Plismyn yn dioddef o bryder ac iselder : Golwg360

Mae corff sy’n cynrychioli plismyn yn dweud bod wyth bob deg ohonyn nhw yn dangos arwyddion o bryder neu iselder.

Mae heddluoedd yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi bod yn canslo dyddiau gorffwys gan olygu fod arnyn nhw filoedd o ddyddiau o amser bant i’w swyddogion.

Pwysau gwaith, argyfyngau a diffyg adnoddau lles sy’n gyfrifol am y problemau yn ôl Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Calum Macleod.

Mae’r ffigwr am iselder a phryder yn un i godi dychryn, meddai Calum Macleod, gan roi’r bai yn rhannol ar ddiffyg cyfle i blismyn orffwys.

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Profiad o Feddyginiaeth – Manon Elin

Ymwadiad: Mae pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn cychwyn neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth.


Pan fydd stori am feddyginiaethau i drin salwch neu gyflwr iechyd meddwl yn y wasg, yn amlach na pheidio, mae’r disgwrs yn un negyddol, yn gorliwio eu peryglon, yn beio’r claf am gymryd meddyginiaeth, a’u bod yn cael eu cynnig yn rhy hawdd gan feddygon. Anaml iawn mae sôn am yr effeithiau positif y gallan nhw eu cael.

Pan roeddwn i’n chwilio am wybodaeth am feddyginiaethau, roeddwn i’n gweld llwyth o straeon am beryglon tabledi a’r sgil-effeithiau brawychus. Prin iawn yw’r wybodaeth am eu heffeithiau cadarnhaol.

Pwrpas y blog yma, felly, yw rhannu ‘mhrofiad i o gymryd meddyginiaethau ar gyfer cyflwr iechyd meddwl. Dyma’r fath o beth fydden i wedi hoffi darllen am feddyginiaeth wrth benderfynu dechrau cymryd tabledi neu beidio. Roeddwn i eisiau darllen profiad onest, nad oedd yn feirniadol, oedd yn dangos nad yw meddyginiaeth o reidrwydd mor frawychus ag yw’r straeon amdanynt.

Mae’n bwysig nodi fod pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol, felly cofnod o ‘mhrofiad i yn unig yw hwn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Colli Rheolaeth’ – Lowri Cêt

Lowri Cêt

Dwi’n ganol cael anxiety attack so plis forgive me os di hwn ddim yn neud llawer o sens.

Dwi di bod yn teimlo hwn yn dod drw’r wsos. rwbath bach yn nigglio yn cefn fy mhen, methu consentratio, gor-feddwl am betha sydd ddim yn bwysig neu byth am ddigwydd constantly – dim brec.

Nai deipio fflat out, a tydi hwn ddim yn anxiety attack lle dwi mewn pel yn gwely yn hyperventalatio a crio a wedyn cal riw fath o spasms – odd mam yn meddwl mod i’n cal seizure un tro, ond na, jyst anxiety fi odd o, LOL.

Dwi’n ofn os ai i gwely neith hwn droi yn un o’r rhei yna. Ond dwi’n edrach yn hollol fine o’r tu allan. ‘Sa chi’m yn deud bod na’m byd yn bod heblaw fyswn i ddim yn siarad efo chi.

Dwi meddwl na “high-functioning anxiety” ma nhw’n galw un felma. Mae o bron fel bod yr anxiety fatha “oce da ni mewn public place rwan, os ydan ni am neud hyn, rhaid bod yn broffesiynol”.

Darllen rhagor o flog Lowri


 

Rhannu

Y Meddwl

Mae gen i ‘social anxiety’, wbath ddigon cyffredin erbyn hyn, ond pan ddechreuais i deimlo felma, oni’n teimlo mor unig a ‘gwahanol’. Ond yn ddiweddar dwi wedi gweld lot o bobl o fy nghwmpas yn teimlo y run peth, a dwi isho trio helpu nhw, dwi ddim yn dda efo geiria, felly neshi feddwl ella sa sgwennu petha lawr mewn blog yn syniad gwell.

Cwestiwn sy’n cael ei ofyn i mi yn aml, gan ffrindia neu deulu ydi, be ydi anxiety? sud beth ydi o? A’r ateb dwi’n roi bob tro ydi, sgenai’m syniad sut i egluro i chi achos dwi ddim yn hollol siwr fy hun.

Mae o’n anodd egluro i rhywun sydd ddim yn cael yr un teimlada’ be ydi o, ella gan ei fod o yn wahanol ac mor bersonol i bob unigolyn. Un peth dwi’n sicr o ydi mai fy meddwl sydd yn ei reoli.

Ar y funud dwi’n gwneud gradd mewn Seicoleg, ac mewn ffordd mae o wedi dangos i mi faint o bwysig ydi y meddwl, a pha mor bwerus ydi o.

Y meddwl sydd yn rheoli pob dim ‘da ni yn ei wneud ac er ei fod o mor bwysig, mae o’n beth mor anodd i’w hastudio gan fod pawb mor wahanol.

Y broblem gyda fy meddwl i ydi, mod i’n gor-feddwl bob dim. A tydi gor-wneud unrhyw beth byth yn dda. Rhyw noson wsos dwytha pan doeddwn i methu cysgu, ddoishi fyny efo dipyn o syniada’ o sut allwn i egluro be ydi y meddwl, neu sut beth ydi fy meddwl i…”

Darllen rhagor o flog Peth Meddal yw’r Meddwl


Rhannu

Dyddiau hapusaf eich bywyd? : BBC Cymru Fyw

Mae Arddun Rhiannon yn trin a thrafod materion iechyd meddwl yn rheolaidd ar ei blog, ac yma, mae’n ceisio taflu goleuni ar gyfnod allweddol yn ei bywyd.

Pan dwi’n clywed pobl yn dweud y byddent yn gwneud unrhyw beth i fynd yn ôl i’r ysgol uwchradd, dwi methu uniaethu o gwbl.

Do, mi ges i adegau o chwerthin a malu awyr efo fy ffrindiau, ond negyddol fyswn i’n disgrifio y rhan fwyaf o’n amser i yno – yn enwedig yn ystod yr wythnosau a misoedd cyntaf. Roedd o’n hunllef.

Cael fy mwlio i’r fath eithaf ym mlwyddyn 7 wnaeth achosi i mi ddatblygu gorbryder cymdeithasol, a dwi ddim yn gorddweud pan dwi’n datgan mai delio efo hwnnw ydi un o’r heriau mwyaf dwi wedi gorfod ei wynebu erioed.

Heb amheuaeth, dwi wedi gorfod dechrau o’r dechrau pan mae’n dod at fy hunan hyder. Cafodd ei chwalu yn llwyr pan o’n i’n 12 oed, a dim ond ers y llynedd ac eleni dwi wedi dechrau teimlo’n falch o bwy ydw i eto.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

‘Dw i erioed ‘di neud blog o’r blaen…’ – Lowri Cêt

Blog ydi hwn lle fyddai’n trafod byw efo iselder a pryder (neu depression ac anxiety os ‘da chi’n slightly llai posh fatha fi) wrth delio efo petha bob dydd, gwaith, prifysgol, cariad, teulu a ffrindia.

Blwyddyn dwytha oedd y shitshow fwya hyd yn hyn, a tydi blwyddyn yma ddim yn mynd yn ace chwaith deud gwir. Dolig 2016, o’n i’n teimlo tha crap de. honestly, doeddwn i ddim yn malio dim am neb na ddim byd. es i fyny 3 seis dillad, a dwi DAL yn trio cael nol lawr i lle o’n i ond dw i’n ofn nai ddim achos ma merched ochr teulu dad yn tueddu bod reit big-boned de.

Ath hi ‘mond yn waeth o fana. o’n i’n jibio ar nights out, ddim yn ateb texts, snapchats na fb mails. o’n i’n isolatio fy hyn ond r’un pryd yn panicio bod pobol yn slagio fi off achos hynny. Ma hyn i gyd yn swnio mor ffocin boring, sori. ond doeddwn i wirioneddol ddim yn meddwl bod ddim byd yn bod efo fi adeg yma. o’n i’n jyst meddwl bo fi’n hogan afiach, rude, diog… jyst hen bitch bach rili. a dyna o’n i’n edrych fel hefyd, i pobol doedd ddim yn rili nabod fi. (which ar y pryd oedd lot o bobol achos o’n i’n cloi fy hyn i mewn mentally)

Dw i’n diolch i’r nefoedd am dair ffrind, nath ddeutha fi: “lowri, ti ddim dy hun. ti angen help.”

Darllen rhagor o flog Lowri

Rhannu

PMDD ac iechyd meddwl

Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (Premenstrual Dysphoric Disorder – PMDD) yn fath difrifol iawn o Syndrom Cyn Mislif (Premenstrual Syndrome – PMS), sy’n medru achosi nifer o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod, neu’r wythnos neu ddwy cyn i chi ddechrau, eich misglwyf.

Er y bydd nifer o bobl sy’n cael misglwyf yn profi symptomau PMS ysgafn, mae symptomau PMDD yn llawer gwaeth, a gallant gael effaith difrifol ar eich bywyd. Gall PMDD ei gwneud hi’n anodd gweithio, cymdeithasu a chynnal perthnasau iach. Mewn rhai achosion, gall hefyd arwain at feddyliau hunanladdol.

Ydy PMDD yn broblem iechyd meddwl?

Yn gyffredinol, diffinnir PMDD fel anhwylder endocrin, sy’n golygu ei fod yn anhwylder sy’n gysylltiedig â hormonau. Fodd bynnag, yn ogystal â symptomau corfforol, mae pobl sydd â PMDD hefyd yn profi amrywiaeth o symptomau iechyd meddwl gwahanol megis iselder a theimladau hunanladdol. Oherwydd hynny, mae PMDD yn ddiweddar wedi ei gofnodi fel problem iechyd meddwl yn y DSM-5 – un o’r prif lawlyfrau y mae meddygon yn ei ddefnyddio i roi diagnosis o broblemau iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu