Un ar hugain ac yn llawn tyllau.

Ers fy niagnosis, mi rydw i wedi injectio fy hun dros 18,000 o weithiau. Bellach, dwi bron yn un ar hugain ac yn llawn tyllau. Does gen i ddim llawer o syniad lle dwi’n mynd efo hwn, ond dyma drïo – â hithau’n Wythnos Diabetes – crynhoi ychydig o be ydi byw hefo cyflwr nad ydi pobl yn gwybod hanner digon amdano, a chynnig – ar sail fy mhrofiadau i, beth bynnag – syniadau ar sut i ddygymod efo effaith y cyflwr hwnnw ar iechyd meddwl yr unigolyn.

Tydi fy nghyflwr i ddim yn cŵl. Tydi o ddim yn roc-a-rôl, nac yn ffasiynol. Mae o’n boen-yn-din, a deud y gwir (yn enwedig pan fydda i’n injectio fy insulin yn fan’no). Tydi o ddim yn glamyrys, a tydi o’n sicr ddim yn hawdd ei reoli. Ond does na ddim denig rhagddo fo. Mae o yno ddydd a nos, yn gneud petha rhyfadd i ’nghorff i, yn dweud wrtha i be ga i ei wneud a be na cha i ei wneud, ac ar brydiau’n fy ngwagio i o bob owns o egni sydd gen i. Weithiau, mae o’n penderfynu nad ydi o yn ei hun yn ddigon, a’i fod o am ymosod ar fy ngallu i frwydro bob annwyd, infection a salwch arall hefyd. Mae o’n fy ngadw i’n effro pan dwi isho cysgu; ac yn trio’i orau glas i ’nghael i i gysgu pan y dylwn i fod yn effro.

Ond mae fy nghyflwr i hefyd yn slei. Tydi o ddim yn tynnu sylw ato’i hun. Mae o’n ei guddio ei hun y tu ôl i frafado’r sgidiau cowboi a’r gôt hir a’r gwallt mop, lle nad oes neb ond y fi’n ei weld o a’i deimlo fo. Yn ei deimlo fo, bob tro y bydd lefel siwgr fy ngwaed i ‘chydig yn uchel, yn gwneud rhyw niwed bychan bach yma ac acw i gell neu nerf na fydd yn ei drwsio’i hun fyth, yn cnoi munud neu awr oddi ar ddiwedd fy oes. Ac mae o, trwy fy ngwneud i fy hun yn embarasd ohono fo, yn llwyddo i gadw ei hun yn gyfrinachol ryfeddol. Mae o’n dweud wrtha i yn ddistaw bach ei fod o’n dod fel package deal hefo clefyd y galon a gordewdra, ac yn deud wrtha i i fynd i gwglo pethau fel

                % diabetic amputations UK 2017

ac yn sibrwd wedyn mai dyna sy’n saff o ddigwydd i mi.

Mae pethau felly’n medru cael rhywun i le tywyll. Ond mae na bethau i’w cofio sy’n gallu lleddfu’r straen a’r pryder beunyddiol hwnnw sy’n dod yn sgil y cyflwr yma, a llu o gyflyrau eraill, siŵr o fod.

Mae pob dydd yn ddydd newydd sbon. Cliché? Falla, ond y rheswm ei fod o’n cael ei ddefnyddio mor aml ydi am ei fod o, fel arfer, yn wir. Mae rhywun yn medru mynd i bryderu o ddifri am y ffaith bod lefel siwgr eu gwaed nhw wedi bod yn gyson uchel ddoe. Ond heddiw, y nod ydi ei gael o i lawr i’w lefel normal. Heddiw, y nod ydi gwella ar ddoe; cadw gwell golwg ar be ti’n fwyta, cynnal rhyw fath o rwtîn, gosod targedau. Tria gadw cofnod dyddiol, os medri di, achos mi fydd sbio nôl ar y dyddiau gwell ar ddiwrnod gwael yn gwneud i ti gofio be sy’n bosib.

Sonia wrth y bobl o dy gwmpas di am dy gyflwr. Sonia am be ydi pwrpas yr insulin ’na yr wyt ti’n ei injectio i dy fol bum gwaith y dydd,  jest er mwyn aros yn fyw. Sonia am dy HbA1c, ac am sawl mmol/L o siwgr sydd i fod yn dy waed di. Duda wrthyn nhw be sy’n rhaid ei wneud os wyt ti yn teimlo dy hun yn llithro i fewn i goma (SEF PEIDIO INJECTIO DIM BYD, JYST GALW AMBIWLANS. DIOLCH). Sonia am sut mae o’n dy gael di lawr weithia – sut mae o wir yn medru gneud i chdi deimlo fatha shit. Mae o’n anodd gwneud. Mi o’n i’n ofnadwy am hyn, achos:

  •             Do’n i ddim isho cael fy niffinio gan fy iechyd
  •             ALLA I DDELIO EFO FY MHROBLEMA FY HUN, BEN FY HUN
  •             Di’n ffrindia fi ddim isho nghlwad i’n paldaruo am ddiabetes, siŵr
  •             ayyb

Ond mae o’n bwysig. Mi fyddi di’n teimlo’n well, ac mi fyddan nhwytha’n teimlo’n well. Tasa rwbath yn digwydd, a nhwytha ddim yn gwbod be di’r dîl, mi alla fod yn drychinebus.  Yn fwy cyffredinol, mae siarad am y peth yn mynd i godi ymwybyddiaeth pobl o gyflwr nad ydi’r rhan fwya yn gwybod nesa peth i ddim amdano.

Paid a gadael i’r diawl ddeud wrtha ti be gei di ei wneud a be na chei di ei wneud. Mi alli di neud be bynnag ti awydd ei wneud, ond bod isho chydig mwy o forward planning weithia. Mae o am fod efo chdi ar hyd y daith, felly gwna’r daith honno mor ddifyr â phosib. Dos allan, cara, bydd fyw. Does dim rhaid iddo fo fod yn faen melin am dy wddw.

Cofia nad wyt ti ar dy ben dy hun. Os wyt ti fel fi, yna does na ddim byd gwaeth i dy feddwl di na mynd i eistedd mewn ystafell hefo llwyth o gyd-ddiabetics i drafod profiadau a theimladau. Os ydi hynny am helpu – cer. Os nad wyt ti am fynd, mi fyddi di’n gwybod fod yr opsiwn yno. Cofia fod yna bobl ym mhobman yn byw eu bywydau efo’r cyflwr yma a llwyth o gyflyrau eraill; yn goresgyn yr anobaith y mae hi mor hawdd disgyn iddo, ac fel chdi, yn llwyddo.

 

Iestyn Tyne

 


Darllen mwy

BLOG: Fibromyalgia a Gorbryder – Siriol Teifi Edwards

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb