10 Celwydd y Bydd Iselder yn ei Ddweud Wrthym

Bwli yw iselder. Mae’n dweud celwydd wrthym ni o hyd ac o hyd. Mae’n dweud pethau ofnadwy wrthym.

Gallwn anwybyddu’i eiriau am dipyn bach, ond pan fydd iselder yn ailadrodd y celwydd drosodd a throsodd, byddwn ni’n dechrau’i gredu. Ymhen dim o dro, gall deimlo fel pe bai ein pen yn llawn o gelwyddau.

 

1. Mae iselder yn ceisio ein darbwyllo nad ydym ni’n sâl mewn gwirionedd

Bydd iselder yn ceisio ein darbwyllo’n aml ein bod ni ddim yn sâl. Mae’n dweud wrthym nad oes iselder arnom ni, mai dim ond diog ydyn ni. Ein bod ni’n gorymateb ac yn gwneud ffws. Ein bod ni’n gwneud hyn i ennill sylw. Ac am nad ydym ni’n sâl, taw ein bai ni yw’r ffordd rydym ni’n teimlo. Am nad ydyn ni’n sâl, dydyn ni ddim yn haeddu cael help na chymorth.

Dyma gelwydd peryglus. Salwch yw iselder, ac nid ein bai ni. Dydyn ni ddim wedi dyfeisio hwn ar gyfer rhesymau hunanol. Dydyn ni ddim yn dyfeisio’r peth. Rydym ni’n sâl ac mae angen help arnom ni, ac mae angen cefnogaeth arnom ni i wella. Efallai y bydd angen moddion arnom ni i’n helpu i ddygymod. Efallai y bydd angen i ni gael amser o’r gwaith nes i ni ddod i le ble gallwn ni weithio eto. Mae salwch arnom ni.


2. Mae iselder yn dweud wrthym mai ein bai ni yw popeth

Mae iselder wrth ei fodd yn dweud wrthym mai ein bai ni yw popeth – hyd yn oed bethau nad oes gennym ni ddim rheolaeth drostyn nhw. Mae’n dweud ein bod ni’n gyfrifol am bethau sydd yn y newyddion. Y cyfan wnawn ni fydd achosi problemau. Ein bai ni yw popeth.

Mae iselder yn dweud celwydd eto. Mae hi’n amhosibl i bopeth yn y byd fod yn fai arnom ni. Ydyn, rydym ni’n gwneud camgymeriadau weithiau, mae pawb yn gwneud. Does neb yn berffaith. Ond hyd yn oed os ydym ni’n gwneud camgymeriad – mae hynny’n iawn! Nid ein bai ni yw popeth.


3. Mae iselder yn dweud wrthym nad oes neb yn poeni amdanom nac yn ein hoffi

Mae iselder yn dweud wrthym nad oes neb yn ein caru. Nad oes neb yn poeni amdano. Fod y bobl sydd yn ein bywydau yno am eu bod yn teimlo dyletswydd neu drueni drosom. Mae’n dweud wrthym y byddai popeth yn well pe na baem ni erioed wedi cael ein geni. Mae’n dweud wrthym nad oes modd i neb ein caru ni.

Mae iselder mor bell ohoni. Mae pobl yn ein caru. Maen nhw’n poeni amdanom Mae byddin gyfan o bobl yn ein cefnogi, hyd yn oed os yw’n anodd i ni weld hynny weithiau. Y gwir plaen yw ein bod ni’n cyfri – a’n bod ni’n cyfri i’r bobl o’n cwmpas. Dydyn ni ddim ar ein pen ein hun.


4. Mae iselder yn dweud wrthym nad ydym ni’n ddigon da

Mae iselder yn dweud wrthym nad ydym ni’n ddigon da. Ein bod ni’n anobeithiol, yn dwp, yn israddol. Bob tro y byddwn ni’n gwneud rhywbeth, mae’n sibrwd yn ein clust y dylem ni fod wedi gwneud yn well. Waeth pa mor galed y byddwn ni’n ymdrechu, a beth bynnag wnawn ni, dydyn ni byth, byth yn ddigon da.

Mae sibrydion iselder yn greulon ac yn ddiangen. Rydym ni’n ddigon – rydym ni wastad yn ddigon – hyd yn oed ar ddiwrnodau drwg. Os ydym ni wedi gwneud ein gorau, yna mae hynny’n fwy na digon. Allwn ni ddim â gwneud mwy na hynny – mae’n amhosib. Chwedl yw perffeithrwydd. Mae pwy ydym ni’n fwy na digon.


5. Mae iselder yn dweud wrthym nad ydym ni’n haeddu pethau

Mae iselder yn dweud wrthym ein bod ni’n ddiwerth ac nad ydym ni’n haeddu dim. Dydyn ni ddim yn haeddu pethau neis. Dydyn ni ddim yn haeddu cysur na charedigrwydd. Dydyn ni ddim yn haeddu bod yn gynnes, yn hapus nac yn fyw. Nad ydym ni’n haeddu bwyta, cysgu nac anadlu.

Mae iselder yn anghywir. Rydym ni YN haeddu pethau. Rydym ni’n haeddu popeth da mewn bywyd – a rhagor hefyd. Mae pawb yn haeddu cael gofal, cefnogaeth a chysur. Does dim angen ‘ennill’ ein hawl i fod yn fyw.


