Galar

Mae galaru’n beth sy’n eich blino’n emosiynol ac yn gorfforol. Mae’n bosib y byddwch yn profi teimladau sydd bron yn annioddefol o boenus o ganlyniad i’ch colled, yn ogystal â thristwch ac unigrwydd.

‘Blodau aur i Dreigyn’ – Ffion Jones

Dilyna’r llyfr daith teulu o ddreigiau trwy eu colled a’u galar yn sgil marwolaeth y sibling ieuengaf, DREIGYN. Disgrifia eu bywyd cyn i DREIGYN farw, ei farwolaeth ac yna yr adeg ar ôl ei farwolaeth.

‘Gwirionedd’ – Elinor Wyn Reynolds

Nofel ysgubol sy’n cynnig golwg newydd ar un o ddigwyddiadau mawr bywyd – marwolaeth.

‘Byddi di’n iawn’

Yn y gyfrol hon, caiff darllenwyr ddarganfod straeon am bobl sydd wedi gorfod ymdopi â galar, gan ddysgu drwy hynny sut i ddatblygu hyder, ymddiriedaeth a meddylfryd dygn – y gallu i sylwi, derbyn a siarad am emosiynau.

‘Siwmper Mam’

Dyma stori syml, gynnes-galon i godi ysbryd unrhyw un sy’n ceisio ymdopi â cholled.

‘Mynd’ – Marged Tudur

Cyfrol o gerddi gan Marged Tudur am y profiad o golli ei brawd.

‘Dod nôl at fy nghoed’ – Carys Eleri

Mae cyfrol Carys Eleri yn trafod cyfnod anodd iddi hi ac i’w theulu yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.

‘Camau cyntaf drwy brofedigaeth’

Mae Camau Cyntaf trwy Brofedigaeth yn rhoi arweiniad gwerthfawr trwy’r broses o alaru.

‘Cyflwyniad i ymdopi â galar’

Mae’r canllaw hunangymorth hwn yn archwilio’r broses alaru, yn ei hesbonio ac yn amlinellu strategaethau sydd wedi’u profi’n glinigol ac sy’n seiliedig ar therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

Elin Maher, Megan Devine

Colled

Mae colledion sy’n aildrefnu’n byd. Marwolaethau sy’n newid y ffordd y gwelwn bopeth. Galar sy’n rhwygo popeth cyfarwydd i lawr. Poen sy’n ein cludo i fydysawd hollol wahanol. A hyn, wrth fod byd pawb arall wedi newid dim mewn gwirionedd.

Gweno Lloyd Roberts

Dysgu byw hefo galar

Mae galar yn beth rhyfedd. Dwi’n meddwl bod rhaid i berson fynd drwyddo i wir fedru deall sut beth ydio.

‘Galar a Fi’ – Esyllt Maelor (gol.)

Dyma ymateb 13 o bobl sydd wedi bod trwy’r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar.

Alice Jewell

Adre

Wy ti ‘di ymgartrefi ger bron Duw, a minnau’n aros yn dy ‘stafell fyw?