‘Torri’n Rhydd o OCD’ (y Lolfa) (detholiad)
Daw’r darn isod o Torri’n Rhydd o OCD gan Dr Fiona Challacombe, Dr Victoria Bream Oldfield a’r Athro Paul Salkovskis a gyhoeddir gan y Lolfa ac sy’n rhan o’r cynllun Darllen yn Well.
Beth yw Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD)?
Ydych chi erioed wedi mynd yn ôl i wirio bod y nwy wedi’i ddiffodd, neu wedi meddwl bod rhywbeth, er ei fod yn ymddangos yn lân, yn fudr neu wedi’i halogi, ac wedi cymryd gofal ychwanegol i’w lanhau, neu hyd yn oed ei daflu? Ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus os nad yw’ch pethau wedi’u trefnu mewn ffordd benodol iawn? Ydych chi erioed wedi meddwl y gallech wneud rhywbeth ofnadwy ac anghydnaws â’ch cymeriad? Ydych chi wedi meddwl am rywbeth na ddylech chi byth feddwl amdano, neu weld delwedd feddyliol ohono? Ydych chi erioed wedi sylwi ar ysgogiad i bob golwg i wneud rhywbeth nad ydych chi wir eisiau ei wneud? Neu ydych chi wedi cael meddwl ‘drwg’ roedd angen i chi gael gwared arno mewn rhyw ffordd?
Mae’r rhain i gyd yn feddyliau ymwthiol, meddyliau sy’n llamu i’ch pen ac yn torri ar draws yr hyn sydd eisoes ar eich meddwl… maen nhw’n ymyrryd! Os ydyn nhw’n gwneud hynny mor aml ac mor gryf fel eu bod nhw’n amharu’n ddifrifol ar yr hyn rydych chi am ei wneud, yna gellir dweud eich bod chi’n dioddef o obsesiynau a gorfodaethau fel cyflwr: anhwylder gorfodaeth obsesiynol.
Obsesiynau
Yr hyn yw obsesiynau, neu ‘feddyliau ymwthiol’, yw meddyliau digroeso ac annerbyniol sy’n ymddangos yn ddiwahoddiad.
Gall obsesiynau godi ar ffurf meddyliau mewn geiriau ac mewn delweddau hefyd; ysfeydd, fel pe bai rhywun eisiau wneud rhywbeth, neu deimladau o amheuaeth. Er mwyn eglurder, byddwn yn cyfeirio atyn nhw fel ‘meddyliau’ o hyn ymlaen. Mae pawb wedi cael y profiad o gân yn dod i’w ben sy’n aros yno fel tiwn gron drwy’r dydd; mae llawer o bobl yn profi ymadroddion disynnwyr neu regfeydd yn llamu i’w pen wrth gerdded i lawr y stryd. Yn wahanol i feddyliau eraill sy’n codi, mae meddyliau obsesiynol yn atgas, yn ddisynnwyr, yn annerbyniol neu’n gyfuniad o’r rhain; maen nhw bob amser yn anodd eu diystyru neu eu hanwybyddu. Mae’n ymddangos bod meddyliau obsesiynol felly, yn sefyll ar wahân i fathau eraill o feddyliau oherwydd eu bod yn estron i’r ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain. Hynny yw, dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â phwy rydyn ni’n meddwl ydyn ni (ond yn aml mae pobl ag OCD yn pryderu y gallen nhw ddatgelu rhyw wirionedd ofnadwy amdanyn nhw eu hunain).
Byddai’n amhosib rhestru’r holl feddyliau ymwthiol y gallai pobl eu cael gan eu bod mor niferus ac amrywiol. Dyma rai meddyliau, delweddau ac ysfeydd ymwthiol cyffredin y byddwn yn ailedrych arnyn nhw drwy’r llyfr.
Meddyliau
- ‘Mae’n bosib fod gwaed yn fy mwyd’
- ‘Mae hwn wedi’ halogi â germau’
- ‘Mae fy apwyntiad ar ddydd Gwener y 13eg’
- ‘Efallai fy mod i’n dreisiwr’
Amheuon
- ‘Wnes i adael y drws ffrynt ar agor?’
- ‘Wnes i redeg dros rywun heb sylweddoli?’
Delweddau
- Mam yn cael ei lladd mewn damwain car
- Cam-drin babi neu blentyn
Ysfeydd
- ‘Rhaid i mi gyffwrdd hwnna er mwyn teimlo’n iawn’
- I neidio o flaen trên
- I ymosod ar rywun yn gorfforol
Os ydych chi’n rhywun sy’n gwybod neu’n meddwl bod ganddo OCD, efallai eich bod chi wedi sylwi ar feddwl tebyg i un sy’n eich poeni chi’n arbennig wrth edrych ar y rhestr uchod. Mae’n debyg bod yna rai eraill ar y rhestr nad ydyn nhw’n poeni chi, ond a fyddai’n sicr yn peri trafferth i rywun arall. Efallai y bydd yn eich taro chi’n od, ond mae yna bobl hefyd a allai fod wedi cael unrhyw un o’r meddyliau a restrir uchod, ond nad ydyn nhw’n poeni’n arbennig amdanyn nhw; yn sicr, does ganddyn nhw ddim OCD. A dweud y gwir, mae pawb yn cael meddyliau o’r fath. Mae pobl yn aml yn synnu i glywed fod pawb yn profi pob math o feddyliau ymwthiol – gan gynnwys y rhai cas: meddyliau am bobl yn cael niwed, delweddau o drais, ysfa i wirio pethau, amheuon a ydyn nhw wedi gwneud rhywbeth neu ysgogiadau i wneud rhywbeth maen nhw’n ei ystyried yn ‘ofnadwy’. I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r meddyliau’n gwibio i mewn ac allan o’u hymwybod heb achosi’r lefelau trallod sydd ynghlwm wrth OCD.
Ategwyd y syniad bod ‘meddyliau ymwthiol’ yn ddigwyddiadau bob dydd gan ymchwil a gynhaliwyd yn ystod diwedd y 197au a’r 1980au, i archwilio a oedd gwahaniaethau rhwng meddyliau pobl ag OCD a’r meddyliau ymwthiol ‘normal’ hyn. Roedd meddyliau ymwthiol pobl heb OCD (na phroblemau eraill) yn ymwneud ag ysgogiad i frifo a cham-drin eraill, delweddau o niwed a meddyliau bod pethau o le neu’n gallu mynd o le. Roedd cynnwys meddyliau byrhoedlog pobl eraill yn hynod o debyg i’r meddyliau a oedd yn peri trafferth i bobl ag OCD. Mae’r ffaith bod pobl ‘normal’ yn profi pob math o ‘feddyliau ymwthiol’ negyddol yn ffaith bwysig iawn i’w chofio.
Cyhoeddir Torri’n Rhydd o OCD gan y Lolfa a gellir ei brynu o’ch siop lyfrau leol neu oddi ar gwales.com am £12.99.