6. Mae iselder yn dweud wrthym ein bod ni’n ddrwg

Mae iselder yn dweud wrthym ein bod ni’n ofnadwy. Ein bod ni’n berson drwg. Ein bod ni’n filain, yn gamweddus, yn fwystfilaidd, hyd yn oed. Mae’n dweud wrthym mai ni yw’r person gwaethaf i fodoli erioed – ac na ddylem ni fod yma.

Mae iselder yn dweud celwydd. Dydyn ni ddim yn ddrwg. Dydyn ni ddim yn atgas nac yn fileinig nac yn hanfodol ddrwg. Dim ond pobl sy’n dioddef o salwch ydym ni – salwch sy’n gwneud ei orau glas i’n tynnu ni i lawr.

 


7. Mae iselder yn dweud wrthym am fod yn dawel

Bydd iselder yn ceisio ein tawelu. Mae’n ceisio ein rhwystro rhag siarad â phobl. Mae’n dweud wrthym nad oes gennym ddim byd sy’n werth ei ddweud. Ein bod ni’n ddiflas ac yn dwp ac yn mynd ar nerfau pobl. Mai dim ond ein goddef y mae ein teulu a’n ffrindiau, eu bod nhw eisiau i ni gau ein ceg mewn gwirionedd.

Mae iselder yn dweud celwydd er mwyn ceisio ein plygu i fod yn dawel. Os byddwn ni’n cilio ac yn gorfodi unigrwydd arnom ni ein hunain, mae ganddo fwy o rym drosom ni. Rhaid i ni geisio anwybyddu’r hyn mae iselder yn ei ddweud. Mae gennym lais. Mae gan bobl ddiddordeb yn yr hyn sydd gennym i’w ddweud. Mae gennym hawl i gael ein clywed.


8. Mae iselder yn dweud wrthym ein bod ni’n faich

Mae iselder yn dweud wrthym ein bod ni’n llusgo pawb arall i lawr. Mae’n dweud wrthym ein bod ni’n faich. Ein bod ni’n gwastraffu ein bywydau, gwastraffu cyfleoedd, a gwastraffu amser pobl eraill. Mae’n dweud wrthym na ddylem ni ddim bod yma.

Mae iselder yn greulon iawn. Hyd yn oed pan fyddwn ni’n sâl, bydd gennym gymaint i’w gynnig i’r byd. Mae gennym sgiliau doniau a syniadau. Mae gennym bobl sydd eisiau treulio amser gyda ni. Ydy, mae iselder yn ei gwneud hi’n anodd byw bywyd fel y byddem ni wastad wedi’i ddymuno, ond nid ein bai ni mo hynny – bai iselder ydyw. Rydym ni’n haeddu bod yma. Dydyn ni ddim yn faich.


9. Mae iselder yn dweud wrthym nad ydym ni’n haeddu cael help a chefnogaeth

Mae iselder yn dweud wrthym nad ydyn ni’n haeddu unrhyw gymorth a chefnogaeth am ein bod ni’n ddiwerth, yn anobeithiol ac yn ddibwys. Mae’n dweud wrthym ein bod ni’n haeddu dioddef. Fod pobl eraill yn fwy haeddiannol na ni. Y dylem ni fod yn gallu jest  trwsio ni’n hunain.

Mae iselder yn dweud celwydd. Rydym ni YN haeddu help. Rydym ni YN haeddu cefnogaeth. Ac mae’i angen arnom ni hefyd. Rydym ni’n werthfawr, rydym ni’n werth cymaint, rydym ni’n cyfri. Rydym ni’n haeddu cael cyn gymaint o help a chefnogaeth ag sydd ei angen arnom i fynd â ni drwy bob diwrnod.


10. Mae iselder yn dweud wrthym nad oes dim gobaith

Mae iselder yn dweud wrthym am roi’r gorau i obeithio. Y bydd pethau’n ddu bob amser. Nad oes dim dyfodol i ni. Mae’n dweud wrthym na fyddwn ni byth yn canfod hapusrwydd, na fyddwn ni byth yn gwella, y byddem ni mewn gwell lle pe byddem ni’n marw.

Dyma’r celwydd gwaethaf oll. Mae gobaith bob amser. Bob amser. Ydi, mae bywyd gydag iselder yn anodd – does dim amheuaeth am hynny. Ond gallwn ni wella. Gallwn fynd i le gwell. Byddai’r byd yn lle llawer mwy tywyll, llai pefriog onibai ein bod ni ynddo fe. Mae angen i ni ddal ati i frwydro. Rydym ni’n bwysig, rydym ni’n cyfri, ac rydym ni’n haeddu mwy nag iselder. Mae gobaith bob amser.


Rydym Ni’n Well Na’r Celwyddau

Mae celwyddau iselder yn ofnadwy. Maen nhw’n ein brifo ac yn gwneud i ni amau ein hunain. Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain: bydd y rhan fwyaf o bobl ag iselder yn profi rhywbeth tebyg. Ond mae yna help i’w gael. Mae hi’n bosib cyrraedd pwynt pan nad yw iselder yn ein goresgyn â chelwyddau. Mae angen i ni geisio bod yn garedig â ni ein hunain. Dydyn ni ddim yn bobl ddrwg. Dydyn ni ddim wedi torri. Rydym ni’n haeddu cael cefnogaeth. Ac rydym ni’n haeddu bywyd sy’n rhydd o gelwyddau iselder.


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb