Alcohol
Mae dibyniaeth ar alcohol yn dod i’r amlwg pan fo unigolyn yn gaeth yn gorfforol ac/neu yn seicolegol, a bydd yr unigolyn yn dioddef symptomau diddyfnu os na fydd yn yfed alcohol. Cael gafael ar alcohol a’i ddefnyddio yw’r peth pwysicaf yn eu bywyd.
Mae pob math o gyffuriau, gan gynnwys alcohol, yn cael ryw fath o effaith ar ein hiechyd meddwl. Maent yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweld pethau, ein hwyliau a’n hymddygiad.
Gall yr effeithiau hyn fod yn:
- Bleserus neu’n amhleserus
- Yn fyr-dymor neu’n hir-dymor
- Yn debyg i’r effeithiau fyddwch chi’n eu profi fel rhan o broblem iechyd meddwl
- Yn diflannu neu yn parhau wedi i effeithiau’r cyffur ddod i ben.
Efallai bod eisoes gennych ddiagnosis o salwch meddwl, ac yn defnyddio alcohol i geisio ymdopi. Sylweddoli bod gennych broblem gydag alcohol yw’r cam cyntaf i gael cymorth.
Efallai bydd angen cymorth arnoch os ydych chi’n aml yn teimlo’r angen i yfed alcohol, yn mynd i drafferthion oherwydd eich arferion, bod pobl eraill yn eich rhybuddio ynghylch eich arferion, a/neu os ydych chi’n credu bod eich arferion yn achosi problemau i chi.
Gallwch gael cymorth gan:
- Eich Meddyg Teulu. Ceisiwch fod mor onest â phosib ynghylch eich arferion a’r problemau mae hynny’n ei achosi i chi.
- DAN 24/7. Cysylltwch â Llinnell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru am gymorth yn ddi-dal ar 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i: 81066
Alcohol
Diod sy’n wyrth i dewi – dy swildod,
d’iselder, mewn miri
a diod i ddifrodi
dy fywyd hefyd. Wn i. @BBCRadioCymru #barddymis— Siôn Aled (@Sion_Aled) October 7, 2021