‘Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig’ (y Lolfa) (detholiad)
Daw’r darn isod o Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig gan Yr Athro Kevin Gournay a gyhoeddir gan y Lolfa ac sy’n rhan o’r cynllun Darllen yn Well.
‘Mae ofn yn normal’. Mae’n siŵr fy mod i’n defnyddio’r geiriau hyn bob tro y byddaf yn gweld cleient newydd sy’n dod ataf oherwydd panig neu orbryder ffobig. Fel llawer o ffenomenau normal, y broblem gydag ofn yw y gall fynd y tu hwnt i reolaeth. Gall ofn ddatblygu’n ffobia, felly bydd presenoldeb gwrthrych penodol neu fod mewn sefyllfa arbennig yn arwain at lefel o ofn sy’n annymunol ac yn llethol ac yn gwneud i chi ddymuno dianc oddi wrtho cyn gynted ag y gallwch chi. Yn yr un modd, gall y ‘nerfusrwydd’ y mae pawb yn ei deimlo o dro i dro dyfu i’r fath raddau fel y bydd cymysgedd o deimladau corfforol a meddyliau mor ddwys yn ein llethu. Byddwn wedyn yn teimlo bod trychineb ar fin digwydd – ein bod ar fin marw, neu golli rheolaeth a mynd yn wallgof.
Mae ofn yn rhan hanfodol o’n bywydau ni i gyd. Erbyn meddwl, byddai pobl heb ofn yn cael eu lladd y tro cyntaf y bydden nhw’n croesi ffordd. Gofynnwch I chi’ch hun: ‘Ydy profi rhywfaint o ofn a phryder yn normal?’ Os mai’r dewis yw cerdded i lawr ffordd olau neu dorri ar draws llwybr tywyll yn hwyr y nos, beth sy’n ein hatal rhag dewis y llwybr mwy peryglus? Ein galluogi i oroesi yw swyddogaeth ofn: mae’n ein hamddiffyn rhag dewis yn annoeth a cherdded ar hyd y llwybr tywyll yn hytrach na cherdded ar hyd y ffordd olau. Mae ofn hefyd yn ein hamddiffyn mewn ystyr corfforol. Mae hormon ofn – adrenalin – yn paratoi ein corff i ymateb i sefyllfaoedd drwy ‘ymladd neu ffoi’.
Categorïau cyflyrau gorbryder
Mae ffobiâu a phanig yn gyflyrau gorbryder. Gellir rhannu cyflyrau gorbryder yn grwpiau fel y ganlyn:
– Ffobiâu syml (penodol)
– Ffobia cymdeithasol neu anhwylder gorbryder cymdeithasol
– Panig ac anhwylder panig
– Agoraffobia gydag anhwylder panig a hebddo
– Cyflyrau gorbryder cyffredinol
Pa mor gyffredin yw ofnau a ffobiâu?
Yn fras, mae gan un o bob deg o’r boblogaeth ffobia a fyddai’n ddigon difrifol i gyfiawnhau ei drin. Mae ffobia cymdeithasol gan tua 4 y cant o’r boblogaeth, ac agoraffobia neu symptomau agoraffobia gan tua 5 y cant. Bydd tua un o bob tri o’r boblogaeth yn cael pwl o banig ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.
Mae’n amlwg, felly, fod cyflyrau gorbryder, o bob lliw a llun, yn gyffredin iawn ac nad oes angen teimlo unrhyw gywilydd ohonyn nhw. Nid yw bod yn orbryderus yn golygu eich bod yn llwfr neu’n wan. Rydw i wedi cael y fraint, yn fy mywyd proffesiynol, o gwrdd â miloedd o bobl a chyflyrau gorbryder. Nid oes gen i ond edmygedd atynt gan fod cymaint ohonynt wedi dangos y fath ddewrder a fyddai y tu hwnt i mi, ac maen nhw’n cyfrannu cymaint i’n cymdeithas er gwaethaf eu hofnau.
Yn aml, mae pobl sydd a’r cyflyrau hyn yn profi ffobiâu a phyliau panig y mae angen eu trin.
Ffobiâu syml (penodol)
Diffiniad posibl o ffobia yw ofn amlwg neu barhaus sy’n ormodol, yn afresymol neu’n anghymesur â’r perygl sy’n perthyn i’r sefyllfa neu’r gwrthrych.
Ym mwyafrif helaeth yr achosion, mae’r person yn ymwybodol bod yr ofn sy’n gysylltiedig â’r ffobia yn ormodol ac/neu’n afresymol ac fe allai gyfaddef ei fod yn teimlo’n wirion neu’n teimlo cywilydd o gyfaddef bod ganddo broblem. Gall bron pob gwrthrych neu sefyllfa y gallwch feddwl amdanynt ddod yn destun ffobia.
Mae ffobia syml yn aml yn dechrau yn gynnar iawn yn ystod plentyndod ac mae llawer o’r bobl rwy’n eu gweld yn dweud wrthyf, “Mae’r ofn yma wedi bod arna i erioed.” Gan amlaf nid oes rheswm clir dros y ffobia, ond weithiau mae’n dechrau ar ôl digwyddiad trawmatig penodol.
Nid yw’r ymadrodd ‘ffobia syml’ o reidrwydd yn awgrymu bod pob ffobia syml yn un ysgafn. Gall rhai ffobiâu syml achosi ofn mawr a straen eithafol, a chyfyngu’n ddifrifol ar fywyd pob dydd.
Mae rhai o’r ffobiâu syml cyffredin yn cynnwys:
- Anifeiliaid
- Hedfan
- Uchder
- Tywydd
- Ofn deintyddion
- Chwydu
- Gwaed, anafiadau a phigiadau
- Salwch, gorbryder iechyd neu hypochondriasis
Ffobia cymdeithasol neu anhwylder gorbryder cymdeithasol
Mae syniad rhywun cyffredin bod ffobia cymdeithasol yn fath o swildod, i ryw raddau yn gywir. Gan amlaf, fodd bynnag, mae’n llawer mwy na dim ond swildod.
Diffiniad Cymdeithas Seiciatrig America o ffobia cymdeithasol yw ofn amlwg a pharhaus o un neu ragor o sefyllfaoedd cymdeithasol neu berfformiad – hynny yw, pan fydd rhywun yn dod i gysylltiad â phobl anghyfarwydd neu pan fydd pobl eraill yn craffu arno. Mae ofnau o’r fath yn hynod gyffredin, ond oherwydd eu hunion natur (maen nhw’n ymwneud yn bennaf â chywilydd neu embaras), nid ydynt wedi’u cofnodi’n ddigonol ac mae llawer o bobl yn byw gyda’u hofnau gydol eu hoes.
Panig ac anhwylder panig
Mae panig yn gysyniad anodd iawn ei ddiffinio’n ddigonol. Un o’r problemau yw bod pawb yn wahanol a gall yr hyn sy’n bwl o banig i un person fod yn ddim ond lefel uchel iawn o orbryder i rywun arall. Efallai mai’r diffiniad ymarferol gorau o banig yw cyflwr, ym meddwl yr un dan sylw, lle mae’r gorbryder y tu hwnt i reolaeth. Yn aml, mae panig a ffobia yn cydblethu.
Dyma rai o’r symptomau a restrir yn niffiniad Cymdeithas Seiciatrig America o banig yn ei Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (APA, 2000):
- Chwysu
- Crynu neu ysgwyd
- Crychguriadau (palpitations), y gallon yn curo’n drwm neu’n gyflymach
- Teimladau o ddiffyg anadl neu fygu
- Teimladau o dagu
- Poen neu anghysur yn y frest
- Cyfog neu anghysur yn yr abdomen
- Pendro, teimlo’n simsan, yn benysgafn, neu ar fin llewygu
- Teimlo’n afreal ac wedi’ch gwahanu oddi wrthych eich hun
- Ofn colli rheolaeth neu fynd yn wallgof
- Ofn marw
- Teimlo pinnau bach neu golli teimlad
- Rhynnu neu chwiwiau poeth
Panig digymell
Mae’r prosesau seicolegol a chemegol sydd wrth wraidd pyliau o banig yn gymhleth. I rai, efallai y bydd rheswm dros y panig, fel ffobia cyfarwydd. Fodd bynnag, i eraill maen nhw’n ymddangos yn hollol annisgwyl heb unrhyw reswm amlwg.
