‘Y Pump’

£25

Mewn stoc

Set focs o bump nofel fer sy’n cydblethu. Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2022.

Tabl cynnwys

  • ‘Tim’ gan Elgan Rhys gyda Tomos Jones
  • ‘Tami’ gan Marged Elen Wiliam gyda Ceri-Anne Gatehouse
  • ‘Aniq’ gan Mared Roberts gyda Mahum Umer
  • ‘Robyn’ gan Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
  • ‘Cat’ gan Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

Rhagor o wybodaeth

Prosiect cyffrous ac uchelgeisiol o bum nofelig, 20,000 o eiriau yr un, i bobl ifanc, am bum cymeriad 16 oed, yn darganfod eu lle yn y byd. Cyfres gan bump o awduron a chyd-awduron ifanc, sy’n dathlu arallrwydd a gwahaniaeth, ac yn cofleidio cymhlethdodau pobl ifanc sy’n wynebu realiti oedolaeth a gadael plentyndod.

ISBN: 9781800990685 (1800990685)
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2021
Cyhoeddwr: Y Lolfa

Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5
Fformat: Clawr Meddal, 195×130 mm

I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.

Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.