Gofalwyr

Carers

Rydych yn ofalwr os ydych chi’n darparu cefnogaeth a gofal, yn ddi-dâl, i rywun sydd â salwch, anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Mae bod yn ‘ofalwr’ mwy na thebyg yn disgrifio un rhan yn unig o’ch perthynas â nhw. Mae’n bosib eich bod chi hefyd yn rhiant, yn bartner, yn chwaer, yn frawd, yn blentyn, yn ffrind neu yn aelod arall o’r teulu iddynt. Gall y berthynas hon fod yr un (neu yn fwy) pwysig i chi.

Gall cefnogi eraill fod yn flinedig yn feddyliol ac yn gorfforol. Gallai’r amser ‘rydych chi’n ei dreulio yn gofalu amrywio yn fawr hefyd – mae rhai pobl yn edrych ar ôl rhywun am amser byr, tra bo eraill yn gofalu am rywun yn hirdymor.

Beth allwn i orfod gwneud os ydw i’n gofalu neu’n cefnogi rhywun arall?

Gall ofalu olygu pob math o gefnogaeth fel:

  • Rhoi cefnogaeth emosiynol
  • Helpu rhywun i gael cymorth am gyflwr iechyd meddwl
  • Helpu rhywun i ymdopi â chyflwr iechyd meddwl
  • Coginio a glanhau
  • Gofal personol fel ymolchi a mynd i’r tŷ bach
  • Gofalu am faterion cyllid
  • Rhoi meddyginiaeth neu ddarparu gofal meddygol
  • Gwirio eu bod yn ddiogel

Weithiau, efallai na fyddent yn derbyn bod angen eich gofal a’ch cefnogaeth arnynt. Gall hyn wneud pethau’n anoddach. Mae gan Mind gyngor ar beth i wneud pan na fyddant yn derbyn cymorth (Saesneg).

Sut gall cefnogi rhywun arall effeithio ar eich iechyd meddwl chi?

Gall cefnogi rhywun arall effeithio ar eich iechyd meddwl chi a’i wneud yn anos aros yn iach. Er efallai eich bod wir eisiau gofalu amdanynt, mae’n bosib eich bod hefyd yn ei chael yn anodd ac yn drallodus.

Mae’n bosib y byddwch yn wynebu heriau megis straen, gorbryder, llai o amser i chi eich hun, unigrwydd ac unigedd, problemau ariannol, diffyg cwsg, iselder, rhwystredigaeth, dicter, euogrwydd a diffyg hunan hyder.

Cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl

Os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl, efallai y byddwch yn wynebu heriau gwahanol neu ychwanegol. Rhestrir rhai o’r heriau isod, ac mae gan Mind gyngor ar sut i fynd i’r afael ar heriau hynny (Saesneg).

  • ‘Dydw i ddim yn gweld fy hun fel gofalwr’
  • ‘Dydw i ddim yn credu fy mod i’n helpu llawer’
  • ‘Dydw i ddim wir yn deall beth maen nhw’n mynd drwyddo’
  • ‘Rwy’n poeni fy mod yn gwneud y peth anghywir’
  • ‘Maen nhw’n gwrthod derbyn cymorth – ond mae eu hymddygiad yn gwneud bywyd yn anodd’
  • ‘Maen nhw’n fy ngwthio i ffwrdd neu ddweud pethau sy’n fy mrifo’
  • ‘Mae ein perthynas yn newid’
  • ‘Mae’n anodd iawn iddynt gael yr help sydd angen arnynt’
  • ‘Rwy’n poeni am eu diogelwch’
  • ‘Rwy’n poeni am beth mae pobl eraill yn meddwl’

Sut galla i edrych ar ôl fy hun?

Fel gofalwr, ‘rydych yn treulio llawer o’ch amser yn canolbwyntio ar rywun arall. Efallai y byddwch chi’n teimlo nad oes gennych amser o gwbl i chi eich hun. Ond mae edrych ar ôl eich lles eich hun yn bwysig i chi ac iddyn nhw. Dyma rai awgrymiadau am bethau y gallech eu gwneud i’ch helpu i ymdopi:

  • Siarad am sut ydych chi’n teimlo
  • Gofyn am gymorth os oes ei angen arnoch
  • Bod yn realistig
  • Bod yn drefnus
  • Cefnogi annibyniaeth y rhai yr ydych yn gofalu amdanynt
  • Meddwl am y pethau cadarnhaol yn eich perthynas
  • Cael hoe a gwneud amser i chi eich hun
  • Cael digon o gwsg
  • Dysgu technegau ymlacio
  • Edrych ar ôl eich iechyd corfforol

Dolenni allanol

[Ffynhonnell: Mind]