Iechyd meddwl – angen mwy o ddarpariaeth Cymraeg : Golwg360

Yn ôl yr awdures ac ymgyrchydd iaith, Angharad Tomos, mae angen gwneud mwy dros gleifion Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd meddwl.

Mewn cyfweliad â Golwg, mae’n trafod ei phrofiad o ddioddef o iselder ar ôl genedigaeth ei phlentyn. Er ei bod yn ymgyrchydd iaith amlwg, roedd yn ei chael yn anodd iawn brwydro dros ei hawliau ei hun.

“Roedd yr ymwelydd iechyd ges i yn Gymraeg. Ond unwaith ges i fy nadansoddi bod gynna fi broblem iselder roedd pob cam yn y gwasanaeth yn Saesneg.

Ges i ymwelydd i ddod i ‘ngweld i yn y cartref, roedd hi’n Saesneg ei hiaith. Ces i fy nhrosglwyddo i Hergest – adran iechyd meddwl ysbyty Gwynedd – i weld seicolegydd, oedd o’n Saesneg ei iaith.”

Yn ôl yr awdures sydd wedi sgrifennu nofel bwerus yn trafod salwch meddwl, ‘Wrth fy Nagrau i’, mae mynegi’ch hunan mewn ail-iaith pan yn isel eich ysbryd yn hynod o anodd.

Darllen rhagor : Golwg360