Rhestr o Lyfrau

Cyfres Darllen yn Well a Hunan-gymorth

Fel rhan o’r cynllun Darllen yn Well, mae The Reading Agency a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru yn lansio rhestr o lyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru.

Byw Bywyd i’r Eithaf – Dr. Chris Williams (Atebol, Gorffennaf 2020)

Cyfieithiad Testun.cyf o Living Life to the Full.

“Ydych chi am deimlo’n hapusach, dod o hyd i amser i chi a goresgyn problemau? Mae Byw Bywyd i’r Eitha’ yn dysgu strategaethau lles pwerus i chi yn seiliedig ar y dull Therapi Ymddygiad Gwybyddol y gellir ymddiried ynddo. Ei nod yw eich helpu chi i ddarganfod pam rydych chi’n teimlo fel rydych chi’n ei wneud, ac yna gwneud newidiadau mewn ffyrdd cam wrth gam wedi’u cynllunio.”

Mwy: gwales.com

Byw gyda chi du – Matthew & Ainsley Johnstone (Y Lolfa, Awst 2019)

Cyfieithiad Cymraeg o Living With a Black Dog.

“Sut i gadw trefn ar eich bywyd pan mae’r Ci Du gerllaw. Mae Byw gyda Chi Du yn ganllaw y mae’n rhaid i bartneriaid, teulu, ffrindiau a chyd-weithwyr pobl ag iselder ei ddarllen. Mae cyngor ymarferol ynddo am sut i adnabod y symptomau a sut i reoli Ci Du.”

Mwy: ylolfa.com

Camau Cyntaf trwy Brofedigaeth – Sue Mayfield (Cyhoeddiadau’r Gair, Gorffennaf 2019)

Cyfieithiad Gwilym Wyn Roberts First Steps through Bereavement.

“O’r sioc o farwolaeth rhywun agos hyd at wynebu bywyd yn ymarferol wedi hynny, mae Camau Cyntaf trwy Brofedigaeth yn rhoi arweiniad gwerthfawr trwy’r broses o alaru. Bydd yr adrannau defnyddiol ar angladdau, dal ati, cadw’n iach, delio gyda theimladau, sut i gofio’r ymadawedig a mwy yn eich cynorthwyo i ganfod eich ffordd trwy’r galar.”

Mwy: gwales.com

Canllaw Bach Sheldon i Ffobia a Phanig – Kevin Gournay (Y Lolfa, Gorffennaf 2019)

Cyfieithiad Cymraeg o The Sheldon Short Guide to Phobias and Panic.

“Mae ffobiâu a phyliau o banig yn difetha bywydau llawer o bobl. Ond mae newid yn bosibl. Gyda’r canllaw bach hwn byddwch yn dysgu sut i oresgyn y gorbryder sydd wrth wraidd y symptomau annifyr hyn, gan ddefnyddio rhaglen hunangymorth effeithiol.

  • deall ofn a gorbryder
  • achosion a thriniaethau
  • diffinio’ch problem
  • dewis eich targedau neu’ch nodau
  • penderfynu ar eich cynllun a’i roi ar waith”

 

CBT – Therapi Gwybyddol Ymddygiadol – Elaine Iljon Foreman a Clair Pollard (Graffeg, Mehefin 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o CBT – Your Toolkit to Modify Mood.

“Gan ddefnyddio’r un dulliau ag ymarferwyr CBT, mae’r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau ac arbrofion i archwilio a herio, straeon ac ymarferion i gynnig persbectif i chi, ac mae iddo fframwaith clir i’ch annog a’ch tywys. Bydd agwedd gyfeillgar a chefnogol yr awduron yn eich helpu i reoli’r adegau hynny pan fydd meddyliau ac ymddygiad negyddol yn ailgodi eu pen, ac i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarn.”

Cyflwyniad i ymdopi â galar – Sue Morris (Y Lolfa, Gorffennaf 2019)

Cyfieithiad Cymraeg o An Introduction to Coping with Grief.

“Mae galar yn ymateb naturiol i golled ond mewn rhai achosion gall fod yn llethol, gan eich rhwystro rhag symud ymlaen gyda’ch bywyd, a gall effeithio ar eich gwaith a’ch perthynas ag eraill. Mae’r canllaw hunangymorth hwn yn archwilio’r broses alaru, yn ei hesbonio ac yn amlinellu strategaethau sydd wedi’u profi’n glinigol ac sy’n seiliedig ar therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

• gwybod beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn galaru
• deall yr ymateb corfforol a seicolegol i alar
• strategaethau ymdopi ymarferol i’ch helpu i ddelio â’ch colled.”

Mwy: gwales.com

Cyflwyniad i ymdopi â gorbryder – Lee Brosan a Brenda Hogan (Y Lolfa, Mehefin 2019)

Cyfieithiad Cymraeg o An Introduction to Coping with Anxiety.

“Mae’n egluro beth yw gorbryder, a sut mae’n gwneud i chi deimlo pan mae tu hwnt i reolaeth neu’n parhau am gyfnodau hir. Bydd yn eich helpu i ddeall eich symptomau ac mae’n ddelfrydol fel strategaeth ymdopi ar y pryd ac fel rhagarweiniad i therapi mwy cyflawn. Byddwch yn dysgu:

  • Sut mae gorbryder yn datblygu
  • Pa symptomau corfforol i gadw llygad amdanyn nhw
  • Sut i adnabod a herio meddyliau sy’n peri gorbryder i chi
  • Dulliau o newid eich ymddygiad er mwyn lleihau’ch teimladau o orbryder”

Prynu’r gyfrol: meddwl.org

Cyflwyniad i ymdopi ag iselder – Lee Brosan a Brenda Hogan (Y Lolfa, Mehefin 2019)

Cyfieithiad Cymraeg o An Introduction to Coping with Depression.

“Mae’r llyfr rhagarweiniol hwn, gan ymarferwyr profiadol, yn egluro beth yw iselder a sut mae’n gwneud i chi deimlo. Bydd yn eich helpu i ddeall eich symptomau ac mae’n ddelfrydol fel strategaeth ymdopi ar y pryd ac fel rhagarweiniad i therapi mwy cyflawn. Bydd yn eich helpu i ddeall eich symptomau ac mae’n ddelfrydol fel strategaeth ymdopi ar y pryd.

Byddwch yn dysgu:

  • Sut mae iselder yn datblygu a beth sy’n ei gynnal
  • Sut i adnabod a herio meddyliau sy’n cynnal eich iselder
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl yn gytbwys”

Mwy: gwales.com

Goresgyn Dicter a Thymer Flin – William Davies (Y Lolfa, Awst 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Overcoming Anger and Irritability

“Mae tymer flin a hyd yn oed ysbeidiau achlysurol o dymer ddrwg yn gallu creu anawsterau yn eich perthynas â ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr gan eich gadael yn teimlo’n anhapus ac yn lluddedig. Os yw hynny’n wir yn eich achos chi, gall y llyfr hwn fod o gymorth mawr i chi.

Mae technegau seicolegol cyfoes yn cynnig dull cadarnhaol o fynd ati gyda nodau hirdymor mewn golwg, ac yn dangos sut gallwch chi fynd i’r afael â sefyllfaoedd a fyddai’n dreth ar unrhyw un!”

Mwy: gwales.com

Goresgyn Diffyg Hunan-werth – Melanie Fennell (y Lolfa, Mehefin 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Overcoming Low Self-Esteem.

“Bydd y llyfr hwn yn eich helpu chi i ddysgu sut i dderbyn eich hun a thrwy hynny drawsnewid eich ymdeimlad ohonoch chi’ch hun er gwell.

  • Sut mae diffyg hunan-werth yn datblygu a beth sy’n ei gynnal
  • Sut i gwestiynu eich meddyliau negyddol a’r agweddau sydd wrth wraidd y meddyliau hynny.”

Goresgyn Gorbryder – Helen Kennerley (Y Lolfa, Mehefin 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Overcoming Anxiety.

“Dysgwch sut i feistroli’ch gorbryder gan ddefnyddio technegau CBT sydd wedi ennill eu plwyf. Profwyd bod CBT yn hynod effeithiol wrth drin gorbryder, a bydd yn eich helpu i ddeall beth sydd wedi ei achosi, beth sy’n ei gynnal ac, yn hollbwysig, sut i adfer rheolaeth arno.”

Mwy: gwales.com

Gwella Fesul Tamaid – Ulrike Schmidt, Janet Treasure, June Alexander (Graffeg, Mehefin 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Getting Better Bite by Bite.

“Mae Gwella Fesul Tamaid yn rhaglen hunangymorth hanfodol, awdurdodol, seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei defnyddio gan ddioddefwyr bwlimia ers dros 20 mlynedd. Mae’n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am fioleg a seicoleg bwlimia a sut i’w drin.”

Mwy: gwales.com

Llawlyfr ar gyfer dolur calon – Cathy Rentzenbrink (Graffeg, Chwefror 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o A Manual for Heartache.

“Mae dolur calon yn rhan o’r cyflwr dynol – yn ystod ein bywydau, mae pawb ohonom yn dod ar draws tristwch a cholled. Ond beth rydyn ni’n ei ddweud wrth rywun pan fydd y gwaethaf wedi digwydd a sut ydyn ni’n ymdopi pan mae’n digwydd i ni? Canllaw ar gyfer goroesi adegau anodd yw’r llyfr hwn. Bydd yn taflu mymryn o oleuni ar y diwrnod tywyllaf ac yn eich atgoffa nad ydych chi ar eich pen eich hun.”

Mwy: gwales.com

Llythyrau Adferiad – James Withey a Olivia Sagan (gol.) (Y Lolfa, Chwefror 2020)

Meddylgarwch – Canllaw Ymarferol i Ganfod Heddwch Mewn Byd Gorffwyll – Mark Williams a Danny Penman (Y Lolfa, Hydref 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Mindfulness: A Practical Guide to Finding Peace in a Frantic World.

“Ymarferion dyddiol syml a phwerus y gellir eu cyflwyno i fywyd er mwyn torri’r cylch gor-bryder, straen, tristwch a blinder. Yn cynnwys CD.”

Mwy: gwales.com

Rheoli straen – Jim White (Graffeg, Chwefror 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Stress Control gan Jim White, yn cynnig cymorth ynghylch sut i reoli pob math o straen yn ein bywydau.

Prynu’r gyfrol: meddwl.org

Rhesymau dros aros yn fyw – Matt Haig (Y Lolfa, Mawrth 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Reasons to Stay Alive.

“Dyma stori wir am sut gwnaeth Matt Haig oresgyn argyfwng, trechu afiechyd meddwl a fu bron â’i ddinistrio a dysgu sut i fyw unwaith eto. Llyfr teimladwy, doniol a llawen – mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn fwy na chofiant. Mae’n llyfr am wneud y gorau o’ch amser ar y ddaear.”

Roedd gen i gi du – Matthew Johnstone (Y Lolfa, Awst 2019)

Cyfieithiad Cymraeg o I Had a Black Dog.

“Mae’r ymadrodd Ci Du wedi dod yn enw arall ar y clefyd sy’n taro miliynau o bobl, a nifer o’r rheini’n dioddef yn ddistaw ac mewn cywilydd. Yma, cawn gipolwg teimladwy ar y profiad o fyw gyda Chi Du, gan ein goleuo a’n hysbrydoli yn y pen draw.”

Mwy: ylolfa.com

Torri’n Rhydd o OCD – Fiona Challacombe, Victoria Beam Oldfield, Paul Salkovskis (Y Lolfa, Mehefin 2020)

Cyfieithiad Cymraeg o Breaking Free from OCD.

“P’un a ydych chi’n teimlo gorfodaeth i lanhau yn fwy a mwy trwyadl, yn cael eich poeni gan feddyliau ‘drwg’ neu’n teimlo’r angen i wirio dro ar ôl tro a ydych chi wedi diffodd offer trydanol, mae pryderon obsesiynol yn gallu datblygu’n felltith a’ch llethu o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, does dim angen i chi ddioddef rhagor. Mae’r canllaw ymarferol hwn gan dri arbenigwr blaenllaw ym maes therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn eich galluogi i wneud synnwyr o’ch symptomau ac yn cynnig cynllun clir i’ch helpu i oresgyn eich OCD.

Ymdrin ag Iselder Ôl-enedigol â Meddwl Tosturiol – Michelle Cree (Atebol, Gorffennaf 2020)

Cyfieithiad Testun.cyf o The Compassionate Mind Approach to Postnatal Depression.

“Mae’n gyffredin iawn i famau newydd brofi cyfnod byr o bryder yn dilyn genedigaeth ac i fwy nag 1 o bob 10 menyw, gall y profiad ofidus hwn fod yn fwy hirfaith. Bydd y llyfr hunangymorth ymarferol hwn sy’n seiliedig ar Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi yn eich helpu i adnabod rhai o’r symptomau a, lle bo hynny’n briodol, eu normaleiddio, a thrwy hynny leddfu eu gofid. Bydd hefyd yn tywys mamau i fod, a mamau newydd trwy’r ddrysfa o deimladau dryslyd a all godi.”

Mwy: gwales.com

Ymwybyddiaeth Ofalgar – Canllaw Pen-Tennyn – Ruby Wax (Atebol, Mawrth 2020)

Cyfieithiad Testun.cyf o A Mindfulness Guide for the Frazzled.

“Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud.”

Mwy: gwales.com

Plant a Phobl Ifanc

Detholiad Y Cyngor Llyfrau

Detholiad o lyfrau Cymraeg a dwyieithog i blant a phobl ifanc ar themâu iechyd a lles.

Mwy: Cyngor Llyfrau (pdf)

Angylion Pryder – Sita Brahmachari (Y Lolfa, Mawrth 2021)

Addasiad Cymraeg Meinir Wyn Edwards o Worry Angels.

“Mae’n nofel tua 15,000 o eiriau ar gyfer plant 9-12 oed. Dyma nofel sensitif a hwyliog, yn dangos merch yn delio â phroblemau iechyd meddwl. Mae Amy-May yn gorfod ymdopi â nifer o newidiadau yn ei bywyd, ac mae’n pryderu am bob peth – symud ysgol, rhieni yn gwahanu, a chwrdd â phobl newydd.”

Mwy: gwales.com

Beth sy’n digwydd yn fy mhen? (Graffeg, 2021)

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod meddwl iach yn bwysig dros ben, ond sut mae gwneud yn siŵr ein bod ni’n gofalu am ein hiechyd meddwl o oedran ifanc iawn? Mae Beth Sy’n Digwydd Yn Fy Mhen? yn llyfr i blant sy’n edrych ar ffyrdd ymarferol o gadw ein meddwl, yn ogystal â’n corff, mewn cyflwr da.”

Mwy: gwales.com

Coronafeirws: Llyfr i blant (Atebol, 2020)

“Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant. Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed.”

Mwy: atebol-siop.com

Cwestiynau a Theimladau ynghylch Pryderon – Paul Christelis (Graffeg, Chwefror 2021)

“Mae’r llyfr lluniau hwn yn dangos y mathau o bryderon sy’n wynebu llawer o blant heddiw, ac yn archwilio sut y medrant oresgyn eu hofnau. Mae’r gyfres Cwestiynau a Theimladau Ynghylch… yn annog plant i ystyried eu hemosiynau a thrafod pynciau sy’n gallu bod yn anodd eu deall. Cynhwysir awgrymiadau a gweithgareddau ymarferol yn ogystal â chyngor i rieni ac athrawon.”

Mwy: gwales.com

Cwmwl Cai – Nia Parry (Gwasg Gomer, Tachwedd 2019)

“Weithiau mae Cai yn hapus ac yn llon a thro arall mae fel petai yna gwmwl mawr du yn ei ddilyn i bob man. Mae Cai yn fachgen bach sy’n cael ambell i bwl tywyll di-obaith lle mae o dan straen. Mae llawer o blant bach fel Cai yn y byd. Mae’r llyfr hwn yn normaleiddio’r teimladau dwys yma ac yn cynnig syniadau ymarferol i blant a’u gofalwyr am ffyrdd i godi’r cwmwl a chodi ysbryd.”
Mwy: gwales.com

Delio gyda Bwlio – Jane Lacey (Rily, Chwefror 2021)

“Llyfr sy’n dysgu plant sut i ddelio gyda bwlis a sut i beidio derbyn pwysau cyfoedion i fwlio eraill. Ceir saith stori yn y gyfrol, pob un yn portreadu ystod o broblemau bwlio, o ferch a gaiff ei hanwybyddu gan ei ffrindiau i fachgen a gaiff ei fwlio am y ffordd y mae’n siarad. Disgrifir bwlio llafar a chorfforol.”

Mwy: gwales.com

Dw i’n Bril – Wynne Kinder (Atebol, 2021)

“Rwy’n gryf. Rwy’n ddewr. Rwy’n gallu delio ag unrhyw beth. Llyfr fydd yn helpu pob plentyn i fod yn bositif am yr heriau sy’n eu hwynebu yn ystod eu plentydod. Dyma ganllaw ymarferol, syml sy’n rhoi’r nerth a’r penderfyniad i oresgyn pob problem. Addasiad Cymraeg gan Glyn Saunders Jones o I Am, I Can.”

Mwy: gwales.com

Hunan-werth ac Iechyd Meddwl – Anna Claybourne (Rily, Chwefror 2021)

“Nid yw tyfu i fyny yn hawdd – mae eich ymennydd yn newid ac mae angen ymdopi â llawer o bethau, o emosiynau i bwysau byw. Mae’r gyfrol hon yn archwilio hunan-werth ac iechyd meddwl, yn gofyn pam fod y materion hyn yn bwysig, gan edrych ar bynciau megis salwch meddwl, ffobias, anhwylderau bwyta a hunan-niweidio. Edrychir ar dechnegau i ddelio gyda’r materion hyn a sut i leihau pwysau.”

Mwy: gwales.com

Iechyd a Lles Emosiynol – Tina Rae (Atebol, Medi 2013)

Cyfieithiad Cymraeg o Health and Emotional Wellbeing.

“Defnyddir dulliau wedi’u seilio ar weithgareddau ymarferol er mwyn hyrwyddo datblygiad sgiliau personol a chymdeithasol. Mae’r adnodd yn delio gyda materion difrifol sy’n wynebu myfyrwyr yn eu harddegau heddiw, megis straen, bwlio a delwedd y corff.”

Mwy: gwales.com

Lles Emosiynol: Llawlyfr Myfyriwr – Tina Rae (Atebol, Medi 2010)

Cyfieithiad Glyn Saunders Jones o Emotional Wellbing: Student Handbook.

“Mae Lles Emosiynol yn cynnig cyfle i bobl ifanc gymryd cyfrifoldeb am eu lles emosiynol eu hunain mewn byd sy’n newid. Mae’r Llawlyfr Myfyrwyr yn cynnwys adrannau pwrpasol sy’n delio â materion fel: Teimlo’n Dda, Delio â Newid, Delio â Straen, Cymhelliant, Dysgu Gwrando, Delio â Cholled a Phrofedigaeth, Hunananafu, Hunanladdiad, Delio â Dicter, Sgiliau bod yn Hyderus a Phendant, Rheoli Gwrthdaro, Delio â Dylanwad Cyfoedion, Chwilio am Atebion.”

