Ymwybyddiaeth Ofalgar

Mindfulness

Ymwybyddiaeth ofalgar yw’r dull o ganolbwyntio ein sylw ar y funud honno, drwy ddefnyddio technegau fel myfyrio, anadlu ac yoga.

Mae’n ein helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau er mwyn ein rhoi mewn sefyllfa gwell i’w rheoli, yn hytrach na chael ein llethu ganddynt.

Sut gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu?

Gallwn ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel dull i reoli ein lles a’n hiechyd meddwl. Mae tystiolaeth wedi awgrymu y gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu i atal nifer o gyflyrau, gan gynnwys straen, gorbryder, iselder, ymddygiadau caethiwus yn ogystal â phroblemau corfforol fel clefyd y galon a phoen cronig.

Sut mae dysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar?

Gallwn ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar yn unigol, ar gwrs mewn grŵp neu yng nghwmni hyfforddwr personol sydd wedi hyfforddi ym maes ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn tarddu o Fwdhaeth. Er hynny, nid oes raid i ni fod yn grefyddol nac ysbrydol i ymarfer y technegau.

Ymarferion Ymwybyddiaeth Ofalgar

Dyma ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar amrywiol gan y Sefydliad Iechyd Meddwl y gellid rhoi cynnig arnynt unrhyw le ar unrhyw adeg.

Anadlu

Rhowch sylw am funud i’ch anadlu. Anadlwch i mewn ac allan fel y byddech yn ei wneud fel arfer: sylwch ar yr amser rhwng pob anadliad i mewn ac anadliad allan; sylwch ar eich ysgyfaint yn ymledu. Pan fo’ch meddwl yn crwydro, canolbwyntiwch ar anadlu’n araf i ddod a’r meddwl yn ôl.

Sgan o’r corff

Byddwch yn ymwybodol o’ch corff am funud. Caewch eich llygaid a dechreuwch sganio’ch corff. Dechreuwch gyda’ch traed, yna’n araf, gadewch i’ch ymwybyddiaeth dreiddio’n araf i fyny eich corff ac i’ch dwylo. Pa synwyriadau ydych chi’n eu teimlo? Trymder yn y coesau? Ysigiad yn y cefn? Efallai nad ydych yn profi’r un synnwyr. Ar ôl y dwylo, canolbwyntiwch ar yr amgylchedd a’r gofod o’ch cwmpas.

Cerdded gofalgar

Cerddwch yn araf: byddwch yn ymwybodol o’r teimladau yng ngwadnau eich traed wrth iddynt gyffwrdd a’r llawr a theimladau y profwch yng nghyhyrau’r coesau. Does dim rhaid i chi edrych ar eich traed. Pan fo’ch meddwl yn crwydro, defnyddiwch gyswllt eich traed a’r llawr fel angor i’ch tynnu yn ôl i’r presennol. Rhowch amser i chi’ch hun i ganolbwyntio ar y synwyriadau a brofir wrth gerdded. Gellid ymarfer y dechneg hon ar unrhyw adeg.

Bwyta mewn modd gofalgar

Y tro nesaf y byddwch chi’n bwyta, stopiwch ac edrychwch ar eich bwyd. Rhowch eich holl sylw iddo. Sylwch ar yr ansawdd: edrychwch, teimlwch, aroglwch y bwyd go iawn a’i gnoi – gan sylwi ar y blas a’r ansawdd yn y geg – parhewch i gnoi, rhowch eich holl sylw ar ei flas. Gall bwyta mewn modd gofalgar ein tynnu allan o fwyta’n ddifeddwl, ein helpu i werthfawrogi a mwynhau’r profiad yn fwy.

(Ffynhonnell: Y Sefydliad Iechyd Meddwl)

Traciau Ymwybyddiaeth Ofalgar

Dolenni allanol