Seicosis, diagnosis ac ysbytai – Lauren Buxton

‘Beth ydi dy ddiagnosis?’ yw’r cwestiwn dwi’n ei gael amlaf. Ac mi ydwi o hyd yn troi rownd a dweud mai iselder sydd genai. Ond mae hynny yn bell o’r stori gyfan.

image0.jpegErs rhai blynyddoedd dwi’n dioddef gyda fy iechyd meddwl ac mi ydwi wedi bod mewn ag allan o’r ysbyty. Yr hiraf rwyf wedi bod mewn ysbyty oedd blwyddyn yma, roeddwn i fewn am 8 mis.

Dachi’n gwybod y llais bach ‘na mae pawb yn ei glywed yn dweud bo’ chi’m digon da? Yn beirniadu chi ar bopeth dachi yn ei wneud? Wel dyna oeddwn i’n ei glywed… bob bora dydd a nos, dweud ‘bod neb yn licio fi’ ‘gna ffafr i bawb a diflanna’. Yn y cychwyn roeddwn i’n trio ei bwsio i ffwrdd, ond y mwyaf oni’n gwneud hynny, y gwaethaf oedd o. Nes i wrando ar y llais ‘ma, a meddwl am be oeddant yn dweud, nes yn diwadd mi wnaeth y llais gymryd drosodd fy mywyd. Es i ir pwynt ble oni’n gweld perygl ym mhob dim, roeddwn yn sicr bod y bobl oedd yn trio fy helpu yn trio fy lladd i, a doeddwn i’m yn trystio neb! Roeddwn yn siwr fod pawb yn siarad amdanai tu ol i ‘nghefn.

Yn yr ysbyty roeddwn yn siwr bod y doctoriaid yn trio fy lladd, a doeddwn i cau cysgu rhag ofn. Roeddwn yn byw ar ryw 2-3 awr o gwsg y diwrnod, ac yn nodi pob symudiad oedd y staff yn ei gwneud. Roedd y paranoia wedi cymryd drosodd, ag y nodiadau roeddwn yn sgwennu, wel, swni ddim yn ei dallt nhw os fyswn yn darllen nhw allan nawr. Dwi heb sôn am y ochr seicosis gyda llawer o neb oherwydd dwi erioed wedi bod yn falch o fod wedi clywed lleisiau, dwi’n ofn dweud wrth bobl cofn imi gael fy marnu, i bobl sbio arnai mewn ffordd wahanol.  Ond gall hyn ddigwydd i rhywun, mae seicosis yn llawer fwy cyffredin na mae pobl yn meddwl. A wir ichi, does na ddim byd mwy ofnus na theimlo fel bod rhywun arall yn rheoli eich meddwl ac eich corff.

Am oes roeddwn yn meddwl mai tabledi oedd yr ateb, fysai cymryd un tabled yn fy ngwella, ond mae hynny yn bell o fod yn gywir. Peidiwch a cymryd hyn yn y ffordd anghywir, mae tabledi yn helpu i ryw raddau ond mae rhaid imi newid er mwyn iddyn nhw weithio yn iawn hefyd.

Yr esiampl dwi’n ei ddefnyddio nawr ydi person gyda clefyd siwgwr. Mae nhw’n gorfod cael insiwlin ond mae nhw hefyd yn gorfod newid eu diet i fod yn iach. Mae o ‘run peth gyda iechyd meddwl, dwi’n gorfod cymryd y tabledi, ond hefyd dwi’n gorfod newid fy ffordd o feddwl iddyn nhw weithio yn iawn. I allu trin problemau iechyd meddwl yn gywir, dwi wir yn coelio bod rhaid dod i ‘nabod eich hun yn iawn. Dros y blynyddoedd dwi wedi bod o dan y ‘EIPT’ , sef early intervention psychosis team, dwi wedi bod yn cael therapi bob wythnos, a drwy gael therapi mae wedi helpu mi ddod i ‘nabod fy hun yn well.

Rwyf hefyd wedi dod i sylweddoli nad trin y diagnosis sy’n bwysig ond trin y symptomau. Dwi wedi cael llawer iawn o ddiagnosis dros y blynyddoedd a mae yna llawer o cwestiynau ‘di bod o gwmpas pa gyflwr sydd genai… iselder, anxiety, psychosis, bipolar, personality disorders, OCD, ADHD, ADD a llawer mwy, ond y gwir ydy dwi wedi bod yn cael rhai symptomau o rhain i gyd. Dwi ddim yn coelio mewn labelu person, efallai ‘mod i yn dioddef o rhain i gyd, ond mae’n bwysig i drin pa symtomau sydd genai yn lle trin y label, newch chi byth ddwad ar draws dau berson gyda union yr un symptomau, ond mi wnewch chi ddwad ar draws dau berson gyda’r un diagnosis.

Mis Ebrill ‘leni doeddwn i’m yn gweld pwynt mewn byw, doeddwn i ddim eisiau bod yma, a mi wnes i drio cymryd bywyd fy hyn, ar fwy nag un adeg tra yn yr ysbyty hefyd. Mi oedd pawb o fy nghwmpas yn coelio ynai, ac y gallwn fyw bywyd roeddwn i eisiau. Ar ôl misoedd o feddwl yr un peth, mi wnaeth pethau ddechrau newid. Y munud rydych chi’n ffeindio un pwrpas i fyw, mi wnewch chi ffeindio mwy a mwy, ac mae y rhestr o resymau i fyw yn mynd yn fwy na’r rhestr o rhesymau i farw.

Tydi o ddim yn bendant ‘mod i byth am ddiodda yn ddrwg eto, nac yn bendant wnai byth gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty eto. Does dim gwarant wnai ddim gael problemau eto, oherwydd bywyd yw bywyd, ond dwi wedi dwad i dderbyn nawr os mae’n digwydd rhaid imi beidio rhoi amser caled i fy hun os ydi pethau yn mynd yn anghywir, ac os ydwi yn mynd yn sâl unwaith eto, mae pawb angen cymorth ar rhyw bwynt yn eu bywydau, a dyw hynny ddim yn beth drwg o gwbl.

I unrhywun sydd yn diodda’ gyda cyflwr iechyd meddwl, dyma fy neges i chi – dyw o ddim ym rhywbeth i fod efo cywilydd ohono, peidiwch â chwilio am y diagnosis, chwiliwch am help i helpu gyda eich symptomau. Os ydych yn teimlo fel eich bod eisiau gorffen eich bywyd, gofynnnwch am help, siaradwch efo rhywun dachi’n gyfforddus gyda, a dwi o hyd yn dweud wrth fy nheulu a ffrindiau, os ydy rhywun yn teimlo mor isel, mae yna groeso i siarad gyda fi rhyw adeg, efallai na allai ddatrys y broblem, ond gellai gynnig empathi a rhywle saff i fod yn agored. 

Rhannu

Gadael Ymateb