Unigrwydd
Loneliness
Un ffordd o ddisgrifio unigrwydd yw’r teimlad rydyn ni’n ei gael pan nad yw ein hangen am berthnasoedd a chysylltiadau cymdeithasol gwerth chweil yn cael ei ddiwallu.
Nid yw teimlo’n unig ynddo’i hun yn cael ei ystyried fel problem iechyd meddwl; mae nifer o bobl yn teimlo’n unig ar adegau’n ystod eu bywydau. Ond, mae unigrwydd ac iechyd meddwl yn gysylltiedig.
Mae unigrwydd ac unigedd yn broblem iechyd cyhoeddus ac yn effeithio ar nifer fawr o bobl o bob oed. Mae’n bwysig nodi nad yw unigrwydd o reidrwydd yn golygu bod ar ben eich hun. Mae nifer o bobl yn treulio llawer o amser ar eu pen eu hunain a does dim byd o gwbl o’i le gyda hynny cyn belled â’u bod nhw’n gyfforddus â hynny.
Fel arfer, bydd disgrifiadau unigolion o unigrwydd yn cynnwys un o’r isod:
- mai anaml maen nhw’n gweld nac yn siarad ag unrhyw un;
- eu bod yn teimlo, er gwaetha’r ffaith fod nifer o bobl o’u hamgylch, nad oes yr un ohonynt yn eu deall nac yn gofalu amdanynt.
Mae gan Mind gyngor ar sut i reoli unigrwydd.
Credir bod y rhan fwyaf o bobl angen rhyw fath o gyswllt cymdeithasol er mwyn cynnal cyflwr meddyliol iach, ond mae gan bawb anghenion gwahanol yn hynny o beth. Efallai eich bod yn berson sy’n fodlon gyda grŵp bychan o ffrindiau agos, neu’n berson sydd angen grŵp mawr er mwyn teimlo’n fodlon, hyd yn oed os nad yw’r rheiny i gyd yn ffrindiau agos.
Dolenni allanol
Ffynhonnell: Mind