Ymdopi â dibyniaeth

Pan fyddwn ni’n meddwl am ddibyniaeth neu gaethiwed, rydyn ni’n tueddu i feddwl am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, ond gall dibyniaeth ymwneud â sawl peth gwahanol: cyffuriau, alcohol, bwyd, ymarfer corff, pornograffi, gemau, cyfryngau cymdeithasol, tatŵs, hunan-niweidio, gamblo, siopa – unrhyw beth rydyn ni’n teimlo nad oes gennym reolaeth arno a rhywbeth sy’n effeithio ar ein hwyliau ac ar ein hymddygiad.

Gall dibyniaeth fod yn hynod o anodd ymdopi ag ef, yn enwedig pan fydd y pethau rydyn ni’n gaeth iddynt yn aml ar gael yn rhwydd.

Adnabod sbardunau

O ran dibyniaeth, ffactorau emosiynol neu amgylcheddol yw sbardunau ac maen nhw’n achosi inni deimlo fel petai angen defnyddio ein dibyniaeth. Gallai ymwneud â phobl, llefydd, pethau, adegau o’r flwyddyn neu rywbeth arall. Gall adnabod ein sbardunau gymryd amser, ond unwaith inni wneud hynny, mae modd inni eu hosgoi neu ddysgu ffyrdd o’u rheoli.

Sefyllfaoedd uchel eu risg

Mae sefyllfaoedd uchel eu risg yn debyg i sbardunau, ond yn hytrach na bod yn rhywbeth penodol, fel ‘gweld unigolyn yn cerdded y ci’, sefyllfaoedd penodol ydyn nhw. Gallai hyn fod y Nadolig, gweld y teulu neu gael adborth negyddol yn y gwaith. Weithiau gall y sefyllfaoedd hyn fod yn anodd eu hadnabod tan inni eu hwynebu nhw, felly gall gwneud nodyn pan fydd sefyllfa’n achosi inni deimlo bod angen ein dibyniaeth fod yn ddefnyddiol. Unwaith inni adnabod y sefyllfaoedd hyn, gallwn ni greu cynllun ar gyfer ymdopi â nhw heb droi at ein dibyniaeth. Yn aml, mae’n ddefnyddiol gwneud nodyn o sawl syniad gwahanol rhag ofn na fydd ein syniadau cyntaf neu ein hail syniadau’n bosibl neu rhag ofn na fyddan nhw’n gweithio.

Mecanweithiau ymdopi amgen

Os na fydd ein dibyniaeth yn ein helpu ni i ryw raddau, fyddwn ni ddim yn parhau i’w ddefnyddio. Rhywbeth sy’n gallu bod yn allweddol iawn wrth ymdopi â dibyniaeth yw gwybod sut mae’n ein helpu ni ac yna dod o hyd i fecanwaith ymdopi iachus yn ei le.

Mae creu rhestr o fecanweithiau ymdopi gallwn ni eu defnyddio pan fyddwn ni am droi at ein dibyniaeth yn ddefnyddiol. Yn hytrach na throi at ein dibyniaeth, gallen ni roi cynnig ar bethau fel gwylio’r teledu, darllen, cerdded, siarad â ffrind, tynnu llun, ysgrifennu, paentio, gwrando ar gerddoriaeth, gwrando ar bodlediadau, gwneud ymarferion anadlu, rhwygo darnau o bapur, ysgrifennu ar ein hunain, rhedeg, glanhau, hunan-dawelu, gwneud jig-so neu groesair, canu, anwesu anifail, dawnsio, chwarae gyda ‘play-doh’ neu gysylltu â llinell gymorth. Weithiau, bydd rhaid inni roi cynnig ar fecanwaith ymdopi ychydig o weithiau cyn iddo ddechrau gweithio – dyfal donc a dyr y garreg!

Nodiadau atgoffa

Weithiau byddwn ni’n meddwl bod brwydro yn erbyn ein dibyniaeth yn dda i ddim. Bydd hi’n rhy anodd. Byddwn ni’n rhy flinedig. Dydyn ni ddim yn gallu felly beth yw’r pwynt hyd yn oed trio? Pan fydd hyn yn digwydd, fydd gennym ni ddim diddordeb mewn estyn allan am gymorth neu mewn defnyddio mecanweithiau ymdopi iachus.

Mae’r adegau hyn yn uchel iawn eu risg, o ran troi yn ôl at ein dibyniaeth. Gall atgoffa ein hunain pam dydyn ni ddim am fynd ato ein helpu i barhau. Gallai hyn fod ar ffurf lluniau ar ein ffôn, ar y wal, neu yn ein pwrs neu waled. Mae’n bosib bod gennym ni restr o ‘rhesymau dros barhau’ neu ‘pethau rydyn ni am eu gwneud pan fyddwn ni’n barod’.

Myfyrio

Weithiau bydd pethau’n dda iawn a byddwn ni’n teimlo ein bod ni’n curo ein dibyniaeth. Weithiau, fydd pethau ddim yn dda, a gall hyn deimlo fel petai ein dibyniaeth yn ein curo ni.

Os ydyn ni wedi rheoli sefyllfa anodd heb droi at ein dibyniaeth, rydyn ni wedi gwneud cynnydd go dda! Sut llwyddom ni i wneud hynny? Pa fecanweithiau ymdopi ddefnyddiom ni? Allai hi fod yn ddefnyddiol gwneud nodyn fel ein bod ni’n gwybod y dylen ni roi cynnig arno eto yn y dyfodol?

Os ydyn ni wedi ei chael hi’n anodd wynebu sefyllfa anodd ac wedi troi at ddibyniaeth, dydyn ni ddim wedi methu, rydyn ni ond wedi cael nam bach. Gallwn ni ddysgu cymaint (os nad mwy) o’n camgymeriadau ag y gallwn ni o’n llwyddiannau. Beth aeth o’i le y tro hwn? Oedd sbardun annisgwyl neu sefyllfa fwy uchel ei risg doedden ni ddim wedi’i rhagweld? Aeth unrhyw beth yn iawn? Allen ni wneud unrhyw beth yn wahanol yn y dyfodol?

Bod yn onest

Un o’r pethau pwysicaf o ran dibyniaeth yw bod yn onest. Bod yn onest ag eraill ac yn onest â ni ein hunain. Mae dweud celwydd wrthym ni ein hunain ac wrth bobl eraill yn debygol o achosi llawer o broblemau, felly hyd yn oed pan fydd hi’n anodd dros ben, mae’n bwysig trio dweud y gwir.

System gefnogaeth

Does dim rhaid inni ymdopi â dibyniaeth ar ein pen ein hunain. Gall dibyniaeth fod yn hynod o gryf, felly mae angen inni geisio creu system gefnogaeth gref i frwydro yn ei erbyn. Does dim angen i’n system gefnogaeth fod yn fawr, ond gall cwpl o ffrindiau neu aelodau o’r teulu neu sefydliadau gallwn ni droi atynt pan fyddwn ni’n ei chael hi’n anodd fod yn ddefnyddiol. Hefyd, mae’n bosib y byddwn ni’n elwa o fyfyrdod, therapi neu gwnsela gan weithwyr proffesiynol.

Weithiau byddwn ni’n ei chael hi’n anodd gadael pobl i’n helpu ni. Mae’n bosib y byddwn ni’n teimlo nad ydyn ni’n ei haeddu neu ein bod ni’n faich – ond rydyn ni yn haeddu cefnogaeth, ac yn yr un modd pan fydd un o’n ffrindiau’n ei chael hi’n anodd, byddwn ni am eu cefnogi nhw, bydd ein ffrindiau’n siŵr o fod am ein cefnogi ni hefyd.

Yn ogystal â chefnogaeth gan ein ffrindiau, ein teulu a gweithwyr proffesiynol, gallai grwpiau cymorth gyda phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg o ddibyniaeth fod o gysur a gallant ein helpu ni i ymdopi. Weithiau, gall bod yng nghwmni pobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg i ni ein helpu i deimlo’n llai unig a rhoi gobaith inni y bydd pethau’n gwella.

[Ffynhonnell: blurtitout.org]