Mwy: gwales.com

Llyfr Trist – Michael Rosen (Graffeg, Mawrth 2021)

“Pwy sy’n drist? Gall unrhyw un fod yn drist. Mae’n dod o unman ac yn dod o hyd i ti. Mae pethau trist ym mywydau pawb – falle fod gennyt ti rai y funud hon wrth i ti ddarllen hwn. Meddwl am ei fab Eddie a fu farw sy’n gwneud Michael Rosen yn fwyaf trist. Yn y llyfr hwn mae’n sgwennu am ei dristwch, sut mae’n effeithio arno, a rhai o’r pethau y mae’n eu gwneud er mwyn ymdopi â’r tristwch.”

Mwy: gwales.com

Mae gan bawb ofidiau – Jon Burgerman (Rily, Ionawr 2021)

Addasiad Llinos Dafydd o Everybody Worries.

“Ffordd hwyliog o archwilio ac ymdopi â gofidiau. Mae’n iawn poeni, ond wnaiff hyn ddim para. Down drwyddi gyda’n gilydd – nawr, gwena!”

Mwy: gwales.com

Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol, Mawrth 2019)

“Nofel i oedolion a phobl ifanc yw Madi gan yr awdur a’r dramodydd amryddawn, Dewi Wyn Williams. Dyma gyfrol ddirdynnol a chignoeth sy’n adrodd stori merch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac yn cuddio’r salwch.”

Merch Ar-Lein – Zoe Sugg (Rily, Hydref 2017)

Addasiad Eiry Miles o Girl Online.

“Mae cyfrinach gan Penny. Mae hi’n defnyddio ffugenw ar-lein i ysgrifennu blog sy’n gwbl agored am ei holl broblemau â ffrindiau, ysgol, ei theulu gwallgof a’r pyliau panig sy’n dechrau rheoli ei bywyd. Er mwyn ceisio helpu, mae’r teulu’n mynd â hi i Efrog Newydd, lle mae’n cwrdd â Noa, Americanwr ifanc, golygus, ac yn sydyn, mae’r blog yn llawn hanes Penny’n syrthio mewn cariad!”

Mwy: gwales.com

Mili Meddwl – Louise Tribble (2017)

il_570xN.1292917369_9ual

“Mae Mili yr eliffant yn byw yn y presennol. Mae’n defnyddio sgiliau meddwl i ddal pob eiliad ac i helpu eraill drwy ddysgu technegau i adeiladu iechyd meddwl positif. Ymunwch â Mili gyda’ch plant a gallwn adeiladu dyfodol positif gyda’n gilydd.”

Mwy: livespiffy.co.uk

Ni’n Dau – Ceri Elen (Y Lolfa, 2014)

“Nofel sensitif am ddisgyblion ysgol yn eu harddegau yn wynebu iselder ac unigrwydd, pwysau arholiadau a bwlio, a gwerth ymddiheuriad gan Ceri Elen, dramodydd, actores ac awdur Pentre Saith a gyrhaeddodd Restr Fer Tir na n-Og 2013. Un o deitlau Cyfres Copa, cyfres o nofelau a dramâu ar gyfer 15+ oed sy’n ymdrin â themâu cyfoes, anodd.”

Mwy: gwales.com

Pam oedd Raid i Bopeth Newid? – Anna Friend (Rily, 2021)

“Dyma lyfr teimladwy a gonest am ofidiau plentyn pan fydd ei fyd yn newid yn sydyn. Pan fydd y peth ‘ma drosodd i gyd, a fydd gen i fy ffrindiau o hyd? Yn annisgwyl, rhaid i’r ysgol gau ac mae Bili’n poeni… beth fydd yn digwydd nesa, a phryd bydd ‘y peth newydd’ yma’n mynd?”

Mwy: gwales.com

Plentyn Om: Dwi’n Hapus – Lisa Edwards (Rily, 2021)

“Rydyn ni’n caru ein hunain a phob peth arall byw. Lliwiau ac emosiynau ein saith chakra sy’n denu sylw Plentyn Om – y grym yn ein cyrff, o gorun ein pennau i’n calonnau. Addasiad Cymraeg gan Laura Karadog.”

Mwy: gwales.com

Popeth yn newid: Canllaw ar brofedigaeth a cholled i bobl ifanc – Ann Atkin (2018)

“Mae ‘Popeth yn Newid’ wedi datblygu o waith uniongyrchol Ann gyda phobl ifanc. Ei dyhead yw helpu pobl ifanc i normaleiddio galar a chyflanwi gwytnwch drwy strategaethau ymdopi effeithiol. Mae ‘Popeth yn Newid’ yn gweithredu fel catalydd ar gyfer sgyrsiau pwysig gyda phobl ifanc, ac yn gofnod defnyddiol i’r person ifanc gyfeirio’n ôl ato yn y dyfodol.”

Mwy: everythingschangingbook.com/cymraeg/

Pryder Glain – Tom Percival (Rily, Chwefror 2021)

Addasiad Cymraeg o Ruby’r Worry.

“Roedd Glain yn ferch hapus erioed, yn berffaith hapus . . . nes iddi, un diwrnod … ddarganfod Pryder. Llyfr cysurlon a sensitif – y sbardun perffaith ar gyfer siarad â phlant am rannu eu pryderon cudd, yn rhai mawr neu’n rhai bach.”

Mwy: gwales.com

Shwshaswyn – Nia Jewell a Sïan Angharad (Y Lolfa, Hydref 2020)

“Dewch i gwrdd â Fflwff, Seren a Capten wrth iddyn nhw ymlacio yn yr ardd. Llyfr lliwgar gyda stori sy’n dysgu plant bach am yr ardd, am anadlu ac ymlacio, ac am ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’n dilyn patrwm y gyfres deledu Shwshaswyn sy’n rhan o arlwy Cyw ar S4C.”

Mwy: gwales.com

Sut dwi’n teimlo – Maureen Healy (Rily, Medi 2019)

Addasiad Elin Meek o My Mixed Emotions.

“Mae’r llyfr deniadol hwn yn sbarduno’r meddwl, ac yn llawn awgrymiadau defnyddiol, syniadau a thechnegau ar gyfer helpu plant i adnabod a mynegi eu hemosiynau. Gall teimladau fod yn gymhleth, ac mae dysgu sut i’w mynegi yn sgil y mae’n rhaid ei ddatblygu.”

