Mynd i weld y Meddyg Teulu am broblem iechyd meddwl
Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich Meddyg Teulu.
Pryd dylwn i fynd i weld fy Meddyg Teulu?
Gellwch fynd i weld eich Meddyg Teulu unrhyw bryd rydych chi’n teimlo bod arnoch chi angen cymorth gydag unrhyw beth. Felly, os ydych yn teimlo’n isel eich ysbryd, o dan straen, yn methu ymdopi neu hyd yn oed yn clywed neu’n gweld pethau nad ydynt yna, peidiwch ag ofni trefnu apwyntiad.
Sut mae trefnu apwyntiad gyda’m Meddyg Teulu?
Yn gyntaf oll, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru. Unwaith i chi gofrestru, y cyfan sydd i’w wneud yw ffonio’r feddygfa a threfnu apwyntiad. Does dim rhaid i chi ddweud am beth y mae arnoch chi eisiau’r apwyntiad. Cewch ddweud ei fod yn ymwneud â phroblem iechyd meddwl, ond does dim rhaid i chi fanylu rhyw lawer o gwbl.
Cewch chi ofyn am feddyg penodol, am feddyg benywaidd neu wrywaidd, neu holi a oes un sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl. Gan na fydd apwyntiad yn para’n hwy na 10 munud fel arfer, gallwch ofyn am apwyntiad dwbl fel na fyddwch yn teimlo bod angen i chi frysio.
Cewch chi ddod â rhywun arall os ydych yn pryderu. Gall honno neu hwnnw siarad ar eich rhan, eich helpu chi i gofio’r hyn mae’r meddyg yn ei ddweud neu’n syml fod gyda chi yno a dal eich llaw.
Sut drefn a fydd ar yr apwyntiad?
Pan ewch at y Meddyg Teulu neu at wasanaeth iechyd meddwl arbenigol i ofyn am help, fe roir i chi gyfres o gwestiynau sydd a wnelont â’ch iechyd corfforol a meddyliol yn ogystal â’ch symptomau penodol. Bydd hyn yn helpu’r arbenigwyr i lunio braslun o’ch bywyd er mwyn pennu diagnosis. Bydd rhai o’r cwestiynau hyn yn eithaf personol a rhai ohonynt yn anodd eu hateb, sy’n hollol iawn. Nid yw’n hawdd siarad am eich iechyd meddwl gan ei fod yn fater preifat.
Gall eich asesiad gynnwys y themâu canlynol:
- Symptomau eich trafferth gyda’ch iechyd meddwl
- Sut rydych chi’n teimlo, eich meddyliau a’ch gweithredoedd
- Eich iechyd corfforol a’ch cyflwr cyffredinol
- Bywyd cartref a sut rydych chi’n cyd-dynnu â’ch ffrindiau, â’ch teulu ac â’ch cymar
- Defnydd cyffuriau ac alcohol
- Eich diogelwch chi a diogelwch eraill
- Pa fath o feddyginiaeth rydych chi eisoes yn ei defnyddio
- Profiad o broblemau cyffelyb
- Eich bywyd beunyddiol, eich cefndir a’ch diwylliant
Does dim angen i chi siarad am ddim ond y themâu rydych chi’n gyfforddus â hwy, ond mae’n llesol bod yn agored. Os ydych chi’n poeni, gallwch ysgrifennu popeth ymlaen llaw a dod â’r cwbl gyda chi. Gall hynny roi proc i’ch cof ac fe gewch chi ei ddarllen os ydych chi’n teimlo’n chwithig.
Ni chaiff eich problemau iechyd meddwl eu datrys mewn un apwyntiad gyda’r Meddyg Teulu, gwaetha’r modd. Serch hynny, dyma ddechrau ar y daith tuag at fodlonach chi.
Beth ddylwn i ei ofyn i’m Meddyg Teulu?
Os oes gennych gwestiynau, mentrwch eu gofyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall:
Eich diagnosis – Os dywedwyd wrthych fod arnoch anhwylder penodol, holwch beth mae hyn yn ei olygu a sut mae’n effeithio arnoch.
Eich triniaeth – Holwch ynghylch pob math o driniaeth sydd ar gael a thrafod eu manteision a’u hanfanteision. Yn ogystal â hynny, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael gwybod am faint y bydd y driniaeth yn para.
Be’ nesaf – Holwch beth yw’r cynllun. A ydych chi’n cael eich cyfeirio at arbenigwr neu at wasanaeth iechyd meddwl? Faint o amser bydd hynny’n ei gymryd? A ddylech chi drefnu apwyntiad arall gyda’ch Meddyg Teulu maes o law? A sut dylech chi ofalu am eich iechyd meddwl yn y cyfamser?
[Ffynhonnell: themix.org]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.