Ymdopi gydag arholiadau

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo o dan straen yn ystod y cyfnod arholiadau, ond mae llawer o bethau y galli di eu gwneud i ymdopi.

  1. Edrych ar ôl dy hun – digon o orffwys, cwsg, dŵr ac awyr iach.
  2. Paid ag adolygu drwy’r amser. Gwna amser bob dydd i ymlacio a gwneud rhywbeth rwyt ti’n mwynhau.
  3. Cofia mai dim ond cyfnod byr yw hwn.
  4. Llunia amserlen adolygu – cynllunia hi ymhell cyn i’r arholiadau ddechrau.
  5. Canfydda’r patrwm sy’n dy siwtio di – ar dy ben dy hun neu gyda ffrind neu riant/gofalwr; yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos; cyfnodau byr, dwys neu sesiynau hirach; gyda cherddoriaeth neu dawelwch. Mae pawb yn adolygu mewn ffordd wahanol.
  6. Gofynna am help gan dy athro, rhiant/gofalwr neu ffrind os wyt ti’n teimlo dan straen, neu os oes pethau nad wyt ti’n eu deall.
  7. Cynllunia bethau neis i’w gwneud dros yr haf.

Mae cyngor ar ymdopi gyda chanlyniadau arholiadau ar y dudalen hon.