Ymdopi dros gyfnod y Nadolig
Gall cyfnod y Nadolig fod yn gyfnod hapus a llawen; cyfle i weld teulu a ffrindiau, rhannu anrhegion a chael hwyl. Ond, gall hefyd fod yn adeg heriol iawn o’r flwyddyn.
Yn ôl Mind, mae pryderon ariannol, ymrwymiadau teuluol, unigrwydd, prysurdeb a’r pwysau i fod yn hapus yn gwneud i filoedd o bobl yng Nghymru deimlo eu bod yn methu ymdopi dros gyfnod y Nadolig.
Meddyliwch beth ydych chi eisiau ei wneud dros gyfnod y Nadolig; peidiwch â theimlo bod rhaid i chi wneud rhywbeth oherwydd mai dyna sy’n ddisgwyliedig.
Cofiwch gymryd pethau un munud, awr neu ddiwrnod ar y tro.
Dyma rai awgrymiadau allai fod yn ddefnyddiol dros gyfnod yr ŵyl:
Siarad
Mae’n anodd cyfaddef, ar adeg mor gyffrous o’r flwyddyn, nad ydyn ni’n teimlo’n dda. Ond gallai siarad am ein teimladau wella ein hwyliau a’i wneud yn haws i ymdopi â’r cyfnodau anodd. Byddwch yn onest â phobl os ydy pethau’n mynd yn ormod i chi ac os nad ydych chi eisiau gwneud rhywbeth. Peidiwch â bod ofn canslo cynlluniau os mai dyna yw’r peth gorau i chi – weithiau mae’n rhaid i ni roi ein hunain yn gyntaf. Os ydych chi’n poeni sut fyddwch chi’n teimlo ar y diwrnod, siaradwch gyda rhywun arall fydd yno hefyd fel y gallan nhw eich cefnogi chi.
Cysylltu ag eraill
Gall teimladau o unigrwydd fod yn gryfach adeg y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Cofiwch, dydych chi ddim ar ben eich hun. Gallai’r Nadolig fod yn gyfle da i gysylltu, neu i ail-gysylltu, â phobl – drwy gerdyn, e-bost, neges destun neu alwad ffôn. Mae’r grŵp Facebook ‘Dweud dy Feddwl’ yn ofod y gallwch chi gysylltu gyda phobl eraill ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Peidiwch â chymharu eich Nadolig chi gydag eraill
Peidiwch â chymharu eich hun a’ch Nadolig chi gyda’r portreadau o’r Nadolig perffaith rydyn ni’n eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol neu ar hysbysebion. Mae pobl ond yn rhannu’r darnau da, a does gyda ni ddim syniad beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r sgrin. Peidiwch â chael eich sugno i gymharu eich profiad chi gyda rhywbeth sy’n ffug.
Ymlacio
Gall cyfnod y Nadolig ddod â llwyth o broblemau ymarferol ac emosiynol sy’n medru bod yn anodd. Efallai ein bod ni’n poeni wrth baratoi i ddiddanu teulu a ffrindiau neu yn poeni am goginio’r cinio Nadolig perffaith. Gall newid mewn patrymau ac arferion bob dydd hefyd achosi straen a phryder. Os ydych chi’n berson sy’n dueddol o wneud gormod beth bynnag, gallai gofynion y Nadolig waethygu hyn. Cymrwch hoe os fydd pethau’n mynd yn ormod, a cheisiwch ymlacio ac edrych ar ôl eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i wneud rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud, waeth pa mor fach ydyw.
Cynllunio o flaen llaw
Gwnewch restrau o beth sydd angen eu gwneud – pa anrhegion i’w prynu, pa fwyd fydd angen – bydd hyn yn eich helpu i drefnu eich meddyliau, eich atal rhag anghofio rhywbeth, a’i wneud yn haws i gynllunio yn ariannol.
Gwirfoddoli
Gallai’r Nadolig fod yn gyfle da i wirfoddoli i elusen neu i fudiad lleol. Mae hyn nid yn unig yn darparu cymorth angenrheidiol i eraill, ond gallai helpu eraill hefyd fod yn fuddiol i’n hiechyd meddwl ni drwy wella hunanhyder, hapusrwydd, ac mae’n gyfle i gyfarfod â phobl newydd.
Myfyrio
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn gyfle i fyfyrio ac edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Beth am ysgrifennu un fuddugoliaeth ar gyfer pob mis o’r flwyddyn? Gall hyn fod yn unrhyw beth o gysylltu â ffrind, lleihau lefel eich alcohol, gwirfoddoli gyda phrosiect newydd. Neu, gallai fod yn fwy penodol i’ch iechyd meddwl – ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, siarad am sut ‘rydych chi’n teimlo, neu efallai cymryd camau i frwydro yn erbyn unrhyw ffobiâu, gorbryderon neu obsesiynau.
Dod o hyd i ofod tawel
Os ydych chi mewn digwyddiad cymdeithasol, ffeindiwch ofod tawel y gallwch fynd iddo os fydd pethau’n mynd yn ormod. Cyn y digwyddiad, gwnewch restr o’r strategaethau ymdopi sydd wedi gweithio yn y gorffennol (e.e., mynd â llyfr neu gylchgrawn, tecstio ffrind, gwrando ar gerddoriaeth, neu gau eich llygaid ac anadlu’n ddwfn.)
Mynd am dro
Mae tawelwch byd natur yn ffordd dda i gamu i ffwrdd o brysurdeb y Nadolig.
Siopa ar-lein
Os ydy torfeydd a phrysurdeb y siopau yn broblem, mae siopa ar-lein yn opsiwn.
Bwyd
Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd i rai sydd ag anhwylder bwyta gan fod cymaint o fwyd o gwmpas.
Alcohol
Mae cyfnod yr ŵyl yn adeg lle y mae digonedd o bartïon a digwyddiadau eraill gydag alcohol. Gallai fod yn gyfnod anodd iawn i rai sy’n brwydro â chaethiwed i alcohol. Mae cymaint o demtasiwn yr adeg hon o’r flwyddyn. Efallai bydd rhaid i’r unigolion hynny gymryd camau gofalus i sicrhau eu bod yn mwynhau Nadolig di-alcohol.
- Sober Christmas : Alcohol Rehab (Saesneg)
- ‘Staying sober at Christmas’ (Saesneg)
Galar
Gall y Nadolig hefyd fod yn gyfnod poenus i rai sy’n galaru – p’un ai eleni yw eich blwyddyn gyntaf heb rywun sydd wedi marw, neu os wnaethoch chi golli rhywun flynyddoedd yn ôl.
Dolenni allanol
- Miloedd o bobl yng Nghymru yn cael trafferth ymdopi dros gyfnod y Nadolig
- Nadolig – Ddim yr ŵyl fwyaf hwylus i rai pobl ifanc : Meic Cymru
- Your Stories – Christmas : Mind (Saesneg)
- Support at Christmas : Mind (Saesneg)
- Ten Christmas wellbeing tips : Mind (Saesneg)
- Christmas and mental health : Mental Health Foundation (Saesneg)
- #JoinIn
- Grŵp Facebook ‘Dweud dy Feddwl’
- Cymorth
[Ffynhonnell: Mind]