Gwybodaeth

Gwybodaeth am gyflyrau, symptomau a phynciau

Agoraffobia

Agoraphobia

Ofn bod mewn sefyllfa na allwch ddianc yn hawdd oddi wrtho.

Alcohol

Mae dibyniaeth ar alcohol yn dod i’r amlwg pan fo unigolyn yn gaeth yn gorfforol ac/neu yn seicolegol.

Amaeth

Iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio yn y DU.

Anhwylder Affeithiol Deubegwn

Bipolar Disorder

Salwch a gysylltir â newidiadau eithafol mewn hwyliau.

Anhwylder Affeithiol Tymhorol

Seasonal Affective Disorder (SAD)

Math o iselder sydd yn effeithio ar unigolyn yn ystod tymor neu dymhorau penodol.

Anhwylder Dadbersonoli a Dadwireddu

Depersonalisation and Derealisation Disorder

Teimlo eich bod yn gwylio eich hun o du allan i’ch corff neu yn teimlo nad yw pethau o’ch cwmpas yn real.

Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif

Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD)

Cyflwr sy’n medru achosi nifer o symptomau emosiynol a chorfforol cyn neu yn ystod eich mislif.

Anhwylder Dysmorffia’r Corff

Body Dysmorphic Disorder (BDD)

Anhwylder gorbryder sy’n achosi person i gamfarnu sut maen nhw’n edrych.

Anhwylder Dysthymic

Dysthymic Disorder

Math ysgafnach, ond eto mwy parhaol, o iselder.

Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol

Obsessive Compulsive Disorder (OCD)

Math o anhwylder gorbryder sy’n achosi meddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol.

Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol

Dissociative Identity Disorder (DID)

Os oes gennych Anhwylder Hunaniaeth Ddatgysylltiol byddwch yn profi newidiadau sylweddol yn eich hunaniaeth.

Anhwylder Sgitsoaffeithiol

Schizoaffective disorder

Symptomau seicotig a symptomau sy’n ymwneud â hwyliau yn bresennol gyda’i gilydd yn ystod un episod.