Mynd reit lan at ddrws marwolaeth a chanu’r cloch a llwyddo dianc cyn odd hi’n rhy hwyr.

Sioned Martha

 

Ma’ dioddef a delio gyda iselder ysbryd yn brofiad nad yw’n hawdd ei ddisgrifio.

Ma’ fe’n dy flino di’n emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn blino pawb o’th gwmpas di hefyd. Mae fe’n chwarae gyda dy emosiynau di nes bo ti’n rhacs a swp sâl yn methu stopio crio neu’n gwneud i rhywun arall grio a sgrechian ata ti, ond ti methu helpu sut wyt ti a sut ma’r cemhegion yn dy feddwl di ‘di datblygu (neu heb, cweit.) Mae e’n gallu achosi i ti gael ystod eang o broblemau iechyd meddwl a chorfforol eraill hefyd, ond ma cadw i fynd trwy’r twnnel tywyll yn bwysig, achos ma’ na olau disglair yn disgwyl amdanoch chi ar y diwedd.

Well i mi gyflwyno fy hun i chi cyn i fi fynd ymlaen.

Hia, Sioned Martha yw’n enw i. ’Dwi’n dod o bentre bach yn Sir Gaerfyrddin a ches i’n ddiagnosio gydag iselder ysbryd pan o’n i’n 17 mlwydd oed. Cefais blentyndod digon bodlon er fy mod yn ddrama cwîn go iawn, ond sylwais yn gynnar iawn nad oedd fy nhad yn ddyn mor siriol â thadau eraill. Roedd e’n bach o introvert, ddim yn mynd i nunlle heblaw i’w waith, dod adref, a chysgu yn rhythmig bob dydd. Prin iawn buaswn yn gweld gwên ar ei wyneb heblaw pan oedd e gyda fi neu’n chwaer neu gyda mam. Tawel iawn, a difyr oedd e rhan fwyaf o’r adegau eraill. Ro’n i wedi gweld rhyw dabledi presgripsiwn di-ri wrth ochr ei wely ond heb feddwl lot am y peth.  Nawr, pan ddechreues i deimlo yn uffernol o isel tua adeg fy mhenblwydd yn 15, do’dd ddim syniad da fi beth o’dd yn mynd ymlaen yn fy mhen i. Oni’n casáu fy hun heb lot o reswm, yn hunan niweidio yn ddifrifol ac nid oeddwn wirioneddol eisiau bodoli. Dim ond achos bo chi’n gweld rhywun yn gwenu, dyw hynna ddim yn meddwl bo nhw’n hapus. Ro ni’n mwynhau cwmni ffrindiau ac ati, ond roedd fy ngolwg o fi fy hun yn llawn atgasedd.

Buaswn yn gwneud dim byd ar ôl dod adref o’r ysgol ond crio a dweud wrthaf fi fy hun fod fy modoleth i’n ddibwynt. Buaswn yn ffendio fy hun mewn ystafell yn crio am ddim rheswm. Ni wedodd neb wrtha’i byth am sefyllfa fy nhad. Ma ‘nhad yn dod o deulu â chefndir amaethyddol felly do’dd pethe fel depression DDIM yn destun sgwrs dros y weetabix boreol neu yn y parlwr godro, a felna odd hi’n ein tŷ ni wedyn hefyd. Roeddwn i’n ifanc ac mewn lle ofnadwy heb syniad beth oedd yn mynd ymlaen yn fy mhen i, a gyda neb yn siarad am eu teimladau yn fy nhŷ i, do’dd dim lot o obaith deall bygyr all am ddim byd nes i mam weld y gwaed ar y dwfe a’r creithie ar fy mraich, ac o fan ’ny dechreues i agor lan i mam a siarad am sut oni’n teimlo am fy hun ac am fywyd.