Mae llawer o bobl yn fwy tebygol o gael pyliau o banig sy’n ymddangos yn ddigymell y diwrnod ar ôl iddyn nhw yfed gormod o alcohol neu gymryd cyffuriau.
Agoraffobia gyda anhwylder panig neu hebddo
Mae agoraffobia yn gyflwr lle mae gorbryder yn digwydd mewn mannau neu sefyllfaoedd penodol lle mae pobl yn teimlo y gallai dianc ohonynt fod yn anodd neu’n embaras, neu lle na fyddai cymorth ar gael yn rhwydd, efallai. Mae hyn wedyn yn eu harwain at osgoi mynd allan fel na fydd yn rhaid iddynt wynebu’r gorbryder mae’r lleoedd neu’r sefyllfaoedd hyn yn ei achosi, weithiau i’r fath raddau fel eu bod yn mynd yn gaeth i’r tŷ.
Gall cymaint ag un o bob wyth ohonom fod ag ofn agoraffobig neu ddau. Er enghraifft, mae nifer o bobl yn osgoi teithio ar drenau tanddaearol neu sefyllfaoedd amrywiol eraill oherwydd gorbryder.
Cyflyrau gorbryder cyffredinol
Mae cyflwr gorbryder cyffredinol yn golygu gorbryder a phoeni gormodol sy’n ymyrryd ag agweddau amrywiol ar fywydau pobl. Mae gorbryder cyffredinol o’r fath yn aml yn cyd-fynd a ffobiâu, rhai syml a rhai cymhleth.
Dyma chwe symptom canolog cyflyrau gorbryder cyffredinol:
- Aflonyddwch
- Blino’n rhwydd
- Anhawster canolbwyntio neu gofio
- Bod yn bigog
- Tensiwn yn y cyhyrau
- Methu cysgu
Gall cyflyrau gorbryder cyffredinol arwain at amharu’n fawr ar agweddau cymdeithasol a galwedigaethol ar bywyd ac ar feysydd eraill bywyd. Mae’r cyflwr yn aml yn gwaethygu nes bod pobl yn teimlo’n hollol ddigalon ac isel.
Anhwylderau eraill sy’n gysylltiedig â gorbryder
Anwylder straen wedi trawma (PTSD)
Canlyniad profi digwyddiad trawmatig. Mae PTSD yn cynnwys ystod o symptomau. Yn aml iawn mae pobl yn profi’r un atgofion, breuddwydion ac ol-fflachiadau annymunol dro ar ôl tro, mae eu hymateb cyffredinol i bopeth yn pylu, neu maent yn profi ddiffyg diddordeb sylweddol yn eu gweithgareddau arferol. Yn aml iawn hefyd mae pobl yn cwyno’u bod yn teimlo eu bod wedi’u datgysylltu neu wedi’i gwahanu oddi wrth eraill ac yn methu gweld unrhyw ddyfodol iddynt eu hunain.. mae symptomau eraill yn cynnwys tarfu ar eu cwsg, teimlo’n bigog neu’n ddig, ac anhawster canolbwyntio.
Anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD)
Mae anhwylder gorfodaeth obsesiynol yn un o’r cyflyrau gorbryder sy’n arwain yn aml at byliau o banig ac ymddygiad osgoi. Mae sawl ffurf ar yr anhwylder hwn, ond yn y bôn mae’n cynnwys meddyliau annymunol, ailadroddus a gofidus, neu’r teimlad o orfod gwneud rhywbeth, fel golchi dwylo’n aml neu tsiecio neu ailadrodd gweithgaredd.
Anhwylder dysmorffig y corff (BDD)
Cafodd y term anhwylder dysmorffig y corff (BDD: body dysmorphic disorder) ei fathu gan Gymdeithas Seiciatrig America yn 1994 i ddisgrifio pobl sy’n gofidio’n barhaus am nam dychmygol o ran sut maen nhw’n edrych. Mae’n cael ei briodoli hefyd i achosion pobl sydd â mân amrywiad corfforol ac sy’n gofidio’n barhaus a cyn anghymesur amdano.
Cyhoeddir Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig gan y Lolfa a gellir ei brynu yma am £4.99.