Sut wyt ti’n teimlo heddiw? – Molly Potter (Rily, Mawrth 2021)

“Mae gan blant deimladau cryfion, ond fedran nhw ddim delio’n dda gyda nhw bob amser. Mae’r addasiad Cymraeg hwn o How Are You Feeling Today yn berffaith i’w rannu, yn llawn awgrymiadau hwyliog a dychmygus i geisio helpu plant i ddeall ystod eang o emosiynau. Cyfrol berffaith i rieni ei defnyddio i helpu plant i ddelio gyda’u teimladau – heb i’r cyfan orffen mewn dagrau.”

Prynu’r gyfrol: meddwl.org

Teimlo’n… bryderus – Sally Hewitt (Gwasg Addysgol Drake, Awst 1997)

Addasiad Cymraeg Emily Huws o Feeling… worried.

“Stori am Catrin yn poeni wedi iddi gael damwain â ffrog ei chwaer, mewn cyfres sy’n ceisio annog plant i ddeall a thrafod gwahanol deimladau drwy gyfrwng stori ddiddorol.” Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 1 neu 2.

Mwy: gwales.com

Weithiau dwi’n teimlo’n grac (Rily, Medi 2020)

Addasiad Cymraeg Elin Meek o Sometimes I am Angry.

“Rhannwch y llyfr rhyngweithiol hwn gyda’ch rhai bach i’w helpu pan maen nhw’n teimlo’n flin. Mae ambell beth newydd, awgrymiadau ymarferol a gweithgareddau syml i’ch helpu chi.”

Mwy: rily.co.uk

Weithiau dwi’n poeni (Rily, Medi 2020)

Addasiad Cymraeg Elin Meek o Sometimes I am Worried.

“Rhannwch y llyfr rhyngweithiol hwn gyda’ch rhai bach i drafod unrhyw beth sy’n eu poeni. Mae ambell beth newydd, awgrymiadau ymarferol a gweithgareddau syml i’ch helpu hefyd. Llyfr perffaith i rieni a gofalwyr ei ddarllen a’i rannu gyda phlant bach.”

Mwy: gwales.com

Y Goeden Gofio – Britta Teckentrup (Gomer, Medi 2013)

Addasiad Cymraeg Ceri Wyn Jones o The Memory Tree.

“Stori deimladwy a thyner sy’n dathlu bywyd drwy sôn am farwolaeth. Mae Cadno wedi byw bywyd hir a hapus yn y goedwig, ond mae e wedi blino erbyn hyn. Un diwrnod, mae’n gorwedd yn ei hoff fan ac yn cwympo i gysgu am byth. Cyn bo hir, mae ei holl ffrindiau’n cwrdd yn y fan honno i gofio amdano. Gellir defnyddio’r llyfr wrth roi cymorth i blentyn sy’n gorfod delio â marwolaeth, unigrwydd a thristwch.”

Mwy: gwales.com

Y Goeden Ioga – Leisa Mererid (Gomer, Mai 2019)

“Llyfr stori a llun sy’n cyflwyno symudiadau ioga syml i blant ac oedolion. Hwn yw llyfr annwyl sy’n mynd â ni i fyd natur a chylch bywyd yr hedyn wrth iddo egino a thyfu’n goeden fawr gryf a thyfu dail. Buan iawn daw’r Hydref a’i wynt i chwythu’r hadau ac ail gychwyn ar gylch bywyd natur unwaith eto.”

Mwy: gwales.com

Y Wariar Bach – Leisa Mererid (y Lolfa, 2021)

“Mae dilyn ioga ac ymarferion anadlu yn mynd â Miri ar antur i ymweld ag anifeiliaid o bob math o gwmpas y byd. Dyma ddilyniant i Y Goeden Ioga, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn mewn ysgolion cynradd.”

Mwy: gwales.com

Hunangofiannau a Phrofiadau Personol

Ar fy ngwaethaf – John Stevenson (Gwasg y Bwthyn, Mehefin 2015)

getimgut4i2mxf

“Dyma stori ryfeddol cyn-ohebydd gwleidyddol BBC Cymru, John Stevenson. Syrthiodd i’r dyfnderoedd ac ailadeiladodd ei fywyd nid unwaith ond deirgwaith. Mae’n adrodd hanes llwyddiannau sylweddol ei yrfa, ei frwydr yn erbyn alcoholiaeth a’i ymrafael â’i rywioldeb.”

Mwy: gwales.com

Byw yn fy Nghroen – Sioned Erin Hughes (gol.) (Y Lolfa, Mehefin 2019)

“Profiadau dirdynnol 12 o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hir dymor. Mae’r cyfranwyr yn trafod yn fanwl afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gor-bryder.”

Mae’r cyfraniadau yn ymdrin ag iselder, gorbryder ac OCD.

Mwy: gwales.com

Dod ‘nôl at fy nghoed – Carys Eleri (y Lolfa, 2021)

“Dyw marwolaeth ddim yn ddoniol, ond mae chwerthin yn iach yn gallu bod yn therapi. Mae cyfrol Carys Eleri yn trafod cyfnod anodd iddi hi ac i’w theulu yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.”

Mwy: gwales.com

Gair o Gysur – Elin Angharad Davies (Gwasg y Bwthyn, Mai 2021)

“Cyfrol hardd sy’n cynnig cysur i’r rhai sy’n galaru, neu sy’n wynebu cyfnod anodd yn eu bywyd. Mae wedi deillio o brofiadau Elin Angharad Davies, a’r dudalen Facebook ‘Gair o Gysur’ a grëwyd ganddi. Mae’n cynnwys cerddi gwreiddiol o’i gwaith hi a nifer o feirdd eraill, beirdd cyfoes ar y cyfan, ynghyd â dywediadau cysurlon, addasiadau o gerddi a dyfyniadau o ganeuon poblogaidd.”

Bydd elw’r gyfrol yn mynd i meddwl.org.

Galar a fi – Esyllt Maelor (gol.) (Y Lolfa, Gorffennaf 2017)

galar-a-fi-esyllt-maelor

Galaru yw’r ymateb greddfol ar ôl colli rhywun sy’n annwyl. Mae person sy’n galaru yn mynd trwy ystod eang o emosiynau, ac er bod y teimlad o alar yr un peth i bawb, mae’r hiraethu yn gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Dyma ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy’r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar. Mae stori pob un yn unigryw ac yn ddirdynnol.”