Ydi, ma’ siarad yn beth grêt ac ma’n therapiwtig iawn rhannu problemau gydag eraill! Ond alla’i ddim gweud bo fe ‘di bod yn all hynci dori yn syth bin. Gadwodd fy ffrind gore’r ysgol ar ôl gorffen TGAU ac oni hollol ar goll. HOLLOL. Felly symudes i i ysgol arall i ddechre ’to, yn ffresh. Wrth gwrs, o’dd huna mewn cyfnod lle ro’dd mwy a mwy o bwyse ar ferched ifanc fod yn dene dene a phert a ffashynol, mynd i’r partis i gyd lle ro’dd bechgyn yn sbio arnach chi mewn ffrociau tynn lle nad oedd unrhyw le am owns o fat neu man a man se chi di aros gytre. Wel, felna oni’n teimlo am y sefyllfa ta beth. O’dd na gymaint o ferched gorjys o’m cwmpas i, ac ar y we ac ati, o’n i wedi cal digon. Penderfynes i fynd ar ddeiet, ac i’r rhai sydd acshyli’n nabod fi, i chi’n gwbod sut ath huna.

Dros gyfnod o chwe mis, trodd y ‘deiet’ yn obsesiwn.

Chi’n cofio fi’n dweud gyne bod mathe o salwch meddwl yn gallu ‘rhoi’ neu dylanwadu arnat ti i fabwysiadu cyflwr / cyflyrau eraill? Ie, wel, huna ddigwyddodd. Dechreues i off just yn bwyta’n iach a mynd i’r gym am awr neu ddwy ar ôl ysgol diwrnod neu ddau yr wythnos. Yna, oni’n bwyta llai, a llai, wedyn osgoi bwyta brecwast a mynd trw orie o ysgol tan adeg cinio lle o’n i bron llewygu angen cinio. Ar ôl rhyw hanner blwyddyn o dorri lawr bob dim o dan yr haul ro ni’n byw o ddydd i ddydd ar un afal, un fanana a photel o ddŵr. Collais lot lot o bwysau, a ro’n i’n dal i feddwl bo fi’n dew. Peth o’r enw body dysmorphia yw hyna, lle ti’n meddwl ti’n hiwj pan mewn gwirionedd ma dy gorff di literally yn bwyta ei hunan i gadw’n fyw. Gesi diagnosis o anorecsia nervosa a bulimia nervosa pan dynnodd mam fi gerfydd fy ngwallt at y doctor a hwnnw’n anfon fi’n syth at arbenigwr anhwylderau bwyta. Aye, odd y thing yn shit. Labels ac issues yn hedfan bob man. Rodd fy nghorff i’n cau lawr arnai. Ro’dd yn rhaid i fi fynd at glinic o dan gofal seicolegwraig a deietegydd tan mod i mewn ‘healthy weight.’ Yn amlwg, roedd rhaid bodloni ar wasanaeth saesneg. Dodd dim dewis – odd hi’n huna, bod yn ‘sectioned’ neu marw. Oni’n gysgod o fi fy hun. Bob wythnos, felly, ro’ n i’n colli ysgol i fynd am awr neu ddwy at y bobl mowr ‘ma yn y clinic, lle roeddent yn fy mhwyso, yn monitro beth o’n i’n bwyta ac yn siarad am deimladau ac ati. Ro’n i’n casau’r lle a phawb o’dd yn gweithio yna, ond ti’n dod i sylweddoli wrth edrych nôl mai dim ond trio helpu ti wella oedden nhw, a do’ nhw methu helpu fi os nagon i’n fodlon helpu’n hunan, ac ar y pwynt yna do’ ni ddim.

Chwe mis arall ar ol fy niagnosis, a finne heb wella dim (eto) gwna’th fy nghalon i arafu gymaint ro ni’n yr ysbyty’n aml yn styc i monitor ma’ o’dd yn cadw trac arno fe tra oni’n cysgu rhag ofn iddo fe stopio. Rodd nyrsys yn gorfod dod mewn atai bob 2 awr i gneud yn shwr oni heb farw yn fy nghwsg. Os sa fy nghalon i’n mynd yn rhy araf sa nhw’n goro dod mewn a deffro fi. Collesi fy misglwyf am blwyddyn a hanner, a do ni ddim yn siwr os sa byth yn dychwelyd ac yna’n methu cael plant.

Yn ystod hyn i gyd ro ni’n ferch ifanc 17/18 oed yn colli ffrindie left, right and centre…

..achos bo fi constantly yn crio, yn dod i’r ysgol heb dorri off y band ysbyty oni’n goro gwisgo tra oni yna a pobl yn sbio arnai’n od, oni byth yn byta cinio a mynd yn flin os se rhywun yn deud wrthai fwyta, a rodd fy ymddangosiad wedi dirywio yn eithafol. Rodd ‘y ngwallt i’n disgyn allan, dodd dim byd yn ffitio fi, oni’n dwisgo lot o golur i guddio fy nghroen sych a hollol di – faeth, a oni’n crio gymaint odd genai lygaid coch 24/7. Oni’n ypsetio pawb o’m cwmpas i. Mam a dad yn dal dwylo yn crio yn meddwl eu bod nhw ar fin colli eu merch hynaf. Fy chwaer fach i’n 13 yn gweld ei chwaer fawr yn diflannu o flaen ei llygaid, yn crio atai yn amlwg ddim ishe colli ei hunig chwaer. A finne fod yn dangos esiampl iddi a dangos iddi’r ffordd – y ffordd cywir.

Pan oni’n gorwedd yn yr ysbyty un noson yn crio a chrio ar ol i mam a dad a Hanna fy chwaer fod yn ymweld â fi, nesi sylweddoli bod rhaid i bethau newid.

Ro ni eisie mynd i’r brifysgol a gweld fy chwaer yn mynd i brifysgol a dod yn fam ac yn famgu. Wrth farw, buaswn i’n gwneud dim ond trosglwyddo’r boen oni’n deimlo ymlaen i sawl person arall. Taclo’r gwraidd oedd angen a gwneud hynny gam wrth gam. Ffendies i ffrindie newydd, ro’n i’n sticio i ddeiet iawn fel y rhagnodir gan fy neietegydd ac oni’n mynd i bob sesiwn cwnsela. Nath fy ffrind gore i hyd y oed dod gyda fi i rhai apwyntiade doctor, a helpu fi wella’n araf bach a bob yn dipyn. Ro’dd gen i athrawes Gymraeg ANHYGOEL hefyd o’dd yna i fi 24/7 hyd yn oed pan o’dd gyda hi dosbarth llawn o blant blwyddyn 7 yn gweiddi a sgrechen. Gnes i hefyd ddisgyn mewn cariad, a dodd dim teimlad gwell na rhywun yn fy nerbyn i, yn fy eisie i ac yn fy ngharu i am yr union hyn oedden i.

Unwaith i mi droi’n 18 ges i anti-depressants gan y Doctor a ma bywyd wedi newid yn eithriadol dros y dwy flynedd diwethaf. Esi i’r Brifysgol a gweld fy hun yn hollol newid fel person. Gesi bersbectif newydd ar fywyd, her newydd i goncro, a chyfle i symud ymlaen i gyfnod newydd sbon. Ro’dd huna dwy flynedd yn ôl, a bellach ‘dw i di magu tair stôn a hanner, ma gen i wallt hir braf eto a chroen llyfn, dwi’n caru bywyd a charu fy ffrindiau a dwi mor lwcus ohonynt! Ma’ nhw yna i fi bob tro dwi ishe chat neu angen peint a chill. A phwysicach oll, ‘dw i’n iach.

Gyfeillion, os eich bod chi’n dioddef fel nes i (dal i gal pwl fach nawr yn y man cofiwch) plîs just cewch at eich GP, siaradwch gyda’ch rhieni, gyda’ch ffrindie, a chofiwch nad yw’ch salwch chi’n diffinio pwy ydych chi.

Na, dos dim geirie pert i gal i ddisgrifio’r beder flynedd o frwydro dwys nesi a byw gyda diffyg seratonin yn fy mrên bob dydd, ond fi yn gallu rhannu fe gyda’r byd a gweud wrthach chi bo fi di mynd reit lan at ddrws marwolaeth a chanu’r gloch a llwyddes i ddianc cyn odd hi’n rhy hwyr. Carwch eich corff chi a chi eich hunan a byddwch yn ymwybodol o eraill achos ma’ na 1 o bob 4 yn dioddef.

Cariwch ymlaen trwy’r twnnel du, bois, achos ma’r haul ar y pen draw yn aros amdanoch chi.

Darllen rhagor:

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb