Cyffuriau
Drugs
Mae dibyniaeth ar gyffuriau yn dod i’r amlwg pan fo unigolyn yn gaeth yn gorfforol ac/neu yn seicolegol, a bydd yr unigolyn yn dioddef symptomau diddyfnu os na fydd yn defnyddio’r cyffur. Cael gafael ar y cyffur a’i ddefnyddio yw’r peth pwysicaf yn eu bywyd.
Mae pob math o gyffuriau yn cael ryw fath o effaith ar ein hiechyd meddwl. Maent yn effeithio ar y ffordd rydym yn gweld pethau, ein hwyliau a’n hymddygiad.
Gall yr effeithiau hyn fod yn:
- Bleserus neu’n amhleserus
- Yn fyr-dymor neu’n hir-dymor
- Yn debyg i’r effeithiau fyddwch chi’n eu profi fel rhan o broblem iechyd meddwl
- Yn diflannu neu yn parhau wedi i effeithiau’r cyffur ddod i ben.
Efallai bod eisoes gennych ddiagnosis o salwch meddwl, ac yn defnyddio cyffuriau i geisio ymdopi.
Sylweddoli bod gennych broblem gyda chyffuriau yw’r cam cyntaf i gael cymorth. Efallai bydd angen cymorth arnoch os ydych chi’n aml yn teimlo’r angen i gymryd cyffuriau, yn mynd i drafferthion oherwydd eich arferion, bod pobl eraill yn eich rhybuddio ynghylch eich arferion, a/neu os ydych chi’n credu bod eich arferion yn achosi problemau i chi. Eich meddyg teulu yw’r lle gorau i gael cymorth. Ceisiwch fod mor onest â phosib ynghylch eich arferion a’r problemau mae hynny’n ei achosi i chi.