Calon yn curo’n galed. Mygu. Llewygu.

Ffotograffiaeth; rhywbeth i dynnu meddwl oddi ar bethau

Panic attacks

Cefais fy mhanic attack cyntaf yn ôl yn 2011 a ‘dw i’n cofio poeni a brysio – ro’n i’n mynd i un o’r apwyntiadau poenus mae nifer o ferched yn dredio’u cael, y smear test. Brysiais yn syth wedyn o’r prawf i ngwaith lle roeddwn i mewn gofal o gartref henoed.

Gweithiais fy shifft tan ddeg yn nos ac ar ôl cyrraedd adref, doeddwn i jyst methu unwindio; roedd bob dim ar fy meddwl; oeddwn i wedi gwneud popeth yn iawn yn fy ngwaith?  Jyst methu rhoi switsh off.  Tua hanner nos, dechreuais grynu.  Doeddwn i methu cael fy ngwynt.  Doeddwn i ddim yn gwybod be oedd yn digwydd i fi ond yr unig beth allwn i feddwl oedd fy mod i’n marw.

Y diwrnod canlynol, fe wnes apwyntiad i weld y meddyg, a cadarnhaodd fy mod wedi profi panic attack. Ond doeddwn i ddim yn ei gredu.  Am hir, roeddwn i’n meddwl bod rhywbeth o’i le ar fy iechyd corfforol, rhywbeth mawr. Cefais fy ngyrru am ECG 24 awr ac yn dilyn hynny cefais fy ngyrru am sgan ar y galon, ond roedd fy nghalon yn iawn ac yn iach.  Pan fyddai’r meddygon yn dweud wrtha i fy mod yn dioddef gydag anxiety, roeddwn i’n dal i feddwl mai salwch arall oedd arna i. Doeddwn i methu credu y byddai salwch meddwl yn gallu fy ngwneud i fel hyn, fy ngwneud i mor sâl.  Roedd fy nghalon yn curo’n galed. Byddwn yn teimlo’n benysgafn. Fy mod yn mygu.  Doeddwn i methu gwneud y pethau mwyaf arferol o ddydd i ddydd.  Doeddwn i methu mynd i siopa, methu mynd i weld fy merch wrth iddi symud i fyw i’r Brifysgol, methu mynd i unrhyw noson rieni, methu mynd i ngwaith – y gwaith roeddwn i wrth fy modd yn ei wneud.  Bues i ffwrdd o ngwaith yn sâl am gyfnod o chwe mis ac yn dilyn hynny, terfynwyd fy nghytundeb.

Ar ôl colli fy nghytundeb, roeddwn i’n îs byth, yn treulio lot mwy o amser yn y tŷ.  Mae’n bosib iawn mai straen achosodd y dirywiad. Roedd gen i ofn y byddwn i’n syrthio’n farw neu’n llewygu petawn i’n mynd allan, a neb o’m hamgylch i’m helpu.

Ychydig wedyn, collais fy nhaid.  Cyn ei farwolaeth, doeddwn i methu mynd i’w weld yn y ‘sbyty, ac wedyn doeddwn i methu mynd i’w gynhebrwng. Roedd popeth fel ei fod yn digwydd ar unwaith i mi.

Ceisio cymorth…

Cysylltais â’m meddyg i ofyn am gyngor, a cefais fy nghyfeirio at y tîm iechyd meddwl lleol am wasanaeth cwnsela. Cefais ymweliad cartref i gael fy asesu ac oherwydd nad oedd ymweliadau cartref yn rhywbeth arferol, cymrodd peth amser i mi dderbyn cymorth, ond gan fy mod wedi fy llwyr gaethiwo i’r tŷ doedd gen i ddim dewis ond aros.  Cefais ddiagnosis o orbryder difrifol ac agoraffobia a bu rhaid i mi aros tua deufis am wasanaeth cwnsela yn y cartref.  Roeddwn i’n derbyn y gwasanaeth yn wythnosol ac er ei fod yn fy helpu i ddeall y cyflwr yn well, doeddwn i ddim yn teimlo fod y gwasanaeth ei hun wirioneddol o gymorth i mi.  Dim ond tua 6 sesiwn a dderbyniais cyn i’r cwnselydd oedd yn dod acw gael ei tharo’n sâl ac oddi ar ei gwaith.  Cefais asesiadau pellach a gwasanaeth gan dri wahanol gwnselydd ond roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael mwy o asesiadau nac o gwnsela ac o’r herwydd, doeddwn i ddim yn gweld y driniaeth o fudd.  Aeth misoedd heibio wedyn a doeddwn i ddim gwell, a dal wedi fy nghaethiwo i’r tŷ.

