Mae’r canllaw ymarferol hwn gan dri arbenigwr blaenllaw ym maes therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn eich galluogi i wneud synnwyr o’ch symptomau ac yn cynnig cynllun clir i’ch helpu i oresgyn eich OCD.
Ydych chi’n cael eich poeni gan feddyliau, arferion a defodau ymwthiol? Fyddech chi’n hoffi adfer rheolaeth dros eich ymddygiad a threchu eich ofnau? P’un a ydych chi’n teimlo gorfodaeth i lanhau yn fwy a mwy trwyadl, yn cael eich poeni gan feddyliau ‘drwg’ neu’n teimlo’r angen i wirio dro ar ôl tro a ydych chi wedi diffodd offer trydanol, mae pryderon obsesiynol yn gallu datblygu’n felltith a’ch llethu o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, does dim angen i chi ddioddef rhagor.
Mae’r canllaw ymarferol hwn gan dri arbenigwr blaenllaw ym maes therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn eich galluogi i wneud synnwyr o’ch symptomau ac yn cynnig cynllun clir i’ch helpu i oresgyn eich OCD.
Mae’n cynnwys:
- gwybodaeth fanwl am y prif fathau o OCD, yn cynnwys OCD pendroni
- gwybodaeth eglur, fesul cam, am sut i drin eich problem chi drwy ddefnyddio CBT
- astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn
- cyngor a chymorth i ffrindiau a pherthnasau’r rhai sy’n byw gydag OCD
- sut i gadw OCD allan o’ch bywyd nawr ac yn y dyfodol
P’un a yw’ch cyflwr yn gymedrol neu’n ddifrifol, bydd yr adnodd diffiniol hwn yn eich helpu i ailafael yn eich bywyd a chadw OCD draw am byth.
Rhagor o wybodaeth
ISBN: 9781784618810 (1784618810)
Dyddiad Cyhoeddi: 3 Mehefin 2020
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 216×133 mm, 292 tudalen
Rhan o’r cynllun ‘Darllen yn Well’
I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.
Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.