Dysgu byw hefo galar
Mae galar yn beth rhyfedd. Dwi’n meddwl bod rhaid i berson fynd drwyddo i wir fedru deall sut beth ydio.
Y disgrifiad gora i mi allu ei ddefnyddio ydi bod galar fel tonnau’r môr, mae o’n gallu dod drostoch fel ton enfawr pan nad ydych yn ei ddisgwl, ac mi rydach yn teimlo fel eich bod yn boddi, yn brwydro i anadlu.
Dyma ydi galar.
Gallai ddigwydd unrhyw adeg, unrhyw le, pan ‘da chi’n cerdded lawr y stryd, neu’n bwyta mewn bwyty, mae’r teimlad yn un mor enfawr, a thyfn mae rhywun cwffio yn erbyn crio, yn cwffio i beidio a sgrechian.
Ond pam bod angen cwffio? Pam bod angen teimlo cywilydd i guddio’r boen?
Dyma ydi galar.
Dim fi sydd wedi dewis galar, galar sydd wedi newis i. Mae galar yn fy mywyd bob dydd, dydwi byth yn mynd i gael diwrnod heb alaru, dydio ddim yn beth nai allai droi i ffwrdd. mae o’n rywbeth dwi angen dysgu byw hefo. Fyddai byth yr un person o ni cyn i mi orfod profi galar.
Dyma ydi galar.