Fi ‘di fi – Elen Jones

Mae hyn yn rywbeth does ‘na’m llawer o bobl yn ei wybod amdana i – dim ond y bobl rwy’n agos atynt sy’n ymwybodol o’r peth. Tydi o ddim fel fy mod i’n trio cadw’r peth yn gyfrinach, jyst dw i byth yn meddwl dod â’r peth fyny mewn sgwrs gan fy mod i’n trio ymddangos fel person ‘cryf’, a dio’m yn rhywbeth ma’ lot o bobl yn gyfforddus yn siarad amdano. Ond y gwirionedd ydy, nid yw iselder yn eich gwneud yn berson ‘gwan’ (er fy mod i’n teimlo fel ’na yn aml iawn).

Wel, dyma fy stori i:

Dros flwyddyn yn ôl dechreuodd popeth, pan oni’n brysur paratoi tuag at fy arholiadau TGAU ym mlwyddyn 11. Doeddwn i’m yn teimlo’n iawn, doeddwn i’m yn teimlo’n ‘normal’. Dechreuodd bopeth fynd i lawr allt, doeddwn i wir ddim yn gwybod be oedd yn mynd ymlaen. Roedd fy iselder a gorbryder wedi achosi i mi gael migranes felly roeddwn i wedi gorfod aros drosodd yn y ‘Sbyty am ychydig o nosweithiau, ond roedd popeth yn ymddangos yn iawn. Felly parhais gyda fy mywyd o ddydd i ddydd. Ar ôl dipyn, roedd hyn yn mynd yn anoddach ac anoddach, roeddwn i’n methu ysgol ar adeg ofnadwy o bwysig ond doedd ’na’m byd oni’n gallu ’neud i reoli fy hun, roeddwn i’n meddwl ’mod i’n mynd yn wallgof….

Er popeth oedd yn digwydd, roeddwn i wedi gallu mynychu pob un arholiad TGAU (wel, yn gorfforol, yn bendant nid yn feddyliol). Roeddwn i’n delio gyda gymaint o feddyliau yn mynd trwy fy mhen a gorfod dadlau gyda fy meddyliau yn ddyddiol, a hynny heb ddweud wrth neb am fisoedd.

Ar ôl cau fy hun yn fy ’stafell ac osgoi y pobl agosaf ataf, penderfynais fod rhaid i mi ddweud wrth rhywun. Felly, dywedais wrth fy nghariad (sydd wedi bod yn grêt) a wir ’wan, roeddwn i’n teimlo fel bod gymaint o bwysa’ wedi cael ei dynnu oddi ar fy ’sgwyddau ar ol siarad am y peth, er gwaetha pa mor embarrassed oni. Ond pam y dylwn i fod yn embarrassed o rhywbeth sydd tu hwnt i fy rheolaeth i, a rhywbeth sy’n hollol naturiol i llawer o bobl? Rwy’n credu mai stigma sy’n cael yr effaith yma ar bobl. Tydi pobl ddim yn gallu derbyn eu bod yn dioddef o broblem iechyd meddwl.

Yna es i at ddoctor ar ôl llawer o amheuaeth a newid meddwl, ond ar ôl cyrraedd roedd o’n hollol fine. I be oedd angen poeni gymaint? Dim fy mai i ydi o ’mod i’n teimlo fel hyn, pam ddylwn i deimlo cywilydd? Cymerais dros flwyddyn i actiyli derbyn y peth yn iawn, a pheidio bod â chywilydd ’mod i’n teimlo fel hyn.

Cefais dabledi tuag at iselder, ac roedd y ‘waiting game’ i rheina ddechrau gweithio’n iawn yn un hir ac anodd, ond roedd o werth o!

Meddyliwch am y peth, os y byddech yn torri eich coes neu yn cael unrhyw broblem corfforol, rydych yn mynd at ddoctor ac yn cael tabledi er mwyn eich gwella, felly pam fod gymaint o stigma ynghylch mynd at ddoctor gyda problemau meddyliol? Mae 1 ym mhob 4 yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn ystod eu bywydau, ac i fod yn onest ma’r stategaeth hyn yn syndod i feddwl fod rhywbeth mor ddychrynllyd yn actiyli rhywbeth normal.

Dwi’n berson hynod o brysur. Rwyf ym mlwyddyn 13 yn yr ysgol ar hyn o bryd ac yn paratoi tuag at fynd i’r Brifysgol blwyddyn nesaf. Y ffordd dwi’n gallu ymdopi gyda popeth ydy siarad – cymryd ychydig o amser o’m wythnos i siarad gyda ffrindiau neu rhywun rwyf yn ei drystio am sut dwi’n teimlo, yn enwedig pan rwyf yn teimlo straen gwaith ysgol yn peilio ar fy ’sgwydda’, mae o fel rhyddhad mawr cael siarad er mwyn gallu parhau gyda’r wythnos. Byddai pobl yn fy nisgrifio i fel person siaradus a ‘larger than life’ felly dwi’n joio siarad gyda pobl, a mae siarad am fy nheimladau yn bwysig iawn i mi!

Erbyn heddiw, does gen i ddim cywilydd cyfaddef fy mod yn dioddef o iselder, ac y mwyaf dwi’n siarad am fy mhrofiad, y mwya’ mae pobl yn rhannu eu storïau a’u profiadau gyda mi. Rydych yn sylweddoli pa mor gyffredin yw’r peth a faint o bobl sy’n dioddef.

Gofalwch am eich ffrindiau a theulu a byddwch yn ffeind gyda pobl. Gwnewch rhywbeth wneith achosi rhywun i wenu heddiw, dim ots os yw’n rhywbeth syml fel dweud “dwi’n hoffi dy wallt di” – mae geiriau caredig yn mynd yn bell!

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb