Ymlacio

Relaxing

Gall ymlacio eich helpu i ofalu am eich lles pan fyddwch chi’n teimlo dan straen neu’n brysur.

Nid oes rhaid i ymlacio a hunan ofal gymryd llawer o’ch amser – gall camu i ffwrdd am ychydig funudau o sefyllfa sy’n achosi straen, neu gymryd amser i ffwrdd oddi wrth eich trefn neu feddyliau arferol, rhoi digon o le a phellter i chi deimlo’n fwy llonydd.

Mae awgrymiadau am dechnegau ymlacio ar wefan Mind (Saesneg yn unig) a thudalen ‘Safleoedd Tawelu’ ar wefan Meic Cymru.