Ymdopi gyda chanlyniadau arholiadau
Mae teimlo’n nerfus ac ansicr cyn casglu dy ganlyniadau yn naturiol. Dyma rai cynghorion gan @instagymraeg ar sut i ymdopi:
- Cynllunia rywbeth neis i’w wneud ar ôl casglu dy ganlyniadau.
- Trafoda dy opsiynau gydag athro neu gynghorydd gyrfaoedd.
- Cofia fod opsiynau eraill ar gael beth bynnag yw’r canlyniad.
- Siarada am sut wyt ti’n teimlo.
- Cymera dy amser. does dim rhaid i ti wneud penderfyniadau am dy ddyfodol ar frys.
- Canolbwyntia ar dy rinweddau nad ydynt yn cael eu marcio mewn arholiad.
- Paid a chymharu dy ganlyniadau di gyda rhai pobl eraill. mae pawb ar daith wahanol ac mae gyda ni gyd ein cryfderau.
- Casgla dy ganlyniadau gyda ffrind neu aelod o’r teulu.