Iselder

Rhybudd cynnwys: meddyliau hunanladdol

Myfyriwr yn y brifysgol oeddwn i ar y pryd a roeddwn newydd luchio’r ffôn yn erbyn wal fy llofft wedi ffrae fawr arall efo’r cariad.  Roedd o ar ei ffordd i’r dafarn efo’i ffrindiau a minnau am dreulio noson arall yn cuddio yn y tŷ dan orchudd fy ngwely. Roeddwn i’n gythreulig fod o am wario noson arall yn mwynhau ei hun tra mod innau’n jest, wel, methu. Ar hynny dyma i mi sylwi nad oedd pethau’n iawn ac nad oeddwn i wedi bod yn iawn ers tro byd.

Daeth y gwireddiad yn araf bach fy mod i’n torri calon neu’n gwbwl ddideimlad yn barhaol, fy mod i wedi colli pwysau mawr am nad oeddwn i efo unrhyw awydd bwyd, fy mod i wedi cychwyn colli cysylltiad efo’m ffrindiau agosaf, fy mod i’n colli trac ar amser, weithiau am ddyddiau ar gyhyd. Doedd gen i ddim diddordeb yn y pethau hynny oedd ar un adeg wedi cymryd fy mryd. Roedd ‘na baced o sigarennau ar y ddesg a marciau llosg ar y gobennydd ond doeddwn i ddim yn cofio prynu’r paced na’u ysmygu nhw. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn ysmygu.

Roeddwn i’n gwario’n amser yn ystod y dydd yn fy narlithoedd efo’m ffrindiau. Doedd gan yr un ohonyn nhw syniad o’m salwch i a doeddwn i ddim mewn gwirionedd yn ei chael hi’n anodd cadw hynny rhagddyn nhw. Ymddwyn yn ‘normal’ yn ystod y dydd, cyn cerdded adra a chloi fy hun yn fy ‘stafell am weddill y noson, yn cysgu drwy’r hwyrnos ac yn gwbwl effro erbyn tri y bora. Cychwynnais ymddwyn yn ddiystyriol tuag at fy ffrindiau agosaf; os doeddwn i ddim am wneud yr ymdrech, falla’ y byddai nhw’n colli diddordeb a fyddwn i ddim yn gorfod ateb cwestiynau ynglŷn â lle oeddwn i nos Sadwrn, neu pam doeddwn i ddim am ateb y ffôn. Roeddwn i’n dipyn o giamstar ar golli ffrindiau erbyn y diwedd.

Penderfynais fynd ‘nôl adra at fy rhieni am sbel heb sôn wrthyn nhw am yr hunllef ddyddiol efo’r bwriad o weld meddyg teulu tra yno. Ar yr ymweliad cyntaf, collais fy nerf yn llwyr a gofyn am ail-brescripshwn o’r bilsen yn lle. Doeddwn i ddim isho clywed y ddyfarniad ac yn fwy na hynny, doeddwn i ddim isho cyfaddef i mi fy hun fod gen i ‘wendid’. Roeddwn i wrthi’n gadael tŷ mam a dad er mwyn ei throi hi’n ôl am y brifysgol pan gychwynnais grio a chrio a chrio. Roedd fy rhieni wedi dychryn, doedd ganddyn nhw ddim profiad o iselder o’r blaen, ond dyma deimlo ychydig o’r pwysau’n codi oddi ar fy ysgwyddau wrth i mi gymeryd y cam cyntaf.

Esi’n ôl i weld y meddyg teulu’r bora wedyn a deud y cwbwl wrtho. Roedd yn rhaid i mi lenwi holiadur ynglŷn â fy symptomau ac yntau wedyn yn cyfrifo’r sgôr i weld pa mor wael oedd fy salwch. Dwi’n cofio’r golwg ar ei wyneb pan sylwodd o fod yr eneth wamal â gwen fawr blastic ar y sedd o’i flaen wedi sgorio yn agos i’r uchafswm. “Mae’n awgrymu’n fama fy mod i’n cysidro dy yrru di am apwyntiad brys i’r ysbyty” meddai. “Wyt ti wir yn cysidro hunanladdiad?” Dwi’n cofio chwerthin – chwerthin cofiwch – wrth atab mod i’n ffeindio hi’n anodd meddwl am ddim byd arall, ond na fyddwn i’n gneud hynny i’m rhieni.  Cefais fynd adref ar yr amod fy mod i’n aros dan ofal fy rhieni nes i’r feddyginiaeth newydd, Citalopram, gychwyn cael gafael ac fy mod i’n dychwelyd i’r feddygfa bob yn ail diwrnod am sbel.

