LHDTC+

LGBTQ+

Mae rhai ohonom yn uniaethu fel LHDTC+, sy’n golygu efallai y byddwn yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, rhyngryw, anrhywiol, yn cwestiynu – neu efallai y byddwn yn diffinio ein rhywedd a’n rhywioldeb mewn ffyrdd eraill.

Mae’n bosib bod pobl o’r gymuned LHDTC+ yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylderau iechyd meddwl o ganlyniad i amryw o ffactorau megis camwahaniaethu, anghydraddoldebau a homoffobia neu drawsffobia.

Gall unrhyw un brofi problem iechyd meddwl, ond mae’r rhai ohonom sy’n uniaethu fel LHDTC+ yn fwy tebygol o ddatblygu problemau fel hunan-bach isel, iselder, gorbryder, problemau bwyta, camddefnydd cyffuriau ac alcohol, hunan-niweidio, teimladau hunanladdol, a phroblemau iechyd meddwl eraill.

Nid yw bod yn LHDTC+ yn achosi’r problemau hyn. Mae’r rhesymau pam fod pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o’u datblygu yn gymhleth, ond mae’n debygol o fod yn gysylltiedig â wynebau pethau fel homoffobia, biffobia a thrawsffobia, stigma a gwahaniaethu, profiadau anodd o ddod allan, ac ynysu, allgáu a chael eich gwrthod yn gymdeithasol. 

Os wyt ti’n LHDTC+ ac yn profi anhwylderau iechyd meddwl, dwyt ti ddim ar ben dy hun.

Efallai dy fod di hefyd yn profi gwrthodiad, ymatebion negyddol neu elyniaeth gan aelodau o’r teulu, ffrindiau, dieithriaid, neu gyflogwyr. Gall hyn gael effaith fawr ar dy hunan-barch gan olygu dy fod yn teimlo na alli di fod yn agored am dy hunaniaeth.

Mae’n bwysig cofio y gall cofleidio dy hunaniaeth LHDTC+ hefyd gael effaith gadarnhaol ar dy les. Gall olygu fod gen ti mwy o hyder, perthynas gwell gyda dy ffrindiau a theulu, teimlad o gymuned a pherthyn, a’r rhyddid i fynegi ac i dderbyn dy hun.

[Ffynonellau: mind.org.uk a mentalhealth.org.uk]

Stonewall

Mae ymchwil arloesol Stonewall yn dangos bod anghenion penodol pobl LHDT+ yn cael eu hesgeuluso yn y ddarpariaeth gofal iechyd. Er bod agweddau tuag at bobl hoyw yn gwella, mae’r rhan fwyaf o bobl LHDT+ wedi profi anawsterau yn eu bywydau. Nid yw bod yn hoyw, yn ei hun, yn achosi problemau iechyd meddwl. Ond yn hytrach, mae bwlio homoffobaidd, cael eu gwrthod gan eu teulu, trafferth yn y gwaith ac ymateb gwael gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o hyd yn gyffredin i lawer o bobl LHDT+.

Mwy: Stonewall (PDF – Saesneg)

‘Stigma Dwbl’ – ymchwil gan Stonewall Cymru ar anghenion a phrofiadau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol â materion iechyd meddwl, sy’n byw yng Nghymru (2009)