Amaeth
Iselder a hunanladdiad yw prif achosion marwolaethau mewn cymunedau ffermio ar ynysoedd Prydain yn ôl Amser i Newid Cymru.
Mae nifer o ffactorau all effeithio’n negyddol ar ein hiechyd meddwl o fewn y byd amaeth, megis gweithio oriau hir, pwysau ariannol, clefydau anifeiliaid, cnydau gwael, unigedd ac unigrwydd, yn ogystal â ffactorau gwleidyddol megis Brexit a pholisïau.
Mae Tir Dewi ac Ymddiriedolaeth DPJ yn darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n gweithio yn y byd amaeth.