn edrych yn wirion arnaf ac yn trio denu sylw ei ffrind, felly mi esboniais yn fras; “Sorry, I’ve got OCD“- ond ni newidiodd ei ymddygiad.

Pe taswn yn gallu cael unrhyw neges i ddod allan o’r blog yma, mi fyswn yn annog unrhyw un i fod yn fwy ystyriol o bobl sydd â’r salwch, ac i annog pobl i beidio cysylltu OCD hefo’r stigma o fod yn ‘ffysi’ neu yn ‘freak’. Tydw i, na’r miloedd eraill sy’n dioddef ohono yng Nghymru heb ddewis y ffordd yma o fyw, nac eisiau dioddef mwyach o’r symptomau gwahanol o ddydd i ddydd, ond does gennym ni’r help. Dwi’n gwybod fy mod yn fwy lwcus nac eraill, a hefo teulu a ffrindiau cefnogol iawn. Rwy’n lwcus hefyd yn y cyd destun fy mod yn gallu mwynhau nosweithiau allan, gigs, a gwyliau, heb orfod meddwl am fy nghyflwr yn ormodol, sydd yn fwy na allir ei ddweud am nifer o bobl sydd yn byw hefo salwch meddyliol.

Braf (mewn ffordd) yw gweld ymwybyddiaeth o’r ffactorau gwahanol yn cael eu crybwyll yn gyson- ond mae ‘na dal lot i wneud.


Darllen rhagor:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb