Problemau Cysgu

Sleep problems

Mae llawer o bobl yn cael trafferth syrthio i gysgu gyda’r nos. Gall meddwl am bobl neu ddigwyddiadau wneud i chi deimlo’n aflonydd.

Mae pawb yn cael nosweithiau lle rydym yn ei chael yn anodd i syrthio i gysgu, yn deffro yn y nos neu yn cael breuddwydion sy’n tarfu ar ein cwsg. Mae hyn yn gwbl normal. Yn aml, bydd y problemau hyn yn datrys eu hunain ar ôl cyfnod byr o amser.

Fodd bynnag, os oes gennych broblemau cysgu sy’n para wythnosau, misoedd neu flynyddoedd, gall hyn gael effaith ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Mae faint sydd ei angen ar bob unigolyn yn amrywio; fodd bynnag, argymhellir y dylai oedolyn iach gysgu, ar gyfartaledd, rhwng saith a naw awr y noson. Y peth pwysig yw eich bod yn cael cwsg o ansawdd.

Os ydych chi’n poeni am faint o gwsg ydych chi’n ei gael ac ansawdd eich cwsg, a’i effeithiau ar agweddau eraill o’ch bywyd, dylech siarad gyda’ch meddyg teulu a fydd yn gallu helpu a darparu arweiniad a chefnogaeth bellach.

Sut i gysgu’n well?

Gall eich diet neu eich amserlen o ddydd i ddydd effeithio ar eich cwsg, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i geisio cysgu’n well.

1. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gyfforddus

Dim rhy boeth, dim rhy oer, dim rhy swnllyd na llachar.

2. Gwnewch ymarfer corff

Peidiwch â mynd dros ben llestri ond rhowch gynnig ar nofio neu gerdded yn rheolaidd. Yr amser gorau i wneud ymarfer corff yw yn ystod y dydd – yn benodol yn hwyr yn y prynhawn neu’n gynnar gyda’r nos. Gall gwneud ymarfer corff yn hwyrach na hyn amharu ar eich cwsg. Mae ymarfer corff yn llosgi egni ac yn rhyddhau endorffinau – cemegau naturiol sy’n eich helpu i ymlacio a theimlo’n llai pryderus.

3. Ysgrifennwch

Os oes rhywbeth yn eich poeni ac nid oes modd gwneud dim i wella’r sefyllfa ar unwaith, ceisiwch ysgrifennu’r hyn sy’n eich poeni i lawr cyn mynd i gysgu. Unwaith i chi ysgrifennu eich pryderon i lawr, gallwch ddelio gyda’r problemau yn y bore.

4. Ymlaciwch cyn mynd i’r gwely

Mae rhai pobl yn mwynhau darllen i ymlacio. Ceisiwch gadw at lyfrau copi caled – gall y golau o sgriniau cyfrifiadur neu rai e-ddarllenwyr ei gwneud hi’n anodd syrthio i gysgu. Ceisiwch osgoi eistedd o flaen sgrin am o leiaf dwy awr cyn yr amser rydych yn bwriadu mynd i’r gwely.

5. Cadwch eich ffôn symudol

Os yw eich ffrindiau’n eich cadw’n effro drwy eich ffonio neu drwy anfon negeseuon yn ddi-baid, ystyriwch ofyn iddynt roi’r gorau iddi. Diffoddwch sain eich ffôn, dewiswch y gosodiad ‘peidiwch ag amharu’ – neu diffoddwch eich ffôn yn gyfan gwbl.

6. Dychmygwch eich hun yn eich hoff le

Caewch eich llygaid a dychmygwch eich hun yn eich hoff le neu yn lle bynnag rydych eisiau bod un diwrnod. Dychmygwch eich hun yn hapus ac yn ymlacio. Anadlwch i mewn ac allan yn araf, gan ymlacio eich cyhyrau nes i chi deimlo fel eich bod wedi ymlacio’n llwyr.

8 peth i’w osgoi

1. Peidiwch â mynd heb gwsg am amser hir

Ewch i’r gwely os ydych yn teimlo’n flinedig. Ceisiwch gadw at amserlen o godi ar yr un amser bob diwrnod, hyd yn oed os ydych wedi blino.

2. Peidiwch ag yfed gormod o gaffein

Mae caffein yn aros yn eich corff am rai oriau wedi eich paned olaf o de, coffi neu botel o cola. Peidiwch ag yfed diodydd â chaffein yn hwyrach na chanol y prynhawn. Os ydych awydd diod boeth gyda’r nos, beth am roi cynnig ar ddiod o laeth neu de llysieuol (ond gwiriwch nad oes caffein ynddynt).

3. Bwytewch lai o siwgr

Mae siwgrau mewn siocled a diodydd swigod yn symbylwyr – bydd y rhain yn atal eich corff rhag cysgu. Mae nicotin, mewn mwg sigarennau ac e-sigarennau, yn cael effaith debyg.

4. Ceisiwch osgoi alcohol

Bydd yfed alcohol gyda’r nos yn gwneud i’ch corff syrthio i drwmgwsg yn rhy fuan. Mae’n amharu ar eich patrwm cysgu gan achosi i chi ddeffro ar ôl ychydig oriau.

5. Peidiwch ag yfed neu fwyta yn hwyr yn y nos

Ceisiwch fwyta eich swper yn eithaf cynnar yn hytrach na’n hwyr yn y nos. Mae eich corff angen amser i dreulio’r bwyd yn iawn.

6. Peidiwch â gorweddian ormod yn y gwely yn y bore

Os ydych wedi cael noson wael o gwsg, peidiwch â gorweddian ormod yn y gwely yn y bore. Bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach cysgu’r noson ganlynol.

7. Ceisiwch osgoi edrych ar ddyfais electronig cyn mynd i’r gwely

Ceisiwch beidio â chwarae gemau cyfrifiadurol neu ddefnyddio eich ffôn a dyfeisiau eraill yn ormodol cyn amser gwely. Gall amser o flaen sgrin helpu i leddfu diflastod ond gall hyn ei gwneud hi’n anoddach cysgu gan fod eich ymennydd yn effro. Ceisiwch roi eich dyfeisiau electronig o’r neilltu ychydig oriau cyn i chi fynd i gysgu.

8. Peidiwch â gwylio gormod o deledu yn y gwely

Neu peidiwch â gwylio’r teledu yn y gwely o gwbl.

Codi o’r Gwely

Gall problemau cysgu ei gwneud hi’n anodd codi o’r gwely yn y boreau. Mae yn enwedig yn wir yn ystod misoedd y gaeaf pan mae llai o olau dydd. Os ydych chi’n cael trafferth codi’n boreau, dyma awgrymiadau i’ch helpu:

  • Rhowch eich cloc neu’ch ffôn symudol ar ochr arall yr ystafell, i’ch gorfodi chi i godi o’ch gwely a diffodd eich larwm.
  • Meddyliwch am reswm i godi o’r gwely yn y boreau – brecwast blasus, ymarfer corff, myfyrio, ysgrifennu mewn dyddlyfr, neu wylio un o’ch hoff raglenni wrth baratoi ar gyfer eich diwrnod.
  • Mae codi’n gynnar yn rhoi cyfle i chi feddwl am yr hyn rydych eisiau’i gyflawni yn ystod y diwrnod hwnnw. Unwaith i chi ddechrau dod i’r arfer o wneud hynny, fe welwch ei bod hi’n haws codi bob bore.

Dolenni allanol

Ffynhonnell: Childline