Gyrru drwy storom – Alaw Griffiths (gol.) (Y Lolfa, Gorffennaf 2015)

getimg-3

“Mae 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o salwch meddwl, ac yn y gyfrol arloesol hon cawn hanes profiadau rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo, trwy gyfrwng eu cerddi, eu llythyrau, eu dyddiaduron a’u hysgrifau. Trafodir y salwch yn gwbl onest, ac er bod y profiadau’n ddirdynnol, gwelir bod gwella a bod yn obeithiol am y dyfodol.”

Mae’r cyfraniadau yn ymdrin ag iselder, iselder ôl-enedigol, alcoholiaeth, seicosis ac anorecsia.

Hunan-Anghofiant – Brychan Llŷr (Y Lolfa, 2013)

“Y canwr o Aberteifi sy’n agor ei galon am ei frwydr ag alcoholiaeth mewn modd cignoeth a gonest. Trafodir hefyd ei gyfnod yn brif leisydd y band Jess a’i ddeng mlynedd yn gerddor proffesiynol yn yr Eidal, ynghyd â’i hanesion yn cystadlu ym myd peryglus rasio ceffylau pwynt i bwynt ac yn gyflwynydd teledu.”

Mwy: gwales.com

Meddwl am Man U – Rhodri Jones (y Lolfa, 2021)

“Un o Gaerdydd yw Rhodri. Wedi arwyddo i Man U, ymunodd â Rotherham ac wedi cyfnodau o chwarae’n lled broffesiynol yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Chwmbrân a Chaerfyrddin, bu’n rhaid iddo ymddeol o bêl-droed yn sgil problemau gyda’i benglin.
Roedd Rhodri hefyd yn wynebu heriau iechyd meddwl a effeithiodd ar ei yrfa a’i fywyd personol.”

Mwy: gwales.com

Paid â Bod Ofn – Non Parry (y Lolfa, 2021)

“Hunangofiant y gantores dalentog Non Parry o’r grŵp pop Eden, a chyfrol sy’n mynd y tu ôl i fyd glamyrys y sîn bop gan drafod iechyd meddwl yn onest iawn. Fe fydd hefyd yn trafod heriau a salwch ei gŵr, y comedïwr Iwan John, a’r effaith gafodd blynyddoedd o ddisgwyl am ei drawsblaniad ar y teulu cyfan.”

Raslas bach a mawr! – Wynford Ellis Owen (Gwasg Gomer, 2004)

getimgesilvjh7

“Hunangofiant poenus a gonest Wynford Elis Owen yn cofnodi helyntion difyr am ei fywyd fel diddanwr ac actor dawnus ac adnabyddus ym myd adloniant plant ac oedolion, ynghyd â’i frwydr hir a dewr i orchfygu alcoholiaeth.”

Mwy: gwales.com

Rhyddhau’r Cranc – Malan Wilkinson (Y Lolfa, Mehefin 2018)

“Atgofion Malan Wilkinson sydd wedi byw gyda phroblemau salwch meddwl ers blynyddoedd. Llyfr dirdynol sy’n dilyn ei phrofiadau yn ceisio ymdopi gyda’i phroblemau a arweiniodd iddi geisio lladd ei hun ond cafodd ei hachub gan ddieithryn a’i gwelodd ar fin neidio dros bont y Borth. Bydd y gyfrol yn dadlennu’n gwbl onest ei phrofiadau mewn ag allan o’r ysbyty, yn mynd o un argyfwng i’r llall, ond bydd hefyd yn obeithiol, gan ddangos sut y llwyddodd i ymdopi diolch i deulu a ffrindiau.”

Un yn Ormod – Angharad Griffiths (Y Lolfa, Awst 2020)

“Mae Angharad Griffiths wedi casglu hanesion ingol gan unigolion sydd wedi cael problemau gydag alcohol yn y gorffennol. Mae 13 o gyfranwyr yn trafod yn onest eu perthynas â diod, ac yn rhannu eu profiadau o godi o’r gwaelod dwfn a phenderfynu na fyddan nhw byth eto yn cael un yn ormod.”

Ffuglen a Barddoniaeth

Arwr – Osian Rhys Jones (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017)

“Yn llawer o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol, ceir y cysyniad o arwr fel unigolyn dewr sydd yn herio, gwrthsefyll a goresgyn amgylchiadau anodd a pheryglus y byd o’i gwmpas. Mae Gari wedi cymryd y darlun hwn a’i osod yn eironig yng nghyd-destun gŵr ifanc yn brwydro â’i enaid ei hun yn ogystal ag â’r gymdeithas y mae’n rhan ohoni.” (o feirniadaeth Emyr Lewis)

Enillodd Osian Rhys y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni am awdl sensitif ar y testun ‘Arwr’, sydd yn dilyn hanes gŵr ifanc a’i frwydr yn erbyn iselder dros gyfnod o hanner blwyddyn.

Mwy: gwales.com

Blasu – Manon Steffan Ros (Y Lolfa, Mai 2015)

getimg1jdaz13c

“Wrth edrych yn ôl ar ei bywyd, a’r teulu a’r ffrindiau a fu’n gwmni iddi ar hyd y daith, daw blasau o’r gorffennol i brocio atgofion… Mae’r disgrifiadau o broblemau seicolegol a salwch meddwl ei mam yn ein cyffwrdd i’r byw.”

Mwy: gwales.com

Difa – Dewi Wyn Williams (Atebol, Tachwedd 2015)

getimg

“Drama heriol am Salwch Meddwl gan Dewi Wyn Williams, enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014. Drama sy’n cynnig mai trasiedi yw bywyd yn agos, a chomedi yw bywyd o bell. Mae’r drama’n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Os wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fod Peter a’i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynol wrth iddo bendilio o un emosiwn i’r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a’i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.”

Mwy: gwales.com

Du a Gwyn –  Sioned Erin Hughes (Cyfansoddiadau Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018)

“‘Ei enw fo ydi Du. Dyna dwi’n ei alw fo, be bynnag.’ Iselder yw Du, a rhyw ‘natur mynd a dod’ sydd iddo. Llwydda Melyn i daro’r darllenydd yn ei dalcen gyda’r disgrifiadau o ymweliadau Du, ac mae dyfodiad telynegol Gwyn fel y lloer i oleuo’r noson dywyll yn drawiadol.” (o feirniadaeth Catrin Beard a Lleucu Roberts)

Enillodd Sioned Erin Hughes cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018 gyda sawl darn o ryddiaith. Mae ‘Du a Gwyn’ yn un ohonynt – darn trawiadol sy’n personoli iselder ac yn cyfleu ei bresenoldeb wrth ochr unigolyn.

Mwy: gwales.com

Dŵr yn yr Afon – Heiddwen Tomos (Gomer, Awst 2017)

getimg

“Dyma nofel ysgytwol sy’n adrodd stori teulu mewn cymuned wledig yng ngorllewin Cymru. Rhedeg ffarm sy’n troedio ffin fregus rhwng llwyddiant a methiant y mae Morgan a’i fab Rhys – mae’r ddau’n anghytuno’n gyson ac yn dannod i’w gilydd am bwy sy’n feistr ar bwy.

Perthynas gymhleth a threisgar sydd gan Rhys a’i ail wraig, Han, er bod Morgan yn ceisio ei gwarchod hi rhag gormod o niwed. Ond beth sydd wrth wraidd y cyfan? Daw llais o’r gorffennol i ddatgelu’r gwead trasig sy’n clymu aelodau’r teulu’n dynn at ei gilydd, a dod â nhw i sefyllfa lle gellid yn hawdd ddatod pob dim yn llwyr.”

Ymdrinnir a nifer o themâu iechyd meddwl yn y nofel hon, gan gynnwys iselder a cholled ac effaith camdriniaeth ddomestig.

Mwy: gwales.com

Gwales – Catrin Dafydd (Y Lolfa, Gorffennaf 2018)

getimg.php

“Mae Brynach Yang am orffen popeth. Ac mae’n mynd i’w wneud e. Heno. Ond beth fydd yn digwydd i Gymru wedyn? Mae ymgyrch Gwales ar fin dechrau ar siwrne gythryblus… a Brynach sy’n arwain y chwyldro… Dyma nofel gyffrous a deallus, wedi ei lleoli yng Nghymru y dyfodol agos, gan awdures brofiadol â llais unigryw.”

Mae hanes o broblemau iechyd meddwl ymysg y cymeriadau, gyda chyfeiriadau at hunanladdiad, iselder, sgitsoffrenia a hunan-niweidio.

Mwy: gwales.com

Gwirionedd – Elinor Wyn Reynolds (Gwasg y Bwthyn, Hydref 2019)

“Nofel ysgubol sy’n cynnig golwg newydd ar un o ddigwyddiadau mawr bywyd – marwolaeth. Mae’n llawn dagrau, direidi a dathlu, ond yn bennaf oll, mae’n gorlifo â chariad.”

Ymdrinnir â nifer o themâu, gan gynnwys profedigaeth a galar.

Mwy: gwales.com

‘Hedfan Awyren’, Golygon – Manon Steffan Ros (Y Lolfa, Tachwedd 2017)

“Mae hi wedi deialu’r rhif unwaith neu ddwy, cyn pwyso’r botwm bach i orffen yr alwad cyn iddi ddechrau. Bydd y ddynes yn y dderbynfa yn siŵr o ofyn, yn ôl ei harfer, ‘… pam ydych chi angen gweld y meddyg heddiw?’ Fedr Nia ddim wynebu defnyddio’r hen air trwm yna. Iselder. Byddai’n hawdd ateb y ddynes yn y dderbynfa petai’n dioddef o ‘ffliw’ neu ‘inffecshyn clust’. Dydi iselder ddim yn air i’w ddweud yn uchel.” (darllen rhagor)

Mwy: gwales.com

Hwn ydy’r llais, tybad? – Caryl Bryn (Cyhoeddiadau’r Stamp, Ebrill 2019)

“Dyma gasgliad sydd yn chwilio’n barhaus – yn swigod y noson gynt ac yn lludw’r bore wedyn; trwy ffenestri Bangor Uchaf, ar blatfformau trên yn Lerpwl ac ar draethau Gorllewin Cymru. Mae’n gyfrol sydd yn ymdrin yn grefftus â galar, serch ac ieuenctid. Maent yn ddarnau o lenyddiaeth fydd yn aros yn hir yn y cof, ac yn gwneud i ninnau holi, ‘tybad?'”

Maen nhw’n siarad amdana i – Meic Hughes (Gwasg y Bwthyn, Gorffennaf 2009)

getimgplfi2k18

“Mae’r prif gymeriad yn dioddef o sgitsoffrenia. Edrychir ar ei fywyd o’i safbwynt ei hun yn ogystal ag o safbwyntiau pobl eraill, gan gynnwys ei fam, ei chwaer a’i gyd-weithwyr.”

Mwy: gwales.com

Mudo – Cris Dafis (Cyhoeddiadau’r Stamp, Mai 2019)

“Yn 2005, daeth tro mawr ar ei [Cris Dafis] fyd pan foddodd ei gymar, Alex, wrth geisio’i achub yn y môr tra ar wyliau ar ynys Bali. Ymateb i’r brofedigaeth honno y mae cerddi’r pamffled hwn, dros ddegawd yn ddiweddarach. Maen nhw’n dangos nad yw colled o’r fath fyth yn diflannu, a bod ambell golled yn golled am byth. Yng nghanol tristwch, fodd bynnag, daw rhyddhad o dro i dro gan gynnig allwedd i ‘fyd sy’n fwy / na thristwch’.”

Mwy: ystamp.cymru

Mynd – Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch, Tachwedd 2020)

“Cyfrol o gerddi gan Marged Tudur am y profiad o golli ei brawd. Mae cerddi’r gyfrol yn ymateb yn uniongyrchol i’r wythnosau cyntaf wedi’r brofedigaeth ac maent hefyd yn trafod y profiad dair blynedd yn ddiweddarach ac yn benodol, yr heriau, yr ofnau a’r rhwystrau sy’n parhau i wynebu rhywun. Ochr yn ochr â’r cerddi ceir darluniau gan yr artist Elin Lisabeth.”

Mwy: gwales.com

Rhuddin – Laura Karaodg (Barddas, 2021)

“Cyfrol unigryw a gwreiddiol yn y Gymraeg sy’n cyflwyno ysgrifau a cherddi newydd sbon ar wahanol themâu’n ymwneud â yoga a meddylgarwch.”

Mwy: gwales.com

Rhyd y Gro – Sian Northey (Gomer, Mawrth 2016)

getimg.php

Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad – dieithriaid, i bob pwrpas – sy’n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau’r ddau. Ond mae cymeriadau eraill yn llechu ar y cyrion, rhai arwyddocaol o ieuenctid Steffan.”

O ran cyflyrau iechyd meddwl, dydi Steffan (tad Efa’r prif gymeriad) ddim yn derbyn diagnosis yn y llyfr ond mae’n arddangos symptomau iselder ac mae’n dod yn agos at hunanladdiad. Mae o yn y gorffennol wedi cael ei ddenu tuag at ddyn arall ac mae’n amlwg ei fod methu dygymod â’r ffaith hwnnw. Mae yno hefyd hanes o broblemau iechyd meddwl ymysg y cymeriadau sydd ddim yn fyw ym mhresennol y llyfr ond ceir lot o’u hanes nhw – roedd Carys (mam Efa) wedi lladd ei hun hefyd cyn cyfnod y nofel mewn ffordd.

Mwy: gwales.com

Siarad – Lleucu Roberts (Y Lolfa, Tachwedd 2011)

getimggtm7ty64

“Mae’r nofel hon yn mynd i berfedd seicoleg un teulu sydd yn dioddef i’r byw o beidio ‘siarad’ â’i gilydd. Pan fo trychineb yn tarfu ar y byd ac ar fywydau personol, nid ‘siarad’ o anghenraid yw ein hymateb cyntaf, ond mae’n bosib i hyn fynd yn rhy bell, a dyma a gawn yma wrth i ni ddilyn cwymp Mair i grombil iselder.”

Mwy: gwales.com

Syllu ar walia’ – Ffion Dafis (Y Lolfa, Ionawr 2018)

getimg.php

“Mae’r actores adnabyddus Ffion Dafis wedi agor ei chalon am y tro cyntaf am golli ei mam i ganser, am yr hyrddiadau sy’n ei phlagio ac am ei pherthynas gymhleth gydag alcohol. Wrth fentro i dir y drwg mae Ffion Dafis yn siarad yn ddi-flewyn ar dafod am bynciau personol a thabŵ gan gynnwys rhai o gyfnodau anoddaf ei bywyd a’r brwydrau bu’n ei hymladd.”

tu ôl i’r awyr – Megan Angharad Hunter  (Y Lolfa, Tachwedd 2020)

“Dyma nofel arloesol gan awdur ifanc talentog. Mae’n dilyn taith dau gymeriad yn eu harddegau hwyr, Deian ac Anest, a’u perthynas ryfeddol drwy angst eu bywydau. Mae’n nofel sy’n mynd i wneud i chi chwerthin yn uchel, crio, a synnu gan ddawn anhygoel Megan Hunter i dreiddio’n ddwfn i feddyliau dau gymeriad a fydd yn aros yn y cof am amser hir.”

Mwy: gwales.com

Tywyll Heno – Kate Roberts (Gwasg Gee, 1962)

getimg-4

“Stori fer hir am wraig ganol oed, gwraig i weinidog, yng nghanol yr ugeinfed ganrif a ganfu fod amgylchiadau’r oes yn ormod iddi. Yr oedd yn rhy ifanc i fod yn gul ac yn rhy hen i fod yn wamal. Gwraig synhwyrus yn teimlo pob peth i’r byw, yn byw yng nghanol cymdeithas gyffredin ddideimlad. Aeth hynny’n drech na hi am gyfnod, a hanes y cyfnod hwnnw a geir yma. Ond fe ddaeth goleuni. Rhydd hanes ei phrofiadau fel y gwêl hi hwy.”

Mwy: gwales.com

Un Cam ar y Tro – Mair Wynn Hughes (Gwasg Gomer, 1986)

“Merch ysgol bymtheg oed yw Carys, a ffefryn ei thad. Dryllir ei bywyd pan wahana ei rhieni a phan â ei thad i fyw gyda’i gariad, Nesta. Bwyd yw ei hunig gysur, ond daw gorfwyta â rhagor o broblemau yn ei sgil.

Mae’r salwch sy’n dilyn – anorecsia – yn un sy’n drysu bywydau nifer o bobl ifanc ac sy’n ofid i lawer o rieni. Ond nid llawlyfr meddygol mo Un Cam ar y Tro: stori sensitif sydd yma am ferch ifanc a gafodd ei brifo ac sy’n gorfod cael help i ddod i ddeall a derbyn ei hymateb i’w theulu, ei chariad a’i chyfeillion.”

Mwy: gwales.com

Un Nos Ola Leuad – Caradog Pritchard (Y Lolfa, 1961)

getimgmr6jcx7q

“Un peth na ellir ei osgoi wrth ddarllen y nofel yw’r portread sydd ynddi o salwch meddwly Fam. Dysgwn yn weddol gynnar ei bod yn arfer crïo’n aml heb unrhyw reswm amlwg, a bod y Bachgen wedi dod i arfer â hynny. Dechreuodd edrych ar ei mab yn rhyfedd a rhyw olwg bell, oeraidd ac orffwyll arni. Gellir yn sicr olrhain camau yn hanes ei salwch meddwl a’i effaith annileadwy ar y Bachgen.”

Mwy: gwales.com

Wrth fy nagrau i – Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch, Hydref 2007)

getimg20wu4wq0

“Nofel afaelgar gan awdures brofiadol. Dyma nofel wedi’i lleoli mewn ysbyty meddwl, sy’n mentro i fyd y ‘nytars’ a’r gwrthodedig, gyda chanlyniadau annisgwyl. Sut mae cymdeithas yn penderfynu pwy sy’n wallgof? Pwy sydd â’r awdurdod i roddi gwragedd mewn ysbyty meddwl? Nofel gredadwy a chyfoethog.”

Mwy: gwales.com

Y Pump (y Lolfa, 2021)

“Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.”

Prynu’r gyfrol: meddwl.org

Eraill

Lliwio Cymru a Lliwio’r Chwedlau – Dawn Williams (Y Lolfa, 2016 a 2017)

“Mae seicolegwyr yn honni bod canolbwyntio ar liwio yn cael gwared ar feddyliau negyddol, yn gwella effeithiau straen, yn hwyl diniwed, yn gyfle i fod yn greadigol ac yn gwneud ichi ymlacio o ran y meddwl, y corff a’r enaid.”

Mwy: gwales.com

Termau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc – Delyth Prys (gol.) (Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru, Awst 2002)

getimg.php

“Geiriadur termau Cymraeg-Saesneg/Saesneg-Cymraeg hanfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â maes iechyd meddwl plant ac ieuenctid, gan gynnwys gweithwyr iechyd cymuned a gofal cychwynnol, athrawon ysgol a gweithwyr cymdeithasol.”

Mwy: gwales.com