Camera DSLR a gefais gan fy mhartner

Dwi’n credu mewn gwirionedd mai’r cymorth mwyaf i mi oedd cefnogaeth fy mhartner.  Tydw i wirioneddol ddim yn siŵr sut y byddwn i wedi dod drwy’r cyfnod yma hebddo. Fo oedd yr unig berson oeddwn i’n ei drystio, a’r unig un oedd yn deall y cyflwr a’r ffaith bod rhaid i fi fynd ar unwaith pan fyddwn i’n teimlo’r angen i adael sefyllfa.  Roeddwn i’n llwyr ddibynnol ar ei gymorth; roedd o’n gweithio llawn amser, yn gwneud y siopa, yn mynd i nosweithiau rhieni ein dwy ferch na allwn i fynd iddyn nhw, yn helpu ein merch wrth iddi symud i’r Brifysgol.  Roeddwn i’n colli’r holl bethau yma, yr holl bethau oedd pawb ‘normal’ yn ei wneud yn ddyddiol heb feddwl dim amdanynt, tra mod i’n eistedd adref yn llawn euogrwydd fod y salwch yma wedi dod arna i.

Prynodd hefyd gamera DSLR i mi fel rywbeth i mi ffocysu arno ac mae hyn wedi bod o gymorth anhygoel i mi a dweud y gwir.  Mae tynnu lluniau wedi bod yn rywbeth i mi ganolbwyntio arno ac mae wedi helpu i dynnu fy meddwl oddi ar y gorbryder rywfaint.

Beth nesaf?

Ers 2015, rwyf wedi camu ymlaen rywfaint ond er fy mod bellach yn gallu mentro o’r tŷ, fedra i ddim gwneud hynny ar fy mhen fy hun.  Rydw i dal i fod yn 90% ddibynnol ar fy mhartner, ond mae hynny’n ddipyn o gyflawniad o’i gymharu â’r 100% oeddwn i’n arfer bod. Dydw i dal methu cerdded yn bell hyd yn oed gyda fy mhartner.  Mae gen i ofn mentro’n rhy bell o’r llefydd dwi’n gyfarwydd â hwy ac yn gyfforddus ynddynt, fel ein tŷ neu’r car.

Ddechrau 2017, teimlais fy mod yn cael relapse a bod y salwch yn cydio unwaith eto, felly gwnes apwyntiad i weld y meddyg unwaith eto a mynnu fy mod yn derbyn therapi CBT.  Roedd pob gweithiwr proffesiynol yn dweud wrtha i nad oedd unrhyw therapydd lleol oedd wedi cymhwyso i roi triniaeth CBT, ac felly ysgrifennais at fy Aelod Seneddol i ofyn am gymorth.  Cefais asesiad arall gan y Tîm iechyd Meddwl Lleol ac yna derbyniais lythyr ym mis Medi yn dweud y byddwn yn cael fy rhoi ar restr aros am therapi CBT.  Hyd yn hyn, rwy’n dal i ddisgwyl am apwyntiad.

Yn anffodus, hyd heddiw, dydw i dal ddim yn gallu gweithio (ac mae hyn yn wir ers 2011). Gweithiais ym maes gofal am 9 mlynedd cyn i mi ddechrau profi problemau iechyd meddwl. Mae gwaith, ac yn benodol y math o waith oeddwn i’n ei wneud yn rywbeth dwi’n gweld ei golli’n ofnadwy, ac rwy’n torri fy nghalon o eisiau mynd yn ôl hyd yn oed os dim ond am un diwrnod yr wythnos. Ond ar hyn o bryd, does gen i ddim yr hyder.  Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n teimlo bod digon o gymorth ar gael i bobl sy’n byw â salwch meddwl i’w hannog nhw’n ôl i’w gwaith ac i’w helpu i ailadeiladu’r hyder angenrheidiol. Dwi’n teimlo fod pethau cymaint anoddach i mi rŵan fy mod wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am gyfnod mor hir, ac efallai petawn i wedi derbyn yr anogaeth yn y dechrau un, y byddai pethau’n wahanol bellach.

Dwi’n dal i obeithio y gallaf ddychwelyd i’r maes gofal un diwrnod, a byddai’n gweithio tuag at y nod hwnnw.

Yn y cyfamser, bydd rhaid i mi gymryd pethau un cam ar y tro.


Gwybodaeth bellach:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb