Llyfrau iechyd meddwl AM DDIM
DIWEDDARIAD: Yn sgil poblogrwydd y cynnig hwn, rydym wedi gorfod addasu’r cynnig i 1 llyfr am ddim i bob cwsmer
Rydyn ni’n falch i gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau i rannu llyfrau AM DDIM* drwy gydol mis Mawrth gyda’r cod ‘Darllen yn Well’!
Mae’r cynnig yn berthnasol i’r llyfrau yn y categori Darllen yn Well yn ein siop, sef llyfrau sy’n dy gefnogi di i ddeall ac i ymdopi â dy iechyd a lles. Mae’r llyfrau wedi eu hargymell gan arbenigwyr iechyd a phobl sydd â phrofiad o’r cyflyrau a’r pynciau a drafodir yn y llyfrau. Yn rhan o’r casgliad mae llyfrau ffuglen a hunangymorth i blant, i bobl ifanc yn eu harddegau, ac am gyflyrau iechyd meddwl penodol. Mwynhewch y darllen!
*Telerau ac amodau:
- Mae’r cod yn berthnasol i’r llyfrau yn y categori Darllen yn Well yn unig
- Uchafswm o 3 llyfr am ddim i bob cwsmer
- Codir cost postio o £3.20 ar bob archeb
- Mae’r cod yn ddilys tan ganol nos 31 Mawrth 2024
- Agored i rai sy’n byw yn y DU yn unig
Gellir darllen rhagor am y cynllun Darllen yn Well yma.