Adre
Meddai’r gweinydd dy fod ti adre nawr
Ond gwacter llethol sy’n mygu dy dŷ,
Atgof yn staenio pob wal a phob llawr,
Fel mynwent hapusrwydd unwaith a fu.
Yn ôl bob sôn mewn hedd rwyt ti’n gorffwys
O’r diwedd wedi cyrraedd y man gwell
Er anodd yw dychmygu paradwys
Ac mwyach ni’n dwy’n uffernol o bell.
Tragwyddol gaeth i ystafell o bren
Y derw drws blaen digroeso ar gau
A tho o flodau bob lliw uwch dy ben
Yn gysodfan rhag storom fy nagrau.
Wyt ti ‘di ymgartrefi ger bron Duw,
A minnau’n aros yn dy ‘stafell fyw?