Yn anffodus, mynd yn waeth aeth pethau cyn gwella, er gwaetha’r feddyginiaeth. Cychwynnais ddioddef o paranoia a gorbryder ofnadwy. Doeddwn i’n methu gadael y tŷ am ddyddiau ac ar yr adegau hynny ble roeddwn i’n ddigon hyderus i gerdded drwy’r drws ffrynt, troi’n ôl fyddwn i am fy mod i’n siŵr fod pawb o ‘nghwmpas i’n siarad amdanai ac yn chwerthin ar fy mhen. Dyma gychwyn cylch dieflig o byliau o banig cyhoeddus yn dilyn pwl o baranoia, a phryder ac ymateb y bobl o nghwmpas i wedyn fel tanwydd i’r paranoia eto. Roeddwn hefyd yn colli amser yn fwy aml; ‘transient global amnesia‘ ydi’r term meddygol, ble roeddwn i’n dod at fy hun ar ganol stryd ddieithr neu mewn caffi neu dafarn ac yn methu’n glir a chofio sut i mi lanio yno. Roedd yn brofiad dychrynllyd ac o bosib yn un o’r adegau gwaethaf yn fy salwch. Y gwir ydi fy mod i wedi colli cyn gymaint o amser nad ydwi’n cofio llawer o’r manylion bellach.

Roeddwn wedi cysidro hunanladdiad nifer o weithiau cyn i’r salwch droi’n fwy difrifol; erbyn y pwynt yma, doeddwn i’n methu cael y syniad o hunanladdiad o ‘mhen. Roedd y demtashwn ymhobman; doeddwn i’n methu croesi’r stryd heb orfod gwneud ymdrech fawr i atal fy hun rhag neidio o flaen y cerbyd nesaf.

Yn araf bach, wrth i’r dôs Citalopram fynd yn uwch nes oeddwn i ar y dôs fwyaf bosib, sylwais fod ‘na rai munudau o’r dydd eto lle roeddwn i’n medru teimlo. Cyrhaeddais i’r pwynt ble roeddwn i’n medru gweithredu ar rhyw lefel eto a chychwyn mwynhau heb orfod actio. Roedd sgil-effeithiau’r tabledi’n amhleserus iawn, ond roedd medru chwerthin eto werth y geg sych, y tagu a’r insomnia. Rhois gynnig ar gwnsela heb fawr o lwc; dydw i erioed wedi bod yn un am siarad am fy mhroblemau ac felly ches i fawr o gysur wrth agor fyny i ddieithryn. Ond roedd y deunydd ar y wê o fudd mawr, a’r cymorth a’r anogaeth gefais gan fy nheulu yn amhrisiadwy.

Roedd ‘na ran mawr ohonai doedd ddim isio gwella, cofiwch. Mae ‘na rhyw ochr hunanfaldodus afiach i iselder sy’n anodd iawn esbonio i bobl sydd heb ei brofi; yn sicr doedd fy nheulu na’r ffrindiau prin hynny wnes i ymddiried ynddyn nhw ddim yn deall pam fy mod i’n ymddangos yn gyndyn ar brydiau i wella. Doedd geni ddim diddordeb yn yr erthyglau a’r llyfrynnau ‘self-help’ oedd fy nhad druan yn ddarganfod ar y wê mewn ymgais i helpu rhywfaint; doedd o na neb arall yn y byd yn deall fy mrwydr bersonol. Yn sicr, chymeris i ddim sylw o gwbwl o’r erthygl ddarganfodd o ynglŷn a risg iselder mewn genethod oedd yn cymeryd y bilsen, Dianette, fel fi. Rwtsh llwyr, propaganda o’r fath waethaf, meddais i, cyn lluchio’r erthygl i’r pentwr ar lawr fy llofft.

Tra’n sefyll arholiadau diwedd blwyddyn y brifysgol, rhedais allan o fy nhabledi Dianette. O fewn wythnos, coeliwch neu beidio, dyma fi’n ôl. Wythnos. Roeddwn i wedi dioddef o iselder ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn a dim ond wythnos oddi ar y blydi bilsen ‘na gymerodd hi i mi gychwyn teimlo fel fi yn ôl.

Wrth gwrs, dydi bywyd byth mor syml a hynny. Methu’r arholiadau wnes i, doedd geni ddim gobaith pasio siwr iawn, a ces fy ngwahardd o’r cwrs o’r herwydd. Fe gymerodd hi drwy’r Haf a rhan helaeth o’r Hydref i mi berswadio’r brifysgol i adael i mi ail-ymuno ac hydynoed bryd hynny, roedd nifer o ganllawiau ychwanegol roedd raid mi ddilyn yn ystod gweddill fy amser yno er mwyn cael graddio.

Ar ben hynny, er gwella o’r iselder, cefais fy ngadael â’r gorbryder a paranoia i raddau llai. Mae hi wedi cymeryd blynyddoedd o waith i ddod i’r afael ar hyn ac a bod yn onast dwi’n dal ei chanfod hi’n frwydr weithiau. Ond er erchylldra’r profiad, dwi’n teimlo i mi ddod draw yr ochr arall yn berson cryfach a mwy empathetig. Dwi’n deall fy mod i mewn ffordd od iawn yn ‘lwcus’ mai nid rheswm gwbwl organig oedd tu ôl fy salwch i.

I unrhyw un sydd yn darllen hwn yn gobeithio am rhyw fymryn o gysur neu gysylltiad, mi fyddwn i’n pwysleisio pwysigrwydd canfod help yn fuan. Mae hi’n dipyn haws gwthio pobl i ffwrdd nag ydi hi i gyfaddef eich bod chi’n dioddef, ond cymerwch hi gan rhywun wnaeth yr union gamgymeriad yma; dim ti ydi’r unig un a dwyt ti’n sicr ddim angen bod yn unig.